Atebion a roddwyd i Aelodau ar 21 Ionawr 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi parhaus cyn cyhoeddi’r adroddiad am swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol ym mhrosiect Merthyr Tudful? (WAQ50843)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Yr wyf yn ymddiheuro am yr oedi wrth gyhoeddi’r adroddiad terfynol ar brosiect swyddfa Merthyr Tudful a elwir yn adroddiad terfynu. Fe’m sicrhawyd y caiff adroddiad drafft ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Parhaol ym mis Chwefror ac y caiff copi ei roi yn Llyfrgell yr Aelodau cyn gynted ag y caiff ei gwblhau.
Nick Ramsay (Mynwy): A yw’r Prif Weinidog wedi cwrdd ag arweinwyr grwpiau Plaid Lafur 22 awdurdod lleol Cymru er mwyn trafod setliad cyllido llywodraeth leol eleni? (WAQ50845)
Y Prif Weinidog: Cyfarfûm â sawl arweinydd o grŵp y Blaid Lafur ar ddechrau mis Rhagfyr i drafod setliad cyllid llywodraeth leol eleni. Yr wyf hefyd wedi trafod materion llywodraeth leol, gan gynnwys y setliad, â chynrychiolwyr llywodraeth leol mewn cyfarfod o’r Cyngor Partneriaeth ar 29 Tachwedd. Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, sydd â phrif gyfrifoldeb dros faterion llywodraeth leol hefyd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr awdurdodau lleol fel rhan o’r broses ymgynghori ar y setliad refeniw llywodraeth leol dros dro.
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu gwella gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru? (WAQ50840)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Gwnaeth swyddogion o’m tîm rheilffyrdd, Fforwm Llinell Calon Cymru, gan gynnwys consortia teithio’r awdurdodau lleol a Threnau Arriva Cymru, gwblhau gweithdy arfarnu gwerthuso diwrnod cyfan ar welliannau posibl ar 17 Ionawr 2008. Nododd y gweithdy rywfaint o waith gwerthuso pellach a gaiff ei gwblhau maes o law.
Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwerthusiad.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa ganran o’r nwy naturiol hylifedig (LNG) a ddarperir yn y derfynell LNG yn Aberdaugleddau a fydd yn cael ei defnyddio yng Nghymru? (WAQ50839)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Gallai terfynellau LNG Aberdaugleddau gyflenwi tua 20 y cant o ofynion nwy y DU wrth i gronfeydd wrth gefn Môr y Gogledd leihau. Mae rhwydweithiau ynni yn gymhleth a bydd canran y nwy hwn a ddefnyddir yng Nghymru yn dibynnu ar dri pheth: faint o LNG sydd ar gael, y galw am nwy yn uniongyrchol yng Nghymru a faint o drydan a gaiff ei fewnforio i Gymru o orsafoedd a gaiff eu tanio â nwy yng ngweddill y DU. Er bod Cymru yn defnyddio tua 6 y cant i 7 y cant o gyfanswm cyflenwad nwy y DU yn uniongyrchol, oherwydd diffyg gallu i gynhyrchu, mae de Cymru yn mewnforio trydan o Loegr, a chynhyrchir llawer o’r ynni hwnnw gan orsafoedd a gaiff eu tanio â nwy. Lle y mae terfynellau LNG yn weithredol, gellir disgwyl i gyfran gynyddol o’r nwy a ddefnyddir i gyflenwi trydan o Loegr i Gymru ddod o Aberdaugleddau.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynyddu’r pellteroedd lleiaf rhwng tyrbinau gwynt ac eiddo? (WAQ50841)
Jane Davidson: Ceir canllawiau ar agosatrwydd tyrbinau gwynt at anheddau preswyl yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy. Mae hwn yn nodi '500m is currently considered a typical separation distance between a wind turbine and residential property to avoid unacceptable noise impacts, however when applied in a rigid manner it can lead to conservative results and so some flexibility is advised’. Mae’r mater yn ymwneud llai â phellter nag y mae â’r angen i gyfyngu’r sŵn o ffermydd gwynt i 5 desibel (dBA) yn uwch na sŵn cefndirol yn ystod y dydd a’r nos.
