Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mehefin 2014 i’w hateb ar 19 Mehefin 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, mae’r Gweinidogion yn ceisio ateb rhwng saith ac wyth diwrnod, ond nid yw’n orfodol iddynt wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y’u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i’r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Leighton Andrews (Rhondda): Beth yw Polisi Llywodraeth Cymru ar sefydlu prifysgolion preifat yng Nghymru? (WAQ67236)
Derbyniwyd ateb ar 17 Mehefin 2014
Weinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): The Government’s policy has not changed. The Higher Education (Wales) Bill, which was introduced into the Assembly in May, prevents institutions which do not have charitable status from applying to the Higher Education Funding Council for Wales for approval of a fee and access plan. Institutions in Wales will need to have an approved fee and access plan in place in order for their courses to be automatically designated for Welsh Government statutory student support. This policy will ensure that any financial advantage gained by institutions from the most generous elements of the Welsh Government student support package is invested in the public good. Private universities without charitable status will not be eligible for automatic student finance designation under these new arrangements.
Leighton Andrews (Rhondda): Pa brosesau sydd yn eu lle yng Nghymru i alluogi dyfarnu’r teitl ‘Prifysgol’ i sefydliadau? (WAQ67237)
Derbyniwyd ateb ar 17 Mehefin 2014
Huw Lewis: Applications for University title in Wales are subject to a rigorous scrutiny process by the Quality Assurance Agency, the Advisory Committee on Degree Awarding Powers and the Welsh Government amongst others before approval is sought from the Privy Council.
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae adran y Gweinidog yn eu cymryd i wella a) ymwybyddiaeth b) diagnosis ac c) triniaeth canser y pancreas yng Nghymru? (WAQ67225)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad a wnaeth y Gweinidog o gyfraddau goroesi canser y pancreas yng Nghymru am flwyddyn ac am bum mlynedd o’u cymharu â rhannau eraill y DU? (WAQ67226)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad a wnaeth y Gweinidog o’r wybodaeth sydd ar gael i gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser y pancreas mewn ysbytai a meddygfeydd Meddygon Teulu ledled Cymru? (WAQ67227)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gyswllt a gafodd y Gweinidog neu ei adran â sefydliadau’r trydydd sector i wella ymwybyddiaeth, diagnosis a thriniaeth a gofal canser y pancreas yng Nghymru? (WAQ67228)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd ar hyn o bryd i sicrhau bod gan bractisiau Meddygon Teulu fynediad at y dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir i roi diagnosis o ganser y pancreas? (WAQ67229)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod y cwricwlwm hyfforddiant meddygol yn hyrwyddo diagnosis cynnar o ganser y pancreas? (WAQ67230)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i adolygu’r llwybrau rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer atgyfeirio ac archwilio cleifion â chanser y pancreas? (WAQ67231)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion sy’n cael diagnosis o ganser y pancreas yn cael Nyrs Glinigol Arbenigol wedi’i neilltuo iddynt? (WAQ67232)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau y bydd triniaethau y profwyd eu bod o fudd i gleifion canser y pancreas yn cael eu darparu drwy GIG Cymru cyn gynted â phosibl? (WAQ67233)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau penodol i ganser y pancreas? (WAQ67234)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod dietegwyr bob amser yn aelodau o Dimau Amlddisgyblaeth canser y pancreas sy'n adolygu cleifion canser y pancreas? (WAQ67235)
Derbyniwyd ateb ar 20 Mehefin 2014 (WAQ67225-35)
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): All LHBs promote NICE Clinical Guidelines across primary and secondary care services. NICE Clinical Guideline ‘Referral Guidelines for Suspected Cancer’ recognises that diagnosis of pancreatic cancer on clinical grounds alone can be difficult, as the condition may initially present with a number of non specific symptoms. The Guidance encourages GPs to be alert to the possibility of a cancer diagnosis where there are unusual symptom patterns or where symptoms fail to resolve as expected.
Macmillan GP Advisors provide professional advice to GP practice teams and raise awareness of third sector resources to support patients and their families. GP practices are testing electronic tools to support more rapid diagnosis using information from patient’s records, including details about previous appointments, symptoms and family history, to calculate a patient’s risk of having cancer. This work focusses on the cancers that are more challenging to diagnose, including pancreatic disease.
GP practices have access to laboratory and ultrasound services and can seek specialist opinion when required. It is for Local Health Boards to ensure they have appropriate representation in MDT discussions.
The Together for Health -
Cancer Delivery Plan - A Delivery Plan up to 2016 for NHS Wales and its Partners, includes a specific action for Local Health Boards to assign a Key Worker to each person diagnosed with cancer and to introduce effective assessment and care planning. The key worker is often a clinical nurse specialist.
We have made no direct comparison of one-year and five-year survival rates for pancreatic cancer with other parts of the UK, however information on incidence and survival in Wales is available on the Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit (WCISU – Wales) website.
At this point consideration has not been given to specific awareness campaigns for pancreatic cancer.