23/02/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 23 Chwefror 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 23 Chwefror 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth fu'r codiad cyflog cyfartalog mewn termau absoliwt ac ar ffurf canran ar gyfer gweision sifil Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ55674)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar fonysau ar gyfer gweision sifil ar gyfer y tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ55675) Trosglwyddwyd i’w ateb gan yr Ysgrifennydd Parhaol

Rhoddwyd ateb ar 26 Mai 2010

Yr Ysgrifennydd Parhaol (Gill Morgan): Credais y byddai’n ddefnyddiol pe bawn yn nodi rhywfaint o’r wybodaeth gefndirol a fydd yn helpu i roi cyd-destun i’r ateb i’ch cwestiwn cyntaf.

Er mwyn mynd i’r afael â materion cyflog cyfartal, cyflwynwyd graddfeydd cynyddrannol bach fel rhan o setliad cyflog o’r radd flaenaf ym mis Awst 2001 (Gwobr Castle). Cynllun gan Lywodraeth y DU yw Gwobrau Castle ar gyfer cydnabod rhagoriaeth ymhlith cyflogwyr sy’n gweithio i fynd i’r afael â materion cyflog cyfartal. Cydnabu’r wobr waith y Cynulliad wrth gynnal archwiliadau cyflog cyfartal a diwygio ei system gyflogau i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a ganfuwyd. Pennodd y system gyflogau newydd a gyflwynwyd ym mis Awst 2001 gyfraddau cyflog targed ar gyfer pob gradd.  Ar gyfer pob gradd islaw’r Uwch Wasanaeth Sifil gweithredwn raddfa gyflog gynyddrannol chwephwynt heblaw ar gyfer Cymorth Tîm sy’n gweithredu ar raddfa triphwynt. Adolygwyd y graddfeydd cyflog hyn ymhellach yn 2006 yn dilyn y prosesau uno.

Fel arfer, caiff staff eu recriwtio ar haen isaf y raddfa gyflog gan symud i fyny’r raddfa bob blwyddyn, yn dibynnu ar berfformiad boddhaol, nes iddynt gyrraedd haen uchaf y raddfa (h.y. y gyfradd ar gyfer y swydd). Enw’r codiadau hyn yw codiadau cynnydd cynyddrannol. Ar hyn o bryd, mae tua 50% o’n wedi cyrraedd y gyfradd ar gyfer y swydd. Gan fod y ganran hon yn codi bob blwyddyn, bydd nifer y codiadau cyflog cynnydd cynyddrannol yn lleihau.

Fel arfer caiff cynnydd mewn costau byw ei gymhwyso i bwyntiau’r raddfa pan gaiff y graddfeydd cyflog eu hailbrisio fel rhan o’r setliadau cyflog a negodir ac y cytunir arnynt â’r Undebau Llafur. O dan yr amgylchiadau hyn, dim ond codiad costau byw y bydd staff a delir y gyfradd ar gyfer y swydd yn ei gael. Yn ystod y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2010, 2.6% oedd y cynnydd cyfartalog ar frig y graddfeydd cyflog (ac eithrio Cymorth Tîm). Ar gyfer y setliad cyflog diwethaf a negodwyd (2007 - 2010), cafodd y codiadau canrannol uchaf eu hanelu at y rhai ar y cyflogau isaf. Cafodd tua 50% o staff yr elfen costau byw yn unig yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2010.

Mae’r codiadau cyflog cyfartalog a nodir yn y tabl isod yn cynnwys yr elfen cynnydd cynyddrannol a’r elfen costau byw.

Llywodraeth Cynulliad Cymru, codiadau cyflog cyfartalog 2008 - 2010 12345

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 23 Chwefror 2010

20087

£1,020

3.5%6*

20098

£1,870

6.2%

20109 10

£1,550

4.9%

*% nid yw’r yn gymaradwy yn uniongyrchol oherwydd y newid yn nyddiad y data a ddefnyddiwyd

  1. Rhifau wedi’u talgrynnu i’r 10 agosaf.

  2. Mae’r ffigurau yn y tabl hwn yn cynrychioli pob cyflogai llawn amser a rhan amser, sy’n cynnwys cyflogeion parhaol, dros dro/achlysurol, secondeion a gweithwyr ar fenthyg.

