22/02/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2012 i’w hateb ar 22 Chwefror 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gydymffurfiad Selonda UK â’r amodau a oedd ynghlwm wrth grantiau cyllido blaenorol Llywodraeth Cymru a WEFO. (WAQ59772)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ffyniant economaidd cynhyrchu pysgod môr ar dir a pha mor gymwys yw prosiectau o'r fath ar gyfer cymorth marchnata ac ariannol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. (WAQ59774)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad diweddaraf Estyn ar addysg yn Nhor-faen. (WAQ59758)W

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd yn dilyn adroddiad Estyn ar Addysg yng Nghyngor Sir Tor-faen. (WAQ59759)W

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad Llywodraeth Cymru o’r risg o lygredd yn fferm bysgod Anglesey Aquaculture ym Mhenmon, Ynys Môn. (WAQ59771)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Ar ôl i gynrychiolwyr o Selonda UK bledio'n euog i ryddhau cemegau ac elifion masnach ym mis Hydref 2011, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i drydydd parti annibynnol fonitro’r cyfleusterau ym Mhenmon. (WAQ59773)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa lefel o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i darparu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Gyn-filwyr ym mhob un o’r tair blynedd nesaf. (WAQ59760)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud yng Nghymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad Dr Andrew Murrison, Fighting Fit, fel sgrinio dilynol i filwyr arferol a milwyr wrth gefn 12 mis ar ôl iddynt adael y gwasanaeth a darparu gwefan lles meddyliol ar-lein. (WAQ59761)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o grwpiau hunangymorth i gyn-filwyr dan arweiniad nyrs sydd wedi bod ar waith yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ59762)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A gynhaliwyd prosiect peilot o’r gwasanaethau therapi arbenigol i asesu’r graddau a pha mor barhaus oedd y manteision i gyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma ac, os felly, a wnaiff y Gweinidog nawr gyhoeddi canlyniadau’r prosiect peilot. (WAQ59763)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch trosglwyddo cofnodion y lluoedd arfog i feddygon teulu yng Nghymru.  (WAQ59764)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Anhwylder Straen wedi Trawma i Gyn-filwyr, a gyhoeddwyd y llynedd, a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r argymhellion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. (WAQ59765)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw’r Gweinidog wedi adolygu’r canlyniadau a’r gofynion am wasanaethau Iechyd Meddwl a Lles ac, os felly, a wnaiff nawr gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad. (WAQ59766)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud i gwmpasu a datblygu modiwl penodol o’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau sy’n ymwneud â thrin cyn-filwyr y lluoedd arfog. (WAQ59767) Trosglwyddwyd i'w ateb gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw pob aelod o staff gofal sylfaenol nawr yn cael hyfforddiant ar symptomau anhwylder straen wedi trawma a’r driniaeth ar ei gyfer. (WAQ59768)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pryd oedd y tro diwethaf i’r Gweinidog adolygu hyfforddiant staff y GIG i sicrhau eu bod yn hollol ymwybodol o gynllun y GIG i roi blaenoriaeth i drin cyn-filwyr. (WAQ59769)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ganran o feddygon teulu yng Nghymru sydd nawr yn defnyddio system godio i fflagio materion sy’n ymwneud â chyn-filwyr y lluoedd arfog. (WAQ59770)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Gweinidog wedi cyhoeddi arweiniad i BILlau ynghylch cynnal profion rheolaidd ar fenywod beichiog am Streptococcus Grwp B ac os nad, a wnaiff ystyried gwneud hynny. (WAQ59775)