21/01/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 21 January 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 21 Ionawr 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

David Melding (Canol De Cymru): Pa gyfran o gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael eu dyfarnu i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd ariannol canlynol; 2003-4, 2004-5, 2005-6, 2006-7, 2007-8, 2008-9. (WAQ55405)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y wybodaeth hon yn llawn.  Fodd bynnag, yn y blynyddoedd ariannol 2002/3, 2004/5 a 2007/8, comisiynwyd dadansoddiad o'r wybodaeth o lyfrau pryniant y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nid yw'r dadansoddiad yn ein galluogi i nodi pa gontractau a ddyfarnwyd i BBaChau (busnesau bach a chanolig) yng Nghymru ond maent yn ein galluogi i ddadansoddi gwariant yng Nghymru.

• Yn 2003 cafodd amcangyfrif o 35% o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru ei wario ar fusnesau â chod post yng Nghymru. Nid oedd ffigur penodol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gael bryd hynny.  

• Yn 2005/6 cafodd amcangyfrif o 45% o wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wario ar fusnesau â chod post yng Nghymru.

• Mae'r dadansoddiad diweddaraf o ddata 2007/08 yn dynodi cynnydd o 2% gydag amcangyfrif o 47% o wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei wario gyda busnesau â chod post yng Nghymru. Mae hyn yn werth amcangyfrifedig o £138m. Mae £50m pellach yn ymwneud â gwariant sy'n cwmpasu gwasanaethau cynnal a chadw a chymorth TGCh ar safleoedd ac fe'i hanfonebir gan gyflenwyr fel Siemens, Post Brenhinol a BT y mae iddynt oll bresenoldeb sylweddol yng Nghymru ond â chodau post y tu allan i Gymru.

• Cymerwyd llawer o gamau cadarnhaol i wella cyfleoedd i BBaChau yng Nghymru i allu cynnig am fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru gan gynnwys:-

o Llofnodi'r 'Siarter Agor Drysau' - ac ymrwymo i wneud contractau yn agored ac yn hygyrch i BBaChau.

o Sicrhau y caiff holl gyfleoedd contract Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n werth mwy na £25mil eu hysbysebu ar y wefan gaffael genedlaethol www.gwerthwchigymru.co.uk. Yn ystod 2008/9 hysbysebwyd tua 350 o dendrau o'r fath drwy'r porth.  

o Datblygu gwefan gwerthwchigymru.co.uk er mwyn i brif gontractwyr llwyddiannus allu hysbysebu cyfleoedd i'w cyflenwyr ail/trydedd haen - gan alluogi BBaChau i gystadlu am gontractau mawr;   

o Annog datblygiad y gadwyn gyflenwi drwy ddigwyddiadau 'Cwrdd â'r Prynwr'. Mae prif gontractwyr y ddau gontract adeiladu newydd ar gyfer LlCC wedi cynnal digwyddiadau a hysbysebu cyfleoedd ar Gwerthwchigymru. O ganlyniad uniongyrchol dyfarnwyd gwerth tua £250,000 o waith i gwmnïau lleol yng Nghyffordd Llandudno ac o'r £13.2 miliwn a wariwyd ar adeiladu hyd yn hyn, mae dros £8.5 miliwn (64%) wedi ei wario'n lleol.

David Melding (Canol De Cymru): Pa gyfran o gontractau Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael eu dyfarnu i gwmnïau yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd ariannol canlynol; 2003-4, 2004-5, 2005-6, 2006-7, 2007-8, 2008-9. (WAQ55406)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Cyfeiriwch at yr ymateb a roddwyd i WAQ55405.

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau fframwaith ym mhroses caffael Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ55407)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Caiff cytundeb fframwaith ei ddyfarnu i un neu'n fwy o gyflenwyr yn dilyn tendr cystadleuol. Nid yw'n sicrhau unrhyw lefel o wariant ond mae'n amlinellu'r amodau lle gellir galw am nwyddau a gwasanaethau pan fydd eu hangen. Maent ar waith am gyfnod o bedair blynedd ar y mwyaf fel arfer. Cwmpesir y rheolau o ran sefydlu a defnyddio cytundebau fframwaith gan y Cyfarwyddebau Caffael Ewropeaidd.

Fel rhan o'r broses gaffael, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod nifer o gontractau fframwaith bob blwyddyn i gefnogi ei gweithgaredd busnes.  

Caiff y penderfyniad i osod fframwaith ei nodi ar ddechrau'r ymarfer caffael fel arfer pan fydd y strategaeth gaffael yn cael ei thrafod a'i datblygu. Defnyddir cytundebau fframwaith lle y ceir cryn gontractio ailadroddus am nwyddau neu wasanaethau tebyg o fewn maes nwyddau penodol.

Mae cytundebau fframwaith yn rhoi'r manteision canlynol:

• Arbedion yn y broses fusnes. Mae gosod fframwaith yn rhyddhau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyflenwyr rhag treulio amser yn ffwdanu dros brosesau tendro ailadroddus a gellir galw am nwyddau a gwasanaethau yn hawdd o hyd. .

