19/03/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Mawrth 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Mawrth 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer adfywio economi Blaenau Ffestiniog? (WAQ51503)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nodir cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer adfywio economaidd yn 'Cymru’n Un’. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae partneriaeth o sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a chymunedol, yn cynnwys fy Adran i, yn datblygu rhaglen sy’n mynd i’r afael ag adfywio cyfannol yr ardal.

David Melding (Canol De Cymru): Dan raglen twf uchel Gweithredu Entrepreneuriaeth, sawl busnes a gefnogwyd a sawl swydd a grëwyd, ac a wnaiff ddatganiad? (WAQ51508)

Y Dirprwy Brif Weinidog: O dan Raglen 73 Twf Uchel Entrepreneur Action mae busnesau wedi’u cynorthwyo gan greu 192 o swyddi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ysgrifennu i fusnesau sydd wedi cofrestru ar y Rhaglen Twf Uchel gan gynnig pecyn newydd o gymorth i’r busnesau hynny ar ffurf grant am swm sy’n gyfwerth â’r cymorth y byddai pob un o’r busnesau hynny wedi bod â hawl iddo o dan y Rhaglen Twf Uchel. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i gynnig y cymorth hwn, ond creda mai dyma’r peth iawn i wneud ar gyfer sicrhau twf parhaus y busnesau hyn.

David Melding (Canol De Cymru): Faint o arian a ddarparwyd i Gweithredu Entrepreneuriaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a pha symiau oedd yn dal yn ddyledus adeg diddymu Gweithredu Entrepreneuriaeth? (WAQ51509)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Cyfanswm yr arian a dalwyd i Entrepreneur Action ar gyfer gweithgarwch o dan y Rhaglen Twf Uchel o 22ain Rhagfyr 2004 i ddyddiad y diddymu ar Chwefror 19, 2008 oedd £2,593,436 (yn cynnwys TAW). Roedd anfonebau gwerth £10,005 heb eu talu ar y contract hwn ar adeg y diddymu.

Cyfanswm yr arian a dalwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i Entrepreneur Action am Wasanaethau Cymorth Menter a ddarparwyd yng Ngogledd Cymru rhwng 1af Ebrill 2005 a dyddiad y diddymu ar Chwefror 19, 2008 oedd £343,090 (yn cynnwys TAW). Nid oedd unrhyw daliadau yn weddill ar y contractau hyn ar adeg y diddymu.

Cyfanswm yr arian a dalwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i Entrepreneur Action am Wasanaethau Cymorth Menter a ddarparwyd yn Ne-ddwyrain Cymru rhwng 1af Ebrill 2005 a dyddiad y diddymu ar Chwefror 19, 2008 oedd £2,852,800 (yn cynnwys TAW). Nid oedd unrhyw daliadau yn weddill ar y contractau hyn ar adeg y diddymu.

David Melding (Canol De Cymru): Pa asesiad a wnaethpwyd neu sydd wedi’i gynllunio i ganfod beth yw graddfa’r colledion i ddarparwyr yn y sector preifat a oedd wedi’u contractio i Gweithredu Entrepreneuriaeth? (WAQ51510)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn sefyllfa i wneud asesiad o rwymedigaethau Entrepreneur Action i sefydliadau trydydd parti.

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr anawsterau a wynebwyd gan Gweithredu Entrepreneuriaeth gan gynnwys arwydd o bryd yr oedd ei adran yn ymwybodol o’r anawsterau ariannol a oedd yn wynebu Gweithredu Entrepreneuriaeth? (WAQ51511)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Roedd Entrepreneur Action a Gwasanaethau Twf Uchel Entrepreneur Action yn gwmnïau atebolrwydd cyfyngedig annibynnol a oedd yn ceisio am gontractau cymorth busnes a ddyfarnwyd gan yr hen Awdurdod Datblygu Cymru.

Cafodd fy adran eu hysbysu ar lafar am yr anawsterau ariannol sy’n wynebu Entrepreneur Action gan gynrychiolwyr Bwrdd Entrepreneur Action ar 5 Chwefror 2008. Yn dilyn hyn hysbysodd y Bwrdd Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ysgrifenedig ar 19 Chwefror 2008 o’u bwriad i beri i’r cwmnïau fynd yn fethdalwyr o’u gwirfodd ar unwaith.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithredu’n briodol drwyddi draw o ran rheoli’r contractau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei warchod yn briodol.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i fuddsoddi unrhyw ran o’i gyllideb i ailddatblygu Glannau’r Barri ymhellach? (WAQ51525)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Caiff penderfyniadau ar ddyrannu cyllideb ar gyfer prosiectau adfywio eu cyhoeddi maes o law.

