19/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 19 October 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 19 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i'r Gweinidog dros Dreftadaeth

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ohebiaeth neu drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael â Llywodraeth y DU dros y chwe mis diwethaf ynghylch ymgyrch pensiynau cyn weithwyr Allied Steel and Wire. (WAQ54986)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Rwyf wedi cael cyfres o drafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ystod datblygiad y Cynllun Cymorth Ariannol, a gafodd ei sefydlu i roi cymorth i'r rhai sydd, fel cyn weithwyr Allied Steel and Wire, wedi dioddef colledion sylweddol i'w pensiynau yn sgîl ansolfedd cyflogwyr rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005.

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r broses ar gyfer gwneud cais am gyllid dan y fenter Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. (WAQ54983)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Ym mis Chwefror eleni, gwneuthum ddatganiad i'r Cyfarfod Llawn yn nodi bod y Llywodraeth hon, fel rhan o agenda 'Cymru'n Un', wedi gwneud ymrwymiad i ddarparu ysgolion sy'n addas i'r 21ain Ganrif, ac fy mod yn cynnig datblygu cynllun buddsoddi cyfalaf strategol hirdymor a fyddai'n ailwampio ac yn ailadeiladu pob ysgol yng Nghymru.

Bydd gweithredu rhaglen ysgolion y 21ain ganrif yn golygu newid sylweddol i awdurdodau lleol wrth i ni symud i ffwrdd o brosiectau unigol at ddull mwy strategol i fuddsoddi cyfalaf mewn ysgolion.  

Er mwyn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i wneud y newid sylweddol hwn, mae trefniadau trosiannol ar gyfer arian cyfalaf yn cael eu rhoi ar waith mewn tair cyfran wahanol ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2009-10 i 2011-2012.

Yn ystod cyfran gyntaf y cyllid, a gafodd ei chymeradwyo ym mis Chwefror 2009, aseswyd prosiectau i weld pa mor barod/cyflawnadwy oeddent yn y flwyddyn ariannol bresennol hon.

Yn ystod ail gyfran y cyllid a gafodd ei chymeradwyo ym mis Gorffennaf 2009, rhoddwyd ystyriaeth benodol i Achos Strategol ac Ariannol y prosiectau.  Wrth asesu'r achos strategol, ystyriwyd canlyniadau a buddiannau posibl bob prosiect: effaith ar leoedd ysgol yn cael eu haildrefnu; lleihau lleoedd gwag; a gallu i wneud arbedion effeithlonrwydd.

Bwriedir ystyried y drydedd gyfran ym mis Mai 2010 a bydd swyddogion yn darparu canllawiau i'r holl awdurdodau yn y Flwyddyn Newydd, er mwyn eu cynorthwyo i baratoi eu cynigion. Yn dilyn y cam pontio, caiff Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif ei gweithredu. Disgwylir i'r cyflwyniadau achosion busnes fod yn unol â Model Busnes Pum Achos Trysorlys EM. Byddwn yn ceisio targedu buddsoddiad pan fydd prosiectau'n ymddangos yn barod; ond yn bwysicach pan fydd angen wedi'i nodi. Caiff y meini prawf ar gyfer y cyllid hwn ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Lleol.

Yn seiliedig ar angen ac amgylchiadau lleol, bydd awdurdodau lleol unigol yn gyfrifol am benderfyniadau ar fuddsoddiadau cyfalaf mewn ysgolion.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Michael German (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ54894, a wnaiff restru’r holl eiddo a brynwyd ynghyd â’r pris a dalwyd am bob un. (WAQ54982)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

Mae'r tabl isod yn rhestru'r holl eiddo a brynwyd ynghyd â'r pris a dalwyd am bob un.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 19 October 2009