• Effeithlonrwydd busnes Ar ôl rhoi fframwaith ar waith gellir cyflenwi gofynion caffael ar raddfa fawr hyd yn oed a gwneud hynny'n gyflym i sicrhau ymateb hyblyg a dynamig i anghenion dinasyddion a busnes.

• Cynyddu gwerth y bunt yng Nghymru i'r eithaf. Drwy gydgasglu gofynion at ei gilydd mewn fframwaith gall Llywodraeth Cynulliad Cymru gael gwell gwerth am arian drwy greu ymateb mwy cystadleuol o'r farchnad.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio cytundebau fframwaith a sefydlwyd ar sail Cymru gyfan neu'r DU gyfan hefyd, lle maent yn rhoi gwerth am arian a lle nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr yng Nghymru.   

Mae enghreifftiau'r fframweithiau a osodwyd neu a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn cynnwys cytundebau ar gyfer dodrefn, archebion teithio, cymorth dechrau busnes, gwaith ymchwil, peirianneg, rheoli digwyddiadau, nwyddau TG traul a gwasanaethau argraffu.

Yn unol ag ymrwymiadau a wnaed yn yr uwchgynadleddau Economaidd yn 2009, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod fframweithiau sydd wedi eu cynllunio i sicrhau y caiff BBaChau yng Nghymru bob cyfle i ennill y busnes mewn cystadleuaeth deg ac agored. Nid yw cydgasglu'r galw yn ei gwneud hi'n ofynnol i gydgasglu'r cyflenwadau hefyd, a rhoddir ystyriaeth ofalus felly i'r ffordd y caiff fframweithiau eu gosod er mwyn sicrhau na wahaniaethir yn erbyn BBaChau. Gall hyn gynnwys rhannu'r gofynion yn 'Lotiau’ yn ôl rhanbarth neu gynnyrch.

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil fel y cyflwynwyd gan Gyngor Cyllido Lloegr. (WAQ55403)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Mae'r trefniadau newydd ar gyfer asesu gwaith ymchwil - y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil - yn cael eu datblygu drwy'r DU gyfan gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU.  Aeth y cyrff cyllido ati yn ystod y cyfnod hyd at ganol mis Rhagfyr i ymgynghori ar y cyd ar sail y DU gyfan ar gynigion am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac maent yn dadansoddi'r ymatebion erbyn hyn,   Cymerwyd mantais lawn o'r cyfle hwn gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gyflwyno eu barn ar ystod eang o faterion ymchwil yn ymwneud â Chymru.

Caiff drefniadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil eu pennu'n derfynol yng Ngwanwyn 2010 yn sgil ymatebion yr ymgynghoriad.  Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ymwneud â'r broses hon yn llawn, a bydd yn parhau i gysylltu â swyddogion LCC.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Busnes Rhyngwladol Cymru wedi'i wneud o ragolygon Emiraeth Dubai fel ffynhonnell o fasnach a mewnfuddsoddiad yng ngoleuni'r argyfwng ariannol yn yr Emiraeth. (WAQ55401)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Yn 2009, mewn ymateb i ymarfer adborth cleientiaid, dywedodd llawer o'n cleientiaid wrthym eu bod yn gweld cyfle yn Dubai, lleoliad pwysig sy'n cynnal ffeiriau masnach i gwmnïau o bedwar ban byd, a'r Emiraethau Arabaidd ehangach fel marchnad ac fel canolbwynt.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):  Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lwyddiant presenoldeb Busnes Rhyngwladol Cymru yn y ffair adeiladwaith o'r enw 'Big 5 Trade Fair’ yn Dubai rhwng 21-27 Tachwedd 2009. (WAQ55402)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Cyfanswm y cyfleoedd busnes a gofnodwyd yn syth ar ôl y digwyddiad gan gwmnïau o Gymru oedd £172,000 a nodwyd cyfleoedd pellach.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Busnes Rhyngwladol Cymru yn gobeithio ei gyflawni yn sgil ei ymweliadau â Dubai yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2010 i ymweld â digwyddiadau'r Ffair Fasnach Iechyd Arabaidd a Gulfood. (WAQ55404)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Bydd y ddau ddigwyddiad yn rhoi llwyfan i gwmnïau o Gymru i ddangos eu cynhyrchion, datblygu eu henw da yn y farchnad ac ennill busnes newydd.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i weithredu cynllun yng Nghymru sy’n debyg i Gynllun Sgrapio Bwyleri Llywodraeth y DU. (WAQ55400)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried cyflwyno cynllun sgrapio boeleri tebyg yng Nghymru, ac rydym wrthi'n paratoi cyfres o gynigion sy'n ystyried yr effaith ar y rhai sy'n dioddef tlodi tanwydd, yr arbedion carbon cymharol a gwerth am arian.  Os caiff cynllun sgrapio boeleri ei gyflwyno yng Nghymru, mae'n debygol y bydd mwy o bwyslais ar dargedu cartrefi sy'n dioddef o dlodi tanwydd o dan gynllun i Gymru.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio gwneud cyhoeddiad terfynol ar y mater hwn yn y dyfodol agos.