19/12/2014 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Rhagfyr 2014 i'w hateb ar 19 Rhagfyr 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd i hyrwyddo'r defnydd o gynnyrch masnach deg ar draws pob adran yn Llywodraeth Cymru? (WAQ68154)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Prif Weinidog o Cymru (Carwyn Jones): The Welsh Government's Wales for Africa programme funds Fair Trade Wales which is Wales' national organisation for Fair Trade education, policy, procurement, support and campaigning.

Fair Trade Wales work with communities, schools, organisations, individuals, Fair Trade groups, local government and the public in Wales to increase awareness and the use of Fair Trade produce in support of the Fair Trade Nation campaign.

A variety of Fair Trade events are held across government each year and Welsh Ministers actively support the annual Fair Trade Fortnight campaign.

The Welsh Government's catering contract for its administrative estate sets high standards for both local and ethical sourcing, including Fair Trade. Fair Trade food and confectionery items, including a full range of beverages, biscuits and snacks are available at all service times and Fair Trade products are also provided as part of the hospitality service. The contractor has also committed to increasing the number of Fair Trade products used year- on- year over the three year contract term, and this is regularly monitored.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr amserlen ar gyfer yr adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010? (WAQ68152)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ystyried cyfreithloni ffensys anifeiliaid nad ydynt yn cael eu rheoli gan berchenogion yn yr adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010? (WAQ68153)

Derbyniwyd ateb ar 23 Rhagfyr 2014 (WAQ68152-153)

Y Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd (Rebecca Evans):  I am very aware of the commitment to review this legislation. We are in discussion with the Wales Animal Health and Welfare Framework Group on a range of welfare issues, which will include seeking their view on the policy intent of the existing legislation of using electronic collars on dogs and cats. Once received, I will set out the next steps and timing in a written statement.

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd annibynnol yng Nghymru? (WAQ68156W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Ddiprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Ken Skates): Disgrifir strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer holl amgueddfeydd Cymru yn 'Strategaeth Amgueddfeydd Cymru 2010-2015'.

Cafodd y strategaeth hon ei datblygu drwy gydweithio'n agos gydag amgueddfeydd o bob math  a maint ledled Cymru. Mae'n cynnig camau ymarferol y gallai pob amgueddfa eu cymryd i wella gwasanaethau ac i ddangos y manteision y mae'n eu cynnig i'r gymdeithas gyfan. 

Mae'r strategaeth ar gael o wefan Llywodraeth Cymru:

http://wales.gov.uk/topics/cultureandsport/museumsarchiveslibraries/cymal/museums/strategy/?skip=1&lang=cy

Crëwyd grŵp llywio ar gyfer y Strategaeth Amgueddfeydd, ac ar y grŵp hwnnw mae cynrychiolwyr o'r Gymdeithas ar gyfer Amgueddfeydd Annibynnol a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. Mae CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn cyhoeddi cofnodion pob cyfarfod ar y wefan uchod.

Ar 24 Hydref, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd Adolygiad Arbenigol yn cael ei gynnal o amgueddfeydd lleol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwnnw'n galw am dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys yr amgueddfeydd annibynnol eu hunain. Defnyddir casgliadau'r adolygiad i lunio'r fersiwn nesaf o Strategaeth Amgueddfeydd Cymru, sef y strategaeth ar gyfer 2016-2021.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ymweld ag amgueddfa ac oriel gelf Dinbych-y-pysgod? (WAQ68157W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Ddiprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Ken Skates): Yn dilyn gohebiaeth yn gynharach y mis hwn rwyf wedi gwahodd Curadur Anrhydeddus Amgueddfa Dinbych-y-pysgod i gysylltu â'm Hysgrifennydd Dyddiadur er mwyn trefnu cyfle i mi ymweld â'r amgueddfa yn y flwyddyn newydd. 

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw barn Llywodraeth Cymru o waith amgueddfeydd annibynnol yng Nghymru? (WAQ68158W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Ddiprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Ken Skates): Mae amgueddfeydd annibynnol yn gwneud cyfraniad sylweddol o safbwynt gwarchod a hybu treftadaeth Gymreig fel rhan o ddarpariaeth amgueddfeydd lleol yng Nghymru. Mae dros 50 o amgueddfeydd annibynnol sydd wedi'u hachredu ar draws y wlad. Bydd y Panel Arbenigwyr a fydd yn cynnal yr adolygiad o wasanaethau amgueddfeydd lleol, a gyhoeddais ym mis Hydref, yn ystyried yn benodol effaith newidiadau arfaethedig awdurdodau lleol ar amgueddfeydd annibynnol.

