Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 22 Chwefror 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gwneud cais i'r gronfa Buddsoddi i Arbed, pa rai sydd wedi llwyddo a faint o arian a ddyrannwyd i bob un. (WAQ55662)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i gylch cyntaf y Gronfa Buddsoddi i Arbed gyda 102 o ddatganiadau o ddiddordeb yn dod i law, a oedd yn cynnwys 64 gan GIG, 30 gan lywodraeth leol, 6 gan sefydliadau AU a 2 gan y trydydd sector. Gwnaed nifer o geisiadau lluosog gan rai cyrff, felly 31 oedd nifer gwirioneddol y sefydlaidau a gyflwynodd ffatganiad o ddiddordeb.
Nodir manylion y prosiectau hynny a ddatblygir gyda chymorth y Gronfa Buddsoddi i Arbed, a gwerth y cymorth hwnnw isod.
Teitl y prosiect |
Arweinydd y prosiect |
Gwerth y cymorth (£) |
Cyfran 1 ( cyhoeddwyd ym mis Hydref 2009) |
||
Cydweithredu CCTV-Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam, Ynys Môn a Heddlu Gogledd Cymru |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
805,000 |
Cyflwyno system e-gaffael cyfnewidcymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
217,292 |
Datblygu GWE tadodaethol |
Cyngor Dinas Casnewydd |
450,000 |
Canolfan Wyneb yn Wyneb Aml-asiantaeth i Gasnewydd |
Cyngor Dinas Casnewydd |
700,000 |
Rhaglen Ddatblygu Gwasanaethau Integredig Powys - Cam 1 |
Cyngor Sir Powys a BILI Addysgu Powys |
500,000 |
Cardiff Plc-datblygu canolfan aml-asiantaeth un stop a chefn swyddfa a rennir i ddinasyddion i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus di-dor |
Cyngor Caerdydd |
115,900 |
Asedau tir ac eiddo |
Cyngor Caerdydd |
252,000 |
Face, Space and Place |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr |
1,468,000 |
Gwelyau Gwellhad |
Cyngor Sir Gâr |
200,000 |
Cynllun Adfer Ariannol-Gwasanaethau i Gleifion ac Ailstrwythuro Rheoli Cyfleusterau |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys |
60,000 |
Aml-ymyriad |
Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe |
350,000 |
Tim Ymateb Aciwt |
Ymddiriedolaeth Hywel Dda |
1,112,000 |
System dreulio electronig integredig y GIG ar y we |
Partneriaeth Cymorth Busnes Gogledd Cymru |
62,000 |
Gwneud galwadau ffôn dors rwydwaith band eang y sector cyhoeddus |
Hysbysu Gofal Iechyd |
750,000 |
Uned Cymroth Presgripsiynau Dadansoddol Cymru (WAPSU) |
Polisi Cymunedol, Gofal Sylfaenol a’r Gwasanaeth Iechyd |
352,000 |
Cludo Cleifion nad ydynt yn rhai brys |
Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
300,000 |
Cynllun Gwasanaeth ac Ariannol 5 mlynedd |
Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
500,000 |
Cyfran II (cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2010)
Teitl y prosiect |
Arweinydd y prosiect |
Gwerth y cymorth (£) |
Creu Canolfan Un Stop ar gyfer myfyrwyr |
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd |
718,500 |
Lleihau Allyriadau Carbon a’r defnydd o Ynni |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
850,000 |
Troi’r Ardd yn Wyrdd |
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru |
21,420 |
Rhaglen Foderneiddio Ysgolion |
Cyngor Sir Powys |
155,000 |
Gweithio Hyblyg |
Cyngor Sir Fflint |
262,500 |
Powys Di-bapur |
Cyngor Sir Powys |
375,000 |
Strategaeth Maethu-Gwario i Gynilo |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
470,835 |
Adolygiad Systemau Darbodus o Wasanaethau Asesu a Rheoli Achosion Plant a Phobl Ifanc |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
374,730 |
Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa a’r prosiectau a gefnogir ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad:
http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/bettervfm/efficiency/i2savefund/?lang=en
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): At ei gilydd faint o arian a ddyrannwyd yn nwy gyfran gyntaf y gronfa Buddsoddi i Arbed. (WAQ55663)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Cyfanswm gwerth yr arian a ddarperir i'r prosiectau a gyhoeddwyd yn y ddwy gyfran gyntaf o'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yw £11.5 miliwn. Dyrennir yr arian hwn i brosiectau yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r un nesaf, yn dibynnu ar bryd y mae'r prosiectau'n dechrau.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pryd y bydd y Gweinidog mewn sefyllfa i benderfynu ar ddyfodol Ysgol Treganna yng Nghaerdydd. (WAQ55659)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae nifer fawr y gwrthwynebiadau a chymhlethdod y cynnig yn golygu nad yw'n bosibl dweud ag unrhyw sicrwydd pryd y caiff penderfyniad ei gyhoeddi. Ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gwneir hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ond ni ellir gwarantu hyn.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru er 1990 a sut maent yn cymharu â chanlyniad y DU i gyd a gyhoeddwyd ar 2il Chwefror. (WAQ55664)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae ffigurau'r DU a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror yn ymwneud â chymhariaeth â blwyddyn sylfaen. Mae'r flwyddyn sylfaen yn cynnwys allyriadau carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus yn 1990, ac allyriadau hydrofflworocarbonau, perfflworocarbonau a swlffwr hecsafflworid yn 1995.