Eiddo

Pris a Dalwyd

Lower Lakes Farm, Trefonnen

£170,000

Old Cottage, Magwyr

£130,000

Barecroft House, Magwyr

£158,500

Pye Corner House, Trefonnen

£120,000

Ysgubor Newydd, Coedcernyw

£220,000

Moorbarn House, Trefonnen

£192,500

Horseshoe Cottage, Magwyr

£132,500

The Stud Farm, Coedcernyw

£315,000

The Maerdy, Coedcernyw

£680,000

Long House Farm, Coedcernyw

£720,000

Cae Glas, Trefonnen

£300,000

Greeenfield House, Trefonnen

£300,000

Woodlands House, Magwyr

£1,107,000

Undy House, Magwyr

£660,000

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ54852, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod pryd y mae’n disgwyl y caiff yr Achos Busnes Amlinellol ei gwblhau. (WAQ54984)

Rhoddwyd ateb ar 03 Tachwedd 2009

Ysgrifennaf mewn perthynas â’ch cwestiwn ysgrifenedig WAQ54984 lle roeddech yn gofyn pryd roedd disgwyl i’r achos busnes amlinellol gael ei gwblhau.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi penderfynu ar ddyddiad. Rydym yn dal i geisio penderfynu ar y ffordd fwyaf cost-effeithiol o wneud gwaith atgyweirio hanfodol ac ailwampio yn safle Parc Cathays gan sicrhau arbedion i’r pwrs cyhoeddus ar yr un pryd drwy ad-drefnu portffolio eiddo Llywodraeth y Cynulliad yn ardal ehangach Caerdydd.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y mae’r dyddiad cau ar gyfer rownd nesaf y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. (WAQ54985)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Cyhoeddais y prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ail gyfran cyllid y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF) ddydd Mawrth 20fed Hydref. Ni chytunwyd ar ddyddiad eto ar gyfer unrhyw arian Buddsoddi Cyfalaf Strategol yn y dyfodol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ54852, a wnaiff y Gweinidog roi gwybod os caiff yr Achos Busnes Terfynol ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ar gyfer trafodaeth cyn unrhyw benderfyniad gweinidogol. (WAQ54988)

Rhoddwyd ateb ar 03 Tachwedd 2009

Ysgrifennaf mewn perthynas â’ch cwestiwn ysgrifenedig WAQ54988 lle roeddech yn gofyn a fydd yr achos busnes terfynol yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad i’w drafod cyn unrhyw benderfyniad gan Weinidog.

Cyfrifoldeb uwch swyddogion a’r Gweinidogion perthnasol yw unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â rheoli portffolio eiddo gweinyddol Llywodraeth y Cynulliad.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa mor hir y saif y moratoriwm ar gynigion presennol ar gyfer newidiadau ar y lefel ysbytai cymunedol a pha asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’i fanteision i’r cyhoedd. (WAQ54989)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Fel y nodais yn ystod hydref 2007, cafodd moratoriwm y Prif Weinidog ar newidiadau i wasanaethau'r GIG (6ed Mehefin 2007) ei ddileu yn dilyn nifer o ddatganiadau a wnaed gennyf ar gynigion ailgyflunio'r GIG yng Nghymru.

O ganlyniad i hyn, ni chynhaliwyd y cynnydd ar y cynlluniau cytûn, a lle'r oedd materion i fynd i'r afael â hwy o hyd, comisiynais nifer o adolygiadau, y cyflwynais adroddiadau arnynt yn ystod gwanwyn 2008.

Roedd y moratoriwm yn gyfle i fyfyrio ar sut y gallai'r GIG ymgysylltu'n well â phobl leol ar newidiadau i wasanaethau ac ymgorfforwyd y gwersi â chanllawiau dros dro disgwyliedig ar ymgynghoriadau, a gyhoeddwyd ar 7 Hydref 2008.  

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y nyrsys newydd a gafodd y pŵer i ysgrifennu presgripsiynau ar ôl cyhoeddi Agenda Cymru’n Un. (WAQ54990)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau newydd a gymerwyd i ddatblygu cartrefi nyrsio di-elw fel y cynigir yn Agenda Cymru’n Un. (WAQ54991) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai.