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn unol â'r grymoedd yn y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd mewn sefyllfaoedd lle: (i) nad yw awdurdod lleol wedi pennu targedau twf ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg; (ii) wedi pennu targedau nad ydynt yn ddigon heriol neu uchelgeisiol; (iii) wedi pennu targedau ond heb eu cyflawni? (WAQ68136W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis):   Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol (Cymru) 2013 yn rhoi'r pŵer i fi gymeradwyo Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, eu cymeradwyo gyda gwelliannau neu eu gwrthod.  O'r 19 Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a gymeradwyais gyda gwelliannau, roedd gofyn i 17 osod targedau  neu amlinellu gweithgarwch ar gyfer cynyddu nifer disgyblion saith oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg.  Bydd y broses o gymeradwyo Cynlluniau diwygiedig bob blwyddyn yn ein galluogi i gadw golwg ar y cynnydd a wnaed o ran y targedau hyn.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fforddiadwyedd cyfraniad Llywodraeth Cymru at raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif o fewn y terfynau amser canlynol: 2015-16, 2016-17, 2017-18, 2018-19? (WAQ68139W)

Derbyniwyd ateb ar 23 Rhagfyr 2014

Huw Lewis: Ym mis Rhagfyr 2011, cyhoeddwyd buddsoddiad gwerth £1.4 biliwn yng nghylch cyntaf  prosiectau ysgolion yr 21ain ganrif. Mae'r cyllid hwn yn cael ei roi ar sail arian cyfatebol 50:50, ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru. Yn gynharach eleni lansiwyd Menter Benthyca Llywodraeth Leol, a fydd yn buddsoddi oddeutu £170 miliwn o arian arloesol ym mlynyddoedd cynnar y Rhaglen, sy'n golygu y bydd y gwaith o'i darparu'n cael ei gyflawni ddwy flynedd ynghynt.       

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gyda phwyslais arbennig ar brosiectau sy'n ymwneud yn benodol ag addysg Gymraeg? (WAQ68140W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhadfyr 2014

Huw Lewis: Ers lansio Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn swyddogol, mae buddsoddiadau mewn 55 o brosiectau wedi eu cymeradwyo, gyda 32% ohonynt yn brosiectau cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd, a mwy yn yr arfaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyrru'r broses o fuddsoddi cyfalaf strategol drwy'r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Felly, mae rheidrwydd ar awdurdodau lleol a sefydliadau cymwys eraill i gynllunio mewn modd strategol. Os oes tystiolaeth bod galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, rhaid i gynlluniau strategol yr awdurdod lleol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg gyd-fynd ag unrhyw gynigion ar gyfer buddsoddi cyfalaf.

Mae Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, yn parhau'n allweddol o ran gwerthuso achosion busnes, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn ffordd briodol a thrylwyr.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau sydd wedi'i hadnabod yn adroddiad interim Arad ar y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg? (WAQ68141W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis: Mae'r adroddiad interim a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi syniad inni o gasgliadau cychwynnol y gwerthusiad tair blynedd o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Casgliadau interim yw'r rhain, ac mae Arad yn parhau i hel tystiolaeth i'w helpu i lunio'r casgliadau a'r argymhellion terfynol. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, ac fe'i defnyddir i lywio'r broses o adolygu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ystod 2015-16.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad interim Arad ar y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg? (WAQ68142W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis:  Mae'r adroddiad interim a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi cipolwg o ganfyddiadau cynnar y gwerthusiad tair blynedd o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Canfyddiadau interim yw'r rhain, fodd bynnag, ac mae Arad yn casglu tystiolaeth o hyd a fydd yn sail i'r casgliadau a'r argymhellion terfynol. Disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, a bydd yn sail i'r broses o adolygu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ystod 2015-16.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw diffiniad Llywodraeth Cymru o 'symbylu twf' mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg? (WAQ68143W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis:  Golyga hyn gamau a gymerir dan Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol i sicrhau bod mwy o ddisgyblion saith oed yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa gamau rhesymol y dylai awdurdodau lleol eu cymryd, fel rhan o'u Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, er mwyn 'symbylu twf'? (WAQ68144W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis:  Bydd  angen ystod o ddulliau gwahanol gan fod pob ardal a phob Cynllun yn wahanol.  Ond disgwylir i awdurdodau lleol weithio gyda Mudiad Meithrin a darparwyr cyn-ysgol eraill, defnyddio data Mudiad Meithrin, gweithredu systemau rhagamcanu llefydd ysgol, cynnal arolygon mesur y galw  pan fo'n berthnasol, a chodi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni.  Hefyd, dylent osod targedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer disgyblion saith oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod yr addysg a gynigir gan ysgolion cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf bosibl.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd er mwyn sicrhau fod gan rhanddeiliaid rôl fwy strategol wrth gyfranogi i fforymau addysg Gymraeg? (WAQ68145W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis):  Gofynnir i awdurdodau lleol i sefydlu Fforymau Addysg Cyfrwng Cymraeg yng nghyd-destun Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Mater i bob Fforwm unigol yw sefydlu ei amodau gorchwyl ei hun a'r ffyrdd y mae am gyflawni ei rôl.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw diffiniad Llywodraeth Cymru o swyddogaethau y fforymau addysg Gymraeg mewn perthynas â cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg? (WAQ68146W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): Mater i bob Fforwm unigol yw sefydlu ei amodau gorchwyl ei hun a'r ffyrdd y mae am gyflawni ei rôl.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch cenedlaethol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, ac i nodi: (i) cyllideb yr ymgyrch honno, fesul blwyddyn; (ii) blaenoriaethau'r ymgyrch; a (iii) deilliannau er mwyn mesur llwyddiant yr ymgyrch? (WAQ68147W)