Roedd allyriadau'r DU o'r chwe nwy tŷ gwydr sydd wedi'u cynnwys ym Mhrotocol Kyoto 19.4% yn is yn 2008 nag yn y flwyddyn sylfaen. Ni chaiff ffigurau Cymru ar gyfer 2008 eu cyhoeddi tan fis Medi. Fodd bynnag, roedd cyfanswm yr allyriadau yng Nghymru 14.9% yn is ar gyfer 2007 nag yn y flwyddyn sylfaen.
Noder: Caiff allyriadau ar gyfer pob blwyddyn eu hailgyfrifo bob blwyddyn gan ddefnyddio'r fethodoleg ddiweddaraf.
Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am leihau CO2 yng Nghymru er 1990 a sut mae'n cymharu â ffigurau'r DU a ryddhawyd ar 2il Chwefror 2010. (WAQ55665)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Roedd allyriadau carbon deuocsid net y DU 10.1% yn is yn 2008 nag yn 1990. Ni chaiff ffigurau Cymru ar gyfer 2008 eu cyhoeddi tan fis Medi. Fodd bynnag, roedd allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru ar gyfer 2007 9.5% yn is nag oeddent yn 1990.
Noder: Caiff allyriadau ar gyfer pob blwyddyn eu hailgyfrifo bob blwyddyn gan ddefnyddio'r fethodoleg ddiweddaraf.
Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd at gynhyrchu 4TWh o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010. (WAQ55666)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i wneud Cymru yn ddarparwr ynni gwyrdd blaenllaw. Ar hyn o bryd amcangyfrifwn y cynhyrchir tua 3TWh o'r trydan a ddefnyddir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy - ynni dŵr, ynni gwynt, nwy tirlenwi, treulio carthion yn anerobig a biomas. Ceir cryn dipyn o ddiddordeb gan ddatblygwyr mewn perthynas ag amrywiaeth y technolegau newydd, yn cynnwys biomas, ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, ynni tonnau ac ynni'r llanw. Amcangyfrifwn fod hyd at tua 3,000MW o brosiectau datblygu ynni adnewyddadwy ychwanegol, naill ai â chaniatâd neu'n rhan o'r broses gynllunio, ac rwy'n hyderus y bydd capasiti ychwanegol sylweddol ar gael dros y blynyddoedd i ddod i ragori'n sylweddol ar y targed o 7TWh erbyn 2020.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl dos o Tamiflu oedd GIG Cymru wedi ei archebu yn ymateb i'r pandemig ffliw moch diweddar, a beth oedd cyfanswm y gost. (WAQ55660)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Dim - Ni archebodd GIG Cymru unrhyw Tamiflu ar gyfer ymateb i'r pandemig ffliw moch. .
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl dos o Tamiflu sydd wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn i frwydro yn erbyn ffliw moch. (WAQ55661)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Nid yw'n bosibl datgan sawl dogn o Tamiflu a ddefnyddiwyd i fynd i'r afael â ffliw moch yn benodol, oherwydd defnyddir Tamiflu i drin symptomau sy'n debyg i'r ffliw.