Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 22 Hydref 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofyn i’r
Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei ddarparu i alluogi Corau Meibion Cymru i deithio dramor. (WAQ55010)
Rhoddwyd
ateb ar 28 Hydref 2009
Mae arian ar gyfer y Celfyddydau o'r gyllideb Treftadaeth yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Yn unol â'r egwyddor ariannu hyd braich, CCC fydd yn penderfynu ar ei flaenoriaethau ei hun a faint o arian y bydd sefydliadau neu unigolion yn ei dderbyn, gan ystyried y galw cystadleuol ar ei gyllideb. Drwy gyfrwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRC) gwaith CCC yw cefnogi'r broses o hyrwyddo a datblygu arfer proffesiynol ym mhob ffurf ar gelfyddyd, gan gynnwys cefnogi cyfleoedd rhyngwladol drwy raglenni a chynlluniau ariannu.
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRC), y Cyngor Prydeinig ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen wedi datblygu prosiect Music Encounters er mwyn annog arweinyddion corau i ddatblygu cysylltiadau pellach ac i ystyried meysydd ehangach o gefnogaeth bosibl. Gall corau sy'n ceisio datblygu cyfleoedd i gydweithio'n rhyngwladol hefyd wneud cais i Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol CRC. Mae ffynonellau arian eraill yn cynnwys Croeso Cymru a'r Is-adran Materion Ewropeaidd ac Allanol sydd wedi trefnu corau ar gontract ar gyfer digwyddiadau penodol megis perfformiad Only Men Aloud yng Ngŵyl Smithsonian.
Yn fwy cyffredinol, o ran ein presenoldeb rhyngwladol yn y celfyddydau, rwyf wedi ymateb yn ddiweddar i'r adroddiad diweddar gan Bwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Hyrwyddo Celfyddydau a Diwylliant Cymru ar Lwyfan y Byd ac mae cynlluniau ar y gweill i fynd i'r afael a'r argymhellion y cytunwyd arnynt.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y polisïau cyfredol sydd ar waith i ganiatáu, neu fel arall, cynnal profion cyffuriau ar fyfyrwyr mewn ysgolion. (WAQ55011)
Rhoddwyd
ateb ar 28 Hydref 2009
Mae hwn yn fater ar gyfer y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynlluniau i gyflwyno polisi profion cyffuriau mewn Ysgolion yng Nghymru ond rydym yn monitro datblygiadau yn Lloegr yn barhaus.
Yn 2002, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gylchlythr 17/02 'Camddefnyddio Sylweddau: Plant a Phobl Ifanc’, sydd ar gael ar y we yn www.dysgu.cymru.gov.uk. Mae hwn yn rhoi canllawiau arfer da i athrawon a gweithwyr ieuenctid ar lunio polisi effeithiol ar gamddefnyddio sylweddau, addysgu plant a phobl ifanc am beryglon camddefnyddio sylweddau a delio gydag achosion o gamddefnyddio sylweddau.
Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu yn cydweithio ag athrawon ABCh er mwyn addysgu plant a phobl ifanc am beryglon camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae hyn yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd i bron bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru.
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o brofion cyffuriau a wnaethpwyd gan ysgolion yng Nghymru (WAQ55012)
Rhoddwyd
ateb ar 28 Hydref 2009
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw brofion cyffuriau a gychwynwyd gan Ysgolion yng Nghymru.