Derbyniwyd ateb ar  19 Rhagfyr 2014

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): Cafodd yr ymgyrch tair blynedd i godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ei lansio ym mis Tachwedd 2013. Y nod yw rhoi gwybodaeth glir i rieni a gofalwyr am natur darpariaeth cyfrwng Cymraeg a'r opsiynau sydd ar gael iddynt.

Cyllideb yr ymgyrch yn 2013-14 oedd £155,000 a'r gyllideb ar gyfer 2014-15 oedd £75,000. Nid yw'r gyllideb ar gyfer 2015-16 wedi'i chadarnhau eto.  

Amcanion/blaenoriaethau'r ymgyrch yw:

  • cynnal rhaglen ymchwil farchnad a fydd yn sail i negeseuon a gweithgareddau'r ymgyrch gan gynnwys cyfres o grwpiau ffocws gyda chynulleidfaoedd ac athrawon cynradd;
  • datblygu a gweithredu Ymgyrch Farchnata Genedlaethol a fydd yn defnyddio sianeli cyfathrebu lefel uchel er mwyn codi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog;
  • rhoi gwybodaeth a chanllawiau i randdeiliaid sy'n gyfrifol am gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni ynghylch addysg ee Awdurdod Lleol (Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd)/Derbyniadau i'r Ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi gwybodaeth gywir a chyson i rieni am addysg cyfrwng Cymraeg;
  • datblygu gofod/porth ar-lein ar gyfer rhieni a fydd yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog;
  • cydweithio ag ymgynghoriaeth farchnata er mwyn datblygu negseuon cryf ar gyfer yr ymgyrch a chysyniadau o ran brandio a gaiff eu profi gyda chynulleidfaoedd targed;
  • cydweithio â phartneriaid cyflenwi ar gyfer y gynulleidfa darged hon hy Twf, Mentrau Iaith, Mudiad Meithrin ynghylch dull marchnata penodol. Diben hyn fydd hybu'r neges ar lefel leol a rhanbarthol sy'n ategu'r Ymgyrch Genedlaethol gyffredinol;
  • cydweithio ag ysgolion er mwyn eu cynorthwyo i gydweithio â rhieni o fewn eu cymunedau.

     
    Caiff yr ymholiadau a'r ystadegau ynghylch y wefan eu mesur yn rheolaidd er mwyn barnu pa mor effeithiol yw'r ymgyrch. Byddwn hefyd yn gwerthuso'n rheolaidd effeithiolrwydd gwahanol sianeli cyfathrebu a faint o bobl y maent yn eu cyrraedd.  