Rhoddwyd ateb ar 27 Hydref 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Cyflwynoch Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad yn ddiweddar, yn gofyn pa gamau newydd y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cymryd i ddatblygu cartrefi nyrsio di-elw fel ag a gynigir yn Agenda Cymru’n Un.  Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi pasio’r cwestiwn imi ei ateb gan fod yr ymrwymiad hwn yn Cymru’n Un yn rhan o ´mhortffolio i.

Rydym wedi ystyried nifer o drywyddau posibl ar gyfer cyflawni’r ymrwymiad hwn ac rydym wrthi’n datblygu 'Model Canolfan Adnoddau’ ar y cyd ag awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Y pwrpas yw ailfodelu gwasanaethau er mwyn eu cynnal yn yr un lle.  Gallai hynny olygu datblygu ystod o wasanaethau ar yr un safle a allai gynnwys gwelyau cartrefi nyrsio, gofal dydd, cartrefi gofal ychwanegol, canolfan wybodaeth, swyddfa ar gyfer gwasanaethau cymunedol, meddygfa ac ati.  Gallai’r elfen cartref nyrsio ysgwyddo nifer o swyddogaethau gan gynnwys gwelyau tymor hir, gwelyau pontio at ddiben adsefydlu, gwelyau seibiant neu welyau meddygon teulu.  Byddai’r dewis o wasanaethau’n dibynnu ar anghenion lleol.

Rwy’n credu’n gryf y byddai hyn yn ffordd fwy hyblyg i ymateb i anghenion lleol a dylai brofi’n ddatblygiad cyffrous, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau na fydd y GIG yng Nghymru yn defnyddio ysbytai preifat erbyn 2011 a beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau arbenigol gorau posibl yn cael eu cadw ar gyfer cleifion. (WAQ54992)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Fe'ch cyfeiriaf at fy atebion i WAQ54656, 54657, 54658 a 54659 a gyflwynwyd i Jonathan Morgan a atebwyd gennyf ar 12 Awst 2009.  O ran eich cwestiwn am wasanaethau gofal arbenigol i gleifion, cyfrifoldeb sefydliadau'r GIG yw sicrhau bod eu cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau'r GIG sydd eu hangen arnynt.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfanswm nifer y nyrsys yng Nghymru sydd wedi cael y pŵer i ysgrifennu presgripsiynau. (WAQ54993)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arbenigwyr meddygol y mae’r GIG yn eu cyflogi o’i gymharu â’r sector preifat. (WAQ54994)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Nid ydym yn casglu gwybodaeth am arbenigwyr a gyflogir yn y sector preifat, felly ni allaf roi sylwadau ar y ffigurau cymharol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn cymharu nifer y meddygon sy’n gallu ysgrifennu presgripsiynau yng Nghymru o’i gymharu â chyfanswm nifer y nyrsys sy’n gallu ysgrifennu presgripsiynau yng Nghymru. (WAQ54995)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran sicrhau bod y GIG yn rhoi’r gorau i ddefnyddio ysbytai sector preifat. (WAQ54996)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Fe'ch cyfeiriaf at fy atebion i WAQ54656, 54657, 54658 a 54659 a gyflwynwyd i Jonathan Morgan a atebwyd gennyf ar 12 Awst 2009. O ran eich cwestiwn am wasanaethau gofal arbenigol i gleifion, cyfrifoldeb sefydliadau'r GIG yw sicrhau bod eu cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau'r GIG sydd eu hangen arnynt.

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud yng nghyswllt ymrwymiad Cymru’n Un i sicrhau bod plant ysgol yn ymgymryd ag o leiaf pum awr o weithgarwch corfforol bob wythnos. (WAQ54987)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Rydym yn gweithio ar draws portffolios Gweinidogol i gynyddu nifer y cyfleoedd i blant a phobl ifanc i fod yn heini drwy chwarae, chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol. Er enghraifft, mae rhaglen allgyrsiol y Cyngor Chwaraeon o'r enw '5X60' yn cael ei chyflwyno i 98% o ysgolion uwchradd. Bydd y Cynllun Gweithredu Gweithgarwch Corfforol rydym yn bwriadu ei lansio yn y flwyddyn nesaf yn rhoi hwb pellach i'n hymdrechion.