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog egluro pryd fydd Arosfa Crosskeys ar Reilffordd Glyn Ebwy yn agor ar gyfer gwasanaethau teithwyr? (WAQ51526)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Bwriedir agor Gorsaf Crosskeys ym mis Mai 2008. Cyhoeddir dyddiad agor ym mis Ebrill 2008 pan fydd gwybodaeth fanylach ar gael.

Irene James (Islwyn): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chyngor Blaenau Gwent, Network Rail, Trenau Arriva a rhanddeiliaid eraill ynghylch posibilrwydd gwasanaethau trên rhwng Casnewydd a Glynebwy? (WAQ51527)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Ni chynhaliwyd unrhyw drafodaethau ffurfiol. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn aros am ganlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ar adfer Cyffordd Gaer oddi wrth Network Rail.

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i wneud yr A465, ffordd Blaenau’r Cymoedd rhwng Hirwaun a’r Fenni, yn ffordd ddeuol? (WAQ51540)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Disgwylir i’r rhan sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd rhwng y Fenni a Gilwern fod ar agor yn llawn i draffig ym mis Mai. Cyflawnir y cynlluniau sy’n weddill yn ddarostyngedig i gael y caniatadau statudol angenrheidiol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at ymrwymiad Llywodraeth y DU y byddai ystad Llywodraeth y DU yn ddi-garbon erbyn 2012? (WAQ51515)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nid yw targed Llywodraeth y DU ar gyfer sicrhau bod ei ystad yn garbon-niwtral yn uniongyrchol berthnasol i Lywodraeth y Cynulliad.

Gwnaeth Llywodraeth y Cynulliad ei ymrwymiad ei hun yn Cymru’n Un i bennu targedau ar gyfer sicrhau bod adeiladau cyhoeddus yn garbon-niwtral a phennu targedau ar gyfer lleihau gollyngiadau o’r sector cyhoeddus fel rhan o’r ymrwymiad i gyflawni lleihad o 3% mewn gollyngiadau mewn meysydd lle mae’r pwerau wedi’u datganoli .

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu adolygiad manwl o’i hystad a’r opsiynau ar gyfer lleihau gollyngiadau. Mae gwaith yn mynd rhagddo i asesu’r opsiynau a’r dull o roi camau gweithredu ar gyfer lleihau gollyngiadau ar waith.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru y bydd adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau di-garbon o 2011 ymlaen? (WAQ51516)

Jane Davidson: Ein dyhead yw i bob adeilad newydd yng Nghymru fod yn ddi-garbon o 2011. Rydym yn ymdrechu i ddatganoli’r Rheoliadau Adeiladau i’n helpu i gyflawni hyn ac rydym yn defnyddio prosiectau a rhaglenni Llywodraeth y Cynulliad i dreialu technolegau a methodolegau a datblygu ein strategaeth ar gyfer safonau uwch.

Cydnabyddwn fod yr uchelgais hon yn heriol iawn ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda diwydiant a rhanddeiliaid eraill i edrych ar oblygiadau safonau uwch ar gyfer sgiliau ac ansawdd, technolegau a chostau.

Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy arwain y gwaith o ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys diwydiant a’r sector sgiliau—proffesiynol a masnach—er mwyn i ni allu gweithio’n gadarnhaol gyda busnesau i ddangos sut y gellir cyrraedd y safonau’n gost effeithiol a rhoi busnesau Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad.  

Nick Ramsay (Mynwy): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru y bydd adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau di-garbon o 2011 ymlaen? (WAQ51517)

Jane Davidson: Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol; mae’r mwyafrif yn cefnogi ein huchelgais.

Mae rhai cynrychiolwyr o’r diwydiant wedi mynegi pryderon ynglŷn â goblygiadau cyflawni’r uchelgais, ac rwy’n cydnabod ei bod yn heriol iawn.

Rwyf hefyd wedi cael sylwadau sy’n cefnogi’r angen i symud yn gyflym tuag at safonau cynaliadwyedd uwch. Amlygodd Syr John Houghton y mater hwn yn ei gyflwyniad i Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar 12 Mawrth.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i weithio gyda diwydiant a rhanddeiliaid eraill i edrych ar oblygiadau safonau uwch ar gyfer sgiliau ac ansawdd, technolegau a chostau. Rwyf hefyd wedi rhoi sicrwydd i randdeiliaid y bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’r Rheoliadau Adeiladu yn destun ymarfer ymgynghori ffurfiol cynhwysfawr ac asesiad effaith rheoleiddiol.  