    Mae'r gweithgareddau sydd wedi'u cynnal hyd yma yn cynnwys:
  • ymgyrch posteri yn yr awyr agored ar lefel genedlaethol;
  • Ymgyrchoedd lleol penodol o fewn 6 o awdurdodau lleol;
  • Deunyddiau cenedlaethol a gaiff eu dosbarthu i dros 20,000 o deuluoedd drwy Book Start;
  • Lansio tudalen Dewis: Choice ar Facebook, sydd â thros 680 o ddilynwyr ac sy'n cyrraedd yn rheolaidd dros 6,000 o bobl bob wythnos;
  • Lansio fideos er mwyn hybu addysg feithrin ac addysg gynradd cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhain wedi cael eu gwylio 1,716 a 1,300 o weithiau;
  • Lansio ap Cymraeg i Blant ar gyfer rhieni a phlant ifanc at ddiben eu cynorthwyo i ddysgu geiriau Cymraeg syml. Cafodd yr ap ei lawrlwytho dros 1,000 o weithiau yn ystod y tair wythnos gyntaf. 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyfarwyddyd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol mewn perthynas â sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd fel rhan o ddatblygiadau tai newydd o dan y cynlluniau datblygu lleol? (WAQ68148W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis: Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried sefydlu ysgol newydd mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried gwahanol ffactorau. Y ffactor pwysicaf un yw effaith y cynigion ar ansawdd a safonau o safbwynt addysg. 

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw datblygu cynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion yn unol ag anghenion ac amgylchiadau lleol. Dylai'r cynigion sicrhau bod cydbwysedd y ddarpariaeth yn adlewyrchu cydbwysedd y galw.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyfleoedd sy'n codi o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, mewn perthynas â sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, fel rhan o ddatblygiadau tai newydd o dan y cynlluniau datblygu lleol? (WAQ68149W)

Derbyniwyd ateb ar  19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis: Cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio perthnasol yw penderfynu pa seilwaith y mae ei angen er mwyn hwyluso gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol. 

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gyda'r Llywodraeth i waredu lleoedd gweigion yn ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn ehangu addysg Gymraeg? (WAQ68151W)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Huw Lewis: Nid cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw creu cynlluniau o'r fath. Yr awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i gynllunio lleoedd yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn eu hardal. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol adolygu ystâd eu hysgolion yn barhaus er mwyn sicrhau ei bod yn darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ar gyfer yr holl ddysgwyr. Cynyddu y mae'r galw am y ddau fath o ysgol mewn rhai ardaloedd.

 

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ariannu arfaethedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? (WAQ68150)

Derbyniwyd ateb ar 19 Rhagfyr 2014

Mark Drakeford: Neither my officials or the health board are aware of any forthcoming funding proposals for mental health services in north Wales.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog datganiad ynglŷn â gwasanaethau ambiwlans yn Llanelli? (WAQ68159W)

Y Ddirprwy Weinidog Iechyd (Vaughan Gething): Rwy'n siomedig gyda ffigurau perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn Llanelli ac ar draws Cymru yn gyffredinol. Nid dyma'r ffigurau y mae'r gwasanaeth ambiwlans, y byrddau iechyd a'r cyhoedd am eu gweld.

Mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans sicrhau ei fod yn ymateb yn gyflym i alwadau brys ledled Cymru, a rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod cleifion yn cael eu cymryd oddi ar ambiwlansys yn gyflym ar ôl cyrraedd yr ysbyty fel bod yr ambiwlansys yn rhydd i ateb yr alwad frys nesaf. Rwyf wedi egluro wrth bob bwrdd iechyd yng Nghymru, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, fy mod yn disgwyl gweld gwelliant sylweddol yn eu perfformiad wrth ymateb mewn argyfwng. 

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus.

Gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog nodi'n gyhoeddus yr ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad ar y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2015-16? (WAQ68138)

Derbyniwyd ateb ar 23 Rhagfyr 2014

Y Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (Leighton Andrews): Yes.  The information will be placed on the Local Government funding section of the Welsh Government website. 

http://wales.gov.uk/topics/localgovernment/finandfunding/?lang=en

 

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd i hyrwyddo'r defnydd o gynnyrch masnach deg ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru? (WAQ68155)

Derbyniwyd ateb ar 23 Rhagfyr 2014

Y Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (Leighton Andrews): The Welsh Government's Wales for Africa programme funds Fair Trade Wales which is Wales' national organisation for Fair Trade education, policy, procurement, support and campaigning.

Fair Trade Wales work with communities, schools, organisations, individuals, Fair Trade groups, local government and the public in Wales to increase awareness and the use of Fair Trade produce in support of the Fair Trade Nation campaign.

Fair Trade Wales supports all local authorities with resources and advice. 18 have Fairtrade Status. Each of these has passed a resolution in support of fair trade and has agreed to serve fair trade products (tea, coffee, sugar and biscuits) at their internal meetings and in their canteen facilities. The Wales Purchasing Consortium has integrated Fair Trade into their policies and 19 local authorities are looking at ways to integrate Fair Trade into joint national purchasing contracts.