Gellir archwilio’r pellteroedd gwahanu rhwng tyrbinau gwynt ac eiddo preswyl fel rhan o waith mireinio awdurdodau cynllunio lleol a fesul achos wrth achos, gan ystyried topograffi a chyfeiriadedd, wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu hawliau mynediad canŵ-wyr ar afonydd a dyfrffyrdd yng Nghymru? (WAQ50842)
Jane Davidson: Ar hyn o bryd nid oes gan y Cynulliad y pwerau deddfwriaethol i newid hawliau cyfreithiol presennol tirfeddianwyr ac eraill mewn perthynas â mynediad at afonydd a dyfrffyrdd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i hyrwyddo cyfleoedd ehangach o ran gweithgareddau hamdden ar adnoddau dŵr helaeth Cymru. I’r diben hwn yr ydym wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru baratoi cynllun strategol newydd ar weithgareddau hamdden yn ymwneud â dŵr. Dylai’r gwaith hwn gael ei gwblhau maes o law a chaiff cynllun gweithredu ei ddatblygu wedyn er mwyn gweithredu ar elfennau cytûn, allweddol o’r cynllun. Hefyd, yn ystod 2007-08 yr ydym yn ariannu nifer o brosiectau enghreifftiol ar fynediad i ddŵr, ac os byddant yn llwyddiannus, cânt eu hailadrodd mewn lleoedd eraill.
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A all y Gweinidog restru’r holl ffermydd gwynt sydd ar waith yng Nghymru, gan roi manylion y gallu a osodwyd, yn ogystal ag enw a chenedligrwydd y gweithredwr? (WAQ50846)
Jane Davidson: Rhoddir y manylion yn y tabl isod. Cafwyd y wybodaeth yn y tair colofn gyntaf gan Gymdeithas Ynni Gwynt Prydain.
Fferm wynt (ar y tir) |
Capasity MW |
Gweithredwr |
Cenedligrwydd |
Llyn Alaw |
20.4 |
npower Renewables |
Almaenig |
Rhyd-y-Groes |
7.2 |
B9 Energy |
Gwyddelig |
Trysglwyn |
5.6 |
npower Renewables |
Almaenig |
Blaen Bowi |
3.9 |
Windjen Power Cyf |
Cymreig |
Parc Cynog |
3.6 |
Nuon Renewables |
Is-gwmni o’r Iseldiroedd yn y DU |
Cefn Croes |
58.5 |
RDC/Falck Renewables |
RDC - Albanaidd, Falck - Eidalaidd |
Dyffryn Brodyn |
5.5 |
Renewables Energy Systems |
DU |
Llangwyryfon |
9.35 |
Cumbria Windfarms |
DU |
Mynydd Gorddu |
10.2 |
npower Renewables |
Almaenig |
Rheidol |
2.4 |
Renewables Energy Systems |
DU |
Moel Maelogen |
2.6 |
Cwmni Gwynt Teg Cyf |
Cymreig |
Moel Maelogen (Mawla) |
1.3 |
Energiekontor |
Almaenig |
Tir Mostyn a Foel Goch |
21.25 |
Gamesa |
Sbaenaidd |
Haffoty Ucha 1 |
0.6 |
Tengi Windpower |
Cymreig |
Estyniad Haffoty Ucha 2 |
1.7 |
Tengi Windpower |
Cymreig |
Estyniad Haffoty Ucha 3 |
0.85 |
Tengi Windpower |
Cymreig |
Ffynnon Oer |
32 |
npower Renewables |
Almaenig |
Fferm Castle Pill |
0.5 |
NIK Energy |
Cymreig |
Bryn Titli |
9.9 |
npower Renewables |
Almaenig |
Carno "A" a " B" |
33.6 |
npower Renewables |
Almaenig |
Cemmaes |
15.3 |
Cumbria Windfarms Ltd |
DU |
Mynydd Clogau |
14.45 |
Renewables Energy Systems |
DU |
Llandinam P&L |
30.9 |
SKM |
DU/Awstralaidd |
Trelai Taf |
9 |
npower Renewables |
Almaenig |
Ar y môr |
|||
North Hoyle- Gwastatir Rhyl |
60 |
npower Renewables |
Almaenig |
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynyddu microgynhyrchu i gyflenwi ynni? (WAQ50856)
Jane Davidson: Nodir y polisi yng Nghynllun Gweithredu Microgynhyrchu Llywodraeth y Cynulliad yn:
http://new.wales.gov.uk/about/departments/dein/publications/microgenplan?lang=en
Sefydlwyd grwpiau gweithio i ddatblygu tair thema gyffredinol y cynllun (addysg, ymchwil, ymwybyddiaeth a hyfforddi; adeiladau, cynllunio ac adeiladu; a busnes, masnacheiddio a seilwaith).
Yn 'Cymru’n Un’, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i lunio strategaeth ynni i gynnwys, ymhlith pethau eraill, camau gweithredu o ran microgynhyrchu.