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain ynghylch targed Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adeiladau di-garbon erbyn 2011? (WAQ51518)

Jane Davidson: Rwyf wedi trafod y mater hwn o adeiladau di-garbon gyda’r CBI ar nifer o achlysuron. Ar y cyfan mae’r CBI yn cefnogi dymuniad Llywodraeth y Cynulliad i symud tuag at adeiladau newydd di-garbon, ond maent wedi mynegi pryderon am oblygiadau cyflawni ein huchelgais o fod yn ddi-garbon erbyn 2011.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i weithio gyda diwydiant a rhanddeiliaid eraill i edrych ar oblygiadau safonau uwch ar gyfer sgiliau ac ansawdd, technolegau a chostau. Rwyf hefyd wedi rhoi sicrwydd i randdeiliaid y bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’r Rheoliadau Adeiladu yn destun ymarfer ymgynghori ffurfiol cynhwysfawr ac asesiad effaith rheoleiddiol.  

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o dai fforddiadwy sydd wedi cael eu hadeiladu ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mhob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf? (WAQ51528)

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Deallaf o wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mis Hydref 2007 iddynt gwblhau cyfanswm o 11 o unedau tai fforddiadwy yn y pum mlynedd diwethaf. Mae’r ystadegau tai a gasglwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a’r bwriad yw y caiff gwybodaeth fanwl am dai fforddiadwy ei chasglu yn y dyfodol i alluogi monitro perfformiad awdurdodau lleol yn y maes pwysig hwn.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A allwch gadarnhau a oes archwiliad yn cael ei gynnal ai peidio ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt eu polisïau cynllunio? (WAQ51529)

Jane Davidson: Ar gais Llywodraeth Cynulliad Cymru bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad o wasanaethau cynllunio’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn yr hydref eleni. Bydd yr adolygiad yn asesu’n benodol effaith y gwelliannau sy’n cael eu gwneud gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ogystal â cheisio nodi arfer da a allai gael ei rannu’n ddefnyddiol rhwng yr Awdurdodau Parciau, ac yn ehangach.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth oedd y gwariant fesul Ymddiriedolaeth GIG ar a) nyrsys asiantaeth a b) nyrsys cronfa yn y flwyddyn ariannol lawn ddiwethaf a hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon pan fydd ffigurau ar gael? (WAQ51505)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r gwariant fesul bwrdd iechyd lleol ar a) nyrsys asiantaeth a b) nyrsys cronfa yn y flwyddyn ariannol lawn ddiwethaf a hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon pan fydd ffigurau ar gael? (WAQ51507)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Roedd cyfanswm y gwariant ar nyrsys asiantaeth yn 2006/07 fesul Ymddiriedolaeth GIG / BILl fel a ganlyn:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Mawrth 2008

Ymddiriedolaethau’r GIG

£000oedd

Bro Morgannwg

322

Caerdydd a’r Fro

2,956

Sir Gaerfyrddin

305

Ceredigion a Chanolbarth Cymru

1

Conwy a Sir Ddinbych

56

Gofal Iechyd Gwent

6,099

Gogledd-ddwyrain Cymru

667

Gogledd Morgannwg

268

Sir Penfro a Derwen

418

Pontypridd a’r Rhondda

303

Abertawe

570

Felindre

30

BILlau

 

Powys

69

Cyfanswm

12,064

Ffynhonnell: Ffurflenni Ariannol GIG Cymru ar gyfer Cyfrifon Blynyddol 2006/07

Nid oes data archwiliedig ar gael ar hyn o bryd ar gyfer gwariant ar nyrsys asiantaeth fesul Ymddiriedolaeth GIG / BILl yn 2007/08.

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn casglu gwybodaeth am wariant ar nyrsys cronfa.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i ymestyn y Contract Nyrsio Asiantaeth Cymru Gyfan ar gyfer yr holl gytundebau neu drefniadau a wnaethpwyd gan fyrddau iechyd lleol? (WAQ51506)

Edwina Hart: Dechreuodd Contract Asiantaeth Nyrsys Cymru Gyfan ar 1af Medi 2006 ac fe’i dyfarnwyd am gyfnod o hyd at bedair blynedd. Roedd y contract wedi’i fwriadu’n bennaf i’w ddefnyddio gan Ymddiriedolaethau’r GIG ond gwahoddwyd pob BILl i gymryd rhan yn y broses cyn tendro. Mae’r contract dilynol yn cynnwys cymal sy’n caniatáu cyfranogiad llawn y BILlau ar unrhyw adeg yn ystod oes y contract.

Mae Grŵp Llywio Contract Asiantaeth Nyrsys Cymru Gyfan sy’n rheoli’r contract wedi nodi bod llawer o BILlau bellach yn gweithio tuag at y contract neu’n cymryd rhan weithgar ynddo. Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro.

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn? (WAQ51532)

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (y Fframwaith) hwn yn pennu fframwaith 10 mlynedd ar gyfer gwelliant yn seiliedig ar safonau cenedlaethol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru. Yn seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr o’r 18 mis cyntaf o weithredu, ar y cyfan gwneir cynnydd da yn erbyn y camau gweithredu, targedau a therfynau amser cychwynnol. Mae’r dadansoddiad yn deillio o gronfa ddata ar gyfer Cymru Gyfan, y Dull Archwilio Hunanaesu (SAAT) sy’n rhoi set helaeth o ddata ar statws gweithredu gan fyrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau lleol ar draws pob un o’r 10 o safonau’r Fframwaith. Yn seiliedig ar y dadansoddiad SAAT, roedd 44% o weithredoedd wedi’u cyflawni’n llawn, neu i raddau helaeth. Yn ogystal, ar gyfer 46% pellach o weithredoedd gwnaed cynnydd sylweddol ond mae angen rhagor o waith. Er bod y sefyllfa hon yn galonogol ar ôl 18 mis o weithredu, mae’n dangos bod angen pwyslais cryfach ar y Fframwaith hwn ledled Cymru gan bartneriaethau iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu pob un o’r safonau. Felly rwyf wedi ymestyn y cyfnod y dylid cyflawni camau gweithredu a thargedau Cam 1 hyd nes Mawrth 31ain 2009. Cyhoeddir adroddiad pellach ar y Fframwaith yn ddiweddarach eleni i nodi’r cynnydd ar weithredu yn 2008-09. Yn ogystal, cynhelir adolygiad ffurfiol o’r Fframwaith gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros y 18 mis nesaf.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd ganddi i fonitro datblygu ac ailgyflunio a) gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn, b) gwasanaethau ar gyfer osteoporosis a disgyn fel rhan o’r rhaglen waith i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn? (WAQ51533)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gefnogaeth a ddarperir i fyrddau iechyd lleol i roi sylw i unrhyw ddiffyg mewn gwasanaethau ar gyfer osteoporosis a ganfuwyd yn yr archwiliad o wasanaethau ar gyfer pobl hŷn fel rhan o’r rhaglen waith ar gyfer gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn? (WAQ51534)

Edwina Hart: O dan y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (y Fframwaith) cyfrifoldeb BILlau, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Lleol yw darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y Fframwaith o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer osteoporosis ac yn fwy cyffredinol o ran y Safon Genedlaethol ar Gwympiadau a Thoriadau.  

Caiff y gwaith a wneir o ran gweithredu’r Fframwaith ei fesur yn erbyn y camau gweithredu, targedau a therfynau amser cyhoeddedig. Mae Dull Archwilio Hunanaesu (SAAT) yn rhoi’r sail ar gyfer monitro statws gweithredu gan fyrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau lleol ar draws pob un o’r 10 o safonau’r Fframwaith. Cyfrifoldeb y cyrff statudol hyn yw defnyddio’r wybodaeth hon i ystyried sut y mae gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer osteoporosis yn cael eu datblygu a’u darparu’n lleol.

Mae Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Arthritis a chyflyrau Cyhyrysgerbydol yn rhoi canllawiau ar fynd i’r afael ag osteoporosis drwy groesgyfeirio camau gweithredu perthnasol a amlinellwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pa gynnydd sydd wedi’i wneud i sefydlu Oriel Anfarwolion ym myd Chwaraeon yng Nghymru? (WAQ51535)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Sefydlwyd Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru yn 1980. Mae’r Oriel Enwogion yn berchen ar nifer sylweddol o arteffactau chwaraeon Cymru sydd wedi’u rhoi o dan ofal y bwrdd ymddiriedolwyr, a gadeirir gan yr Arglwydd Brooks o Dremorfa. Cefais gyfarfod â’r Arglwydd Brooks a Geoff Bray, Ysgrifennydd Anrhydeddus, ar 25 Hydref 2007. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw mae fy swyddogion yn is-adran CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn cynnal trafodaethau â’r ymddiriedolwyr o ran y posibilrwydd o ddigido eitemau’r casgliad a’r posibilrwydd o arddangos eitemau mewn casgliad parhaol mewn lleoliad addas.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o’r 2.5 miliwn dos o’r brechlyn tafod glas (BTV8) sydd ar gadw gan ffermwyr Cymru hyd yn hyn? (WAQ51513)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): O dan reoliadau Ewropeaidd dim ond at ddefnydd mewn Parth Gwarchod y gellir awdurdodi brechu ar gyfer y Tafod Glas. Gan nad oes Parth Gwarchod wedi’i ddatgan hyd yma yng Nghymru nid oes archebion ymlaen llaw yn cael eu cymryd.