19/03/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2010 i’w hateb ar 19 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am holl brosiectau Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi profi mwy na 10% o danwariant yn y ddwy flynedd gyllideb diwethaf, gan enwi pob prosiect yn ogystal â lefel y tanwariant a) mewn canran a b) mewn termau absoliwt.  (WAQ55904)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ym mhob blwyddyn er 1999, beth yw cyfanswm gwerth y ddarpariaeth nas gwariwyd yn y gyllideb a neilltuwyd i’r Terfyn Gwariant Adrannol Gydol Oes sydd wedi: a) cael ei anfon yn ôl i Whitehall; a b) y llwyddwyd i’w adennill gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ffurf Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn. (WAQ55903)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gymorth sydd ar gael mewn ysgolion i blant gyda dyscalculia. (WAQ55892)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl chwaraeon yng nghynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r dyfodol ar gyfer addysg. (WAQ55896)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amser optimwm y dylai plant ei dreulio yn gwneud Ymarfer Corff bob wythnos. (WAQ55897)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru faint o amser a roddir i hyfforddi athrawon mewn Ymarfer Corff drwy gydol eu gyrfa. (WAQ55900)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru, cam wrth gam, y broses y mae’n rhaid i Ymddiriedolaeth GIG ei dilyn i gau ysbyty. (WAQ55893)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i gau Ysbyty Fairwood. (WAQ55894)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am 'Newid am Oes’. (WAQ55895)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyfarfod â Chyngor Chwaraeon Cymru i drafod y rôl y gall chwaraeon ei chwarae o ran gwella iechyd yng Nghymru. (WAQ55898)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rôl y gall chwaraeon ei chwarae o ran gwella iechyd yng Nghymru. (WAQ55899)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o ofalwyr sy’n gweithio mwy na 50 awr yr wythnos yng Nghymru. (WAQ55901)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r arweiniad a roddwyd i Ymddiriedolaethau’r GIG ar gau ysbytai. (WAQ55902)