Bydd microgynhyrchu yn rhan helaeth o’r ymgynghoriad ar fap llwybr ynni adnewyddadwy a fydd yn llywio datblygiad y strategaeth ynni, ac y bwriadaf ei gyhoeddi maes o law.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl dargedau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u gosod ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er 1999, pan gawsant eu cyflwyno, a phryd y disgwylir eu cyrraedd? (WAQ50850)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyflwynwyd targedau cenedlaethol yn 2002-03 fel rhan o’r fframwaith gwella perfformiad.
Ers 2002-03 mae rhwng 18 a 40 o dargedau cenedlaethol wedi cael eu cyflwyno bob blwyddyn, ac maent i’w cyflawni erbyn Mawrth 31 o bob blwyddyn ariannol, gydag ambell eithriad.
Mae hefyd 12 o dargedau cynnydd mewn iechyd cenedlaethol sy’n cwmpasu pum maes iechyd â blaenoriaeth yng Nghymru: clefyd coronaidd y galon, canser, iechyd plant, iechyd meddwl ac iechyd pobl hŷn. Cyflwynwyd y targedau hyn yn 2004 a rhaid eu cyflawni erbyn 2012.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ehangu archwiliadau ar gyfer cleifion i ganfod clefyd yn gynt? (WAQ50855)
Edwina Hart: Mae rhaglenni sgrinio newydd sy’n ategu’r broses o ganfod clefyd yn fuan yn cael eu hystyried a’u datblygu drwy’r amser. Mae’r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol yn gwneud argymhellion i Weinidogion ac i’r GIG ar bolisi sgrinio a’i weithredu gan ddefnyddio tystiolaeth ymchwil, rhaglenni treialu a gwerthusiadau economaidd.
Ym mis Chwefror 2007, cyhoeddodd fy rhagflaenydd y byddai rhaglen sgrinio y coluddyn yn cael ei sefydlu yng Nghymru. Mae sgrinio am ymlediad aortaidd yr abdomen a rhaglen rheoli risg fasgwlaidd hefyd yn cael eu hystyried.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gyfateb y cyhoeddiadau diweddar a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog y DU ynghylch glanhau ysbytai’n drwyadl? (WAQ50859)
Edwina Hart: Yr wyf yn benderfynol o wella glendid mewn ysbytai. Yr ydym wedi pennu safonau uchel o ran glendid yn ein hysbytai sydd i’w gweithredu gan ymddiriedolaethau unigol y GIG. Mae Safonau Gofal Iechyd Cymru 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymddiriedolaeth gynhyrchu strategaeth glendid a chynllun glanhau.
Ym mis Hydref anfonais dimau archwilio hylendid i ddau ysbyty, Nevill Hall a Threforys. Gwnaethant edrych ar unedau damweiniau ac achosion brys y ddau ysbyty ac ymweld â’r adran derbyniadau meddygol a’r wardiau wroleg yn Nhreforys a’r wardiau llawdriniaeth acwit a meddygol aciwt yn Nevill Hall. Ffocws y gwiriadau oedd edrych ar lendid yr amgylchedd i gleifion, perthnasau a gofalwyr ac i sicrhau y gallant gynnal y ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd diogel o safon. Yr wyf wedi cael adroddiad ar yr hapwiriadau rhain yn Ysbytai Treforys a Nevill Hall, ac mae’r ymddiriedolaethau yn gweithredu ar argymhellion yr adroddiad. Bydd y rhaglen o hapwiriadau dirybudd yn parhau ledled Cymru drwy gydol 2008.
Yr wyf hefyd wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried sut y gallwn rymuso prif nyrsys wardiau ymhellach i sicrhau y caiff safonau eu cyrraedd a’u cynnal. Bydd y grŵp hwn yn adrodd yn ôl i mi erbyn diwedd mis Mawrth eleni.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa swyddogaeth y mae’r Gweinidog yn ystyried sydd gan lanhau’n drwyadl i leihau heintiau sy’n cael eu dal mewn ysbytai? (WAQ50860)
Edwina Hart: Mae gan system lanhau dwys rôl i’w chwarae, er enghraifft, pan gaiff ward ei chau oherwydd achosion o heintiau, ond nid yw’n effeithiol oni ddilynir hyn gan system lanhau ddyddiol reolaidd.
Er mwyn cael ysbytai glân rhaid eu glanhau yn rheolaidd yn ôl y manylebau a nodir yn ein safonau glendid cenedlaethol mewn ysbytai.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar achos Ama Sumani y gorfodwyd iddi adael Cymru a dychwelyd i Ghana er gwaethaf ei chyflwr meddygol terfynol? (WAQ50852)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Oherwydd nad yw’r mater hwn yn ddatganoledig, rwyf heddiw wedi ysgrifennu at Liam Byrne AS, y Gweinidog Gwladol dros Ffiniau a Mewnfudo, ynglŷn â’r mater hwn.