  3. Yn cynnwys costau cyflog yn unig

  4. Yn seiliedig ar enillion gros blynyddol gwirioneddol cyflogeion.

  5. Yn seiliedig ar enillion cyfwerth ag amser llawn cyflogeion rhan amser a llawn amser.

  6. Data ar gyfer 2007 ar 30 Medi 2007.

  7. Ar 31 Mawrth 2008.

  8. Ar 31 Mawrth 2009.

  9. Ar 31 Mawrth 2010.

  10. Ffigurau dros dro ydynt a gallent newid ar ôl eu dilysu.

Paratowyd y tabl hwn gan ddefnyddio’r un data sylfaen ag a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Arolwg Cyflogaeth Blynyddol y Gwasanaeth Sifil.

Gan droi ar eich ail gwestiwn, mae’r tabl isod yn rhoi gwybodaeth am fonysau, a elwir yn ddyfarniadau cyflog amrywiol, ar gyfer y tair blynedd ariannol diwethaf.

Trysorlys EM sy’n penderfynu ar godiadau cyffredinol y bil cyflog bob blwyddyn. Rhaid talu rhan o’r dyfarniad cyflog blynyddol fel taliad ar wahân i’r rhai sydd wedi cyflawni amcanion diffiniedig dros y flwyddyn adrodd. Penderfynir ar y meini prawf ar gyfer cyflog amrywiol o fewn y fframwaith a bennwyd gan Drysorlys EM a Swyddfa’r Cabinet ar gyfer y flwyddyn dan sylw, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyfradd benodol o fil cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil gael ei thalu ar ffurf cyflog amrywiol. Fe’i dyfernir o fewn cynllun cronfa yn seiliedig ar berfformiad, h.y. cyflawni amcanion y cytunwyd arnynt rhwng yr unigolyn a’i reolwr llinell. Mae’r amcanion hyn yn gysylltiedig â blaenoriaethau a thargedau busnes y sefydliad cyfan. Dyfarniadau ar wahân yw dyfarniadau cyflog amrywiol a delir yn ychwanegol at unrhyw godiadau cyflog sylfaenol ac fe’u telir fel cyfandaliad ac nid ydynt yn cyfrif tuag at hawliadau pensiwn. Penderfynir arnynt ar ôl diwedd y flwyddyn berfformiad, sy’n rhedeg rhwng mis Ebrill a mis Mawrth, e.e. mae taliadau amrywiol a wneir ym mlwyddyn ariannol 2007/2008 yn seiliedig ar berfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2006 ac 31 Mawrth 2007. Nid yw pawb yn gymwys am daliad. Fodd bynnag, hawl dan gontract ydynt nad oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fawr o allu i ddylanwadu arni.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 23 Chwefror 2010

Blwyddyn ariannol

Swm a wariwyd

2007/2008

£685,371.75

2008/2009

£773,135.14

2009/2010

£863,054.04

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gyfarwyddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi i sefydliadau AB yng Nghymru ynghylch gwaredu tir dros ben yn ystod y tair blynedd diwethaf. (WAQ55673)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Ailgyhoeddwyd y Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Sefydliadau Addysg Bellach ar 1af Ionawr 2007.  Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyfarwyddiadau i Sefydliadau AB mewn perthynas â gwaredu tir gweddilliol ym mharagraffau 43-46 ac Atodiad C.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Faint o ddeintyddion GIG a chleifion deintyddol GIG, yn oedolion ac yn blant, a gafodd eu cofrestru ym mhob ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf. (WAQ55667)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Mae manylion ynghylch nifer deintyddion y GIG a nifer y cleifion a gofrestrwyd ac a gafodd driniaeth gan y GIG ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn:  

http://www.statswales.wales.gov.uk/ReportFolders/reportFolders.aspx

(o dan Health and Care > General Dental Services).

Yn dilyn cyflwyno'r contract deintyddol newydd, ni ellir cymharu data ar gyfer y cyfnodau cyn ac ar ôl mis Ebrill 2006.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau gofal traed ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ers lansio'r adroddiad 'Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr' gan Age Concern Cymru a Help the Aged yng Nghymru yn 2008. (WAQ55677)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Rwyf yn cydnabod pwysigrwydd gofal traed da ar gyfer yr henoed.  Cyfarfu fy swyddogion â Chadeirydd Grŵp Cynghori Therapyddion Cymru ym mis Tachwedd i drafod y canfyddiadau drafft ar y ddarpariaeth o wasanaethau podiatreg yng Nghymru a oedd yn seiliedig ar ddadansoddiad o dystiolaeth o'r maes a thrafodaethau mewn Grŵp Gorchwyl Rhanddeiliaid a oedd yn cynnwys Age Concern Cymru. Cytunwyd ar gynllun prosiect i gwblhau'r gwaith pellach sydd ei angen, yn cynnwys deialog â rhanddeiliaid. Bwriedir llunio drafft terfynol o adroddiad ar gyfer y Gwanwyn a gaiff ei gyflwyno i mi i'w ystyried fel sail ar gyfer ymgynghoriad ehangach.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sut y cyllidir y cynnydd yn y gwasanaeth trafnidiaeth newyddenedigol o 12 awr i 24 awr. (WAQ55678)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

O ganlyniad i argymhellion gan y grŵp arbenigol ar wasanaethau newyddenedigol, ariennir Gwasanaeth Casglu Babanod Newyddenedigol 12 awr.  Bydd unrhyw estyniad pellach yn fater i'w ystyried gan y Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru i droi'n organig. (WAQ55668)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

Llofnodwyd 82 o gytundebau cynllun yn dilyn cylch ceisiadau mis Medi 2009 ar gyfer y Cynllun Troi at Ffermio Organig.  Dechreuodd y cytundebau hyn ar 1 Ionawr 2010 ac maent yn cynrychioli £1.1 miliwn o gymorth ychwanegol gan y Cynulliad ar gyfer troi at ffermio organig tan ddiwedd 2011. O ganlyniad i lansio'r cynllun troi at ffermio organig newydd, mae tua 10% o dir amaethyddol Cymru bellach wedi'i ardystio fel tir o dan reolaeth organig. Bwriedir agor cyfnod ymgeisio arall i'r cynllun yn 2010, gyda £1.4 miliwn ychwanegol ar gael i'r ymgeiswyr hyn droi at ffermio organig rhwng 1 Ionawr 2011 a diwedd 2012.  Bydd cymorth pellach i droi at ffermio organig hefyd ar gael i ddeiliaid cytundebau yn elfen Cymru gyfan y cynllun Glastir, a darperir rhagor o fanylion ym mhecyn cais Glastir.  

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â cherdded cŵn ar dir amaethyddol. (WAQ55669)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Mae un o'r negeseuon allweddol yn y Cod Cefn Gwlad cyfredol yn ymwneud â chadw cŵn o dan reolaeth ofalus.  Mae'n amlygu'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â mynd â chi i gefn gwlad, a sut i atal problemau rhag codi.  Er enghraifft, mae'n ymdrin â'r hyn y dylai cerddwyr ei wneud os cânt eu herlid gan dda byw; pwysigrwydd atal heintiau a achosir gan faw cŵn; a sut i atal cŵn rhag aflonyddu ar dda byw neu eu poeni.  

Hefyd ategir y Cod yn ddefnyddiol gan ganllawiau eraill megis - "Allan yn y Wlad - Ble i fynd a beth y gallwch ei wneud" a gyhoeddwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru;  cyngor a ddarparwyd gan y Kennel Club ar ei wefan; a chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar "Cattle and public access in England and Wales”.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaethpwyd at gyflawni pob un o'r ymrwymiadau Cymru’n Un yn ei phortffolio. (WAQ55670)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 23 Chwefror 2010

Rhif yr ymrwymiad

Ymrwymiad Cymru’n Un

Cynnydd

57

Cynyddu’r gefnogaeth i farchnadoedd ffermwyr

Cymeradwywyd Ymgyrch Wybodaeth a Chodi Ymwybyddiaeth fydd yn para 2 flynedd, a dyfarnwyd y contract i Francis Balsom Associates.

Lansiwyd ymgyrch o’r enw Bwyd Blasus gan Bobl Go Iawn yn Ffair Aeaf Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru ar 30 Tachwedd 2009. Mae hon yn ymgyrch wybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ddwyieithog, proffil uchel sy’n canolbwyntio ar gyfleoedd Gwerthu Uniongyrchol drwy Farchnadoedd Ffermwyr, Siopau Ffermwyr, gwerthu wrth Gatiau Ffermydd, Cynlluniau Blychau a Gwerthiant Ar-lein.

Yn ogystal, mae Swyddogion yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda rhanddeiliad ynghylch system i roi cefnogaeth i gynhyrchwyr sy’n gwerthu nwyddau’n uniongyrchol.

168 (i)

Cefnogaeth i goetiroedd cynhenid i gynnwys coeden ar gyfer pob baban newydd a phob plentyn a fabwysiedir.

Erbyn diwedd cyfnod plannu’r gaeaf hwn bydd cyfanswm o 112, 864 o goed wedi’u plannu:

  • Coed Cefn Lla ger Brynbuga, Sir Fynwy-23,314

  • Coed Ysgubor Wen, ger Tywyn, Gwynedd-38,720

  • Coed Bryn Oer, Tredegar, Blaenau Gwent - 50,830

Mae negodiadau yn mynd rhagddynt o hyd ar gyfer dau safle arall-un yn y gogledd ac yn yn y de.

168 (ii)

Cefnogaeth i goetiroedd cynhenid i greu Coedwig Genedlaethol Gymreig o goed brodorol i weithredu fel suddfan carbon

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru bellach wedi dechrau astudiaeth o ddiben yr ystad goetir gyhoeddus er mwyn egluro rôl y Goedwig Genedlaethol Gymreig. Mae gwaith yn parhau i gynyddu amrywiaeth coetiroedd Llywodraeth y Cynulliad drwy blannu mwy o goed brodorol ac mae cynllun grant Coetiroedd Gwell i Gymru wedi cefnogi’r gwaith o blannu 150 hectar o goetir cynhenid newydd sy’n eiddo preifat eleni. Mae’r cynllun yn cael ei adolygu i ystyried sut y gall gynnig gwell cefnogaeth ar gyfer creu coetir cynhenid newydd.

Hefyd cyflwynwyd y cynllun grant Coetiroedd Bychain sy’n symleiddio’r broses o weinyddu grantiau ar gyfer ardaloedd bach - yn cynnwys creu coetiroedd newydd.

169 (i)

Cyflwyno cynllun datblygu gwledig ar gyfer 2007-13 i’r UE yn seiliedig ar lefel yr arian Tir Mynydd y cytunwyd arno gan y Cynulliad ym mis Mawrth 2007

Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Gwledig Cymru gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Chwefror 2008. Mae’r gwaith o gyflawni’r cynllun yn mynd rhagddo a gwariwyd tua £225 miliwn hyd yma.

Disodlir Tir Mynydd gan Glastir yn 2012 ( gweler isod)

169 (ii)

Datblygu cynllun i ddisodli Tir Mynydd ar ôl 2010

Ym mis Mai 2009, cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig newid yn y dull o weithredu cynlluniau rheoli tir yng Nghymru. 0 2010, disodlir y pum cynllun amaeth-amgylchedd presennol gan un cynllun, sef Glastir, sydd mewn gwell sefyllfa i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol presennol ac yn y dyfodol.

169 (iii)

Datblygu cynllun newydd ar gyfer ffermwyr newydd gan ystyried yr effaith ar elfennau eraill o fewn Echel dau

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig fanylion Cynllun Cymorth newydd i Ffermwyr Ifanc Newydd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ( 2009).

Mae’r cynllun yn weithredol bellach, gyda’r cyfnod ymgeisio cyntaf ar agor, a fydd yn cau ar 31ain Mawrth 2010.

170

Menter sylweddol ar gaffael bwyd lleol

Lansiwyd y Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol ym mis Ebrill 2009.

Dosbarthwyd copïau o’r cynllun gweithredu i randdeiliaid allweddol i ymwneud â’r gwaith o ddarparu gweithgareddau.

Mae Gwerth Cymru yn y broses o ddatblygu Siarter Caffael Bwyd Lleol.

Mae proses dendro ar waith ar gyfer digwyddiadau 'cwrdd â’r prynwr’ ar gyfer y misoedd i ddod a fydd yn cyflwyno cynhyrchwyr bwyd i swyddogion cyrchu lleol a phrynwyr o amrywiaeth o sefydliadau.

171

Cwblhau, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar gyfer y diwydiant llaeth yn fuan

Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Llaeth Cymru ym mis Tachwedd 2007.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut y gall y sector llaeth ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir ganddo a diwallu anghenion y farchnad, i fanteisio i’r eithaf ar nodweddion unigryw Cymru, ac i weithio mewn partneriaeth drwy gydol y gadwyn gyflenwi.

Cynhaliwyd adolygiad ym mis Tachwedd 2008 a ddaeth i’r casgliad y gwnaed cynnydd sylweddol o ran gweithredu’r cynllun. Mae’r gwaith monitro a gwerthuso yn mynd rhagddo gydag adolygiad sylweddol yn cael ei gynnal yn 2010.

172

Gofyn am lacio’r Rheoliadau Ewropeaidd i ganiatáu claddu stoc trig

Er y bu LlCC yn aflwyddiannus o ran cael rhanddirymiad llwyr mewn perthynas â chodi’r gwaharddiad ar gladdu, buom yn llwyddiannus o ran cyflawni diwygiad yn y Rheoliadau Sgîl-Gynhyrchion Anifeiliaid i gynnwys darpariaeth ar gyfer cadw stoc trig 'ar y fferm’ sy’n ddewis amgen i gladdu stoc trig ac a fyddai’n darparu system amgen i ffermwyr ar gyfer ymdrin â stoc trig.

Daw cytundeb Cyngor yr UE ar y mater hwn, a waned yn y Cyngor Amaeth ar 7fed Medi 2009, ac a gyhoeddwyd yn y Cyfnodolyn Swyddogol ar 14eg Tachwedd 2009, i rym ym mis Chwefror 2011. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae LlCC yn cydariannu gwaith ymchwil ar y system bioleihawr. Yn dilyn cwblhau’r gwaith ymchwil, bydd LlCC yn cefnogi coflen i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) i’w hystyried fel proses dderbyniol, o dan y Rheoliadau diwygiedig, ar gyfer cadw stoc trig ar fferm. Disgwylir i’r goflen gael ei chyflwyno i EFSA tua diwedd 2010.

173

Gweithredu rhaglen ddyfal o ddileu TB

Rydym wedi sefydlu Rhaglen Dileu TB gynhwysfawr sydd â’r nod o fynd i’r afael â phob un o ffynonellau’r clefyd. Mae prif elfennau’r rhaglen ddileu yn golygu cyfyngu ar ledaeniad yr haint gan wartheg. Mae hyn yn cynnwys gwell mesurau gwyliadwriaeth a rheoli ledled Cymru i ddod o hyd i’r haint, a’i ddileu, yn gynharach.

Ar 13eg Ionawr 2010 cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig gamau gweithredu penodol i reoli TB mewn bywyd gwyllt (0moch daear) a byddai gofynion llymach o ran ceidwad gwartheg yn cael eu gweithredu.

Mae gennym drefniadau gorfodi gwell ac rydym yn ymgysylltu â’r diwydiant o ran gwella arferion hwsmonaeth ar ffermydd. Yn benodol, rydym wedi penderfynu treialu dull nas defnyddiwyd erioed o’r blaen yn y DU: sefydlu Ardal Beilot Triniaeth Ddwys yn y gorllewin, lle bydd difa moch daear yn digwydd ochr yn ochr â mesurau llymach i reoli gwartheg.

174

Nodi anghenion ardaloedd gwledig anghysbell a mynd i’r afael â hwy

Cyhoeddwyd yr adroddiadau ymchwil ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell ar 15fed Rhagfyr 2009, ac mae’n darparu sail dystiolaeth i Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi cymunedau diarffordd. Mae’r Adran Materion Gwledig yn gweithio gydag adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, CLILC, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut y gellir mynd i’r afael â’r materion a amlygwyd gan yr adroddiad.

175

Cyfyngiadau eithaf ar gnydau a Addaswyd yn Enetig

Rydym wedi cwblhau’r ymarfer ymgynghori ar fesurau cydfodoli cnydau a Addaswyd yn Enetig LlCC. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ac fe’u cyhoeddir yn fuan.

Rydym hefyd yn cynnal gwerthusiad drwy ADAS o rôl materion-economaidd gymdeithasol sy’n gysylltiedig â thyfu cnydau a Addaswyd yn Enetig sy’n gallu helpu i lywio dadl barhaus yr UE ar effaith economaidd-gymeithasol cnydau a Addaswyd yn Enetig.

Fel dadansoddiad ar wahân, rydym hefyd yn cynnal arolwg o nifer o ffermwyr yng Nghymru i ganfod eu dealltwriaeth a’u barn ar gnydau a Addaswyd yn Enetig i helpu lywio ein gwaith i ddatblygu ein polisi ar gnydau a Addaswyd yn Enetig.

180

Hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd

Mae Cyswllt Ffermio yn ariannu’r Rhaglen Datblygu Newid yn yr Hinsawdd, a ddarperir gan Brifysgol Bangor ac IBERS, sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau a ariennir yn llawn ar ffermydd sy’n rhoi arddangosiadau ymarferol a grwpiau trafod. Mae cyngor un i un â chymhorthdal hefyd ar gael i ffermwyr sydd â diddordeb mewn effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

181

Ystyried cyflwyno cynllun grant i drosi i gnydau ynni

Ystyriwyd y mater hwn. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig (fel rhan o gyhoeddi cynllun Glastir yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2009) na fyddai unrhyw gynllun cnydau ynni.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwrth-droi'r dirywiad tymor hir yn GYC amaethyddiaeth Cymru. (WAQ55671)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Mae'r ffigurau diweddaraf am gyfansymiau allbwn ac incwm amaethyddol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ar 18fed Chwefror 2010) yn dangos bod y Gwerth Ychwanegol Crynswth o amaethyddiaeth yng Nghymru wedi cynyddu yn 2009 am y drydedd flwyddyn yn olynol.   

Yn 2006, roedd y Gwerth Ychwanegol Crynswth o amaethyddiaeth yng Nghymru (o ran prisiau'r farchnad) tua £108 miliwn; yn 2009 roedd y ffigwr hwn wedi codi i tua £205 miliwn. Mae'r cynnydd diweddaraf yn adlewyrchu prisiau cryf y farchnad ar gyfer cig eidion a chig oen, gostyngiad yng nghostau rhai o'r mewnbynnau amaethyddol allweddol megis porthiant, gwrtaith a thanwydd yn ystod 2009 a chynnydd mewn derbyniadau Taliad Sengl oherwydd y newid yn y gyfradd gyfnewid £/€.      

Dangosodd ffigurau incwm ffermydd a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd hefyd fod incwm cyfartalog ffermydd Cymru hefyd ar gynnydd ac wedi codi i £31,300, cynnydd o 18% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Fy strategaeth Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad yw'r strategaeth gyffredinol ar gyfer yr Adran Materion Gwledig ac mae'n cydnabod bod dylanwadau macro-economaidd yn benderfynydd allweddol o ran Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru ac yn un o'r heriau sy'n wynebu sector amaethyddiaeth Cymru. Mae'r strategaeth hefyd yn gosod yr agenda ar gyfer yr is-strategaethau amrywiol o fewn yr Adran ar gyfer ymchwilio i ffyrdd o wynebu'r heriau, boed hynny'n:

• hyrwyddo effeithlonrwydd technegol er mwyn cynyddu proffidioldeb, a hynny yn erbyn y cynnydd mewn costau cynhyrchu;

• ymchwilio i ffrydiau incwm newydd ac amrywiol, megis masnachu carbon, er mwyn gwrthsefyll unrhyw gyfyngiadau posibl o ran cynhyrchu a ddaw yn sgîl yr angen i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd; neu

• ychwanegu gwerth i gynhyrchu drwy farchnata arbenigol er mwyn manteisio ar y newidiadau yn y galw gan ddefnyddwyr bwyd.

Mae'r Rhaglen Cyswllt Ffermio yn darparu strwythur cymorth er mwyn annog busnesau fferm a choedwigaeth i wella eu perfformiad busnes ac ymchwilio i gyfleoedd i arallgyfeirio a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.

Yn ogystal, mae Strategaeth fwyd newydd i Gymru yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer diwydiant proffidiol a chynaliadwy a arweinir gan y farchnad, ac sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, gan ychwanegu gwerth a chynhyrchu cynhyrchion Cymreig nodedig. Disgwylir i'r strategaeth gael ei lansio'r haf hwn.

Mae nifer o'r buddion a ddaw yn sgîl y sector amaethyddiaeth yng Nghymru na chânt eu hystyried wrth gyfrifo Gwerth Ychwanegol Crynswth amaethyddiaeth, er enghraifft y cyfraniad at: twristiaeth; yr agenda amgylcheddol; yr iaith Gymraeg; cadw gwasanaethau; a chyflogaeth atodol mewn trefi marchnad.

Dylid nodi mai mesur economaidd unigol yw'r Gwerth Ychwanegol Crynswth, ac nad yw'n rhoi darlun clir o'r buddion gwirioneddol y mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn eu cynnig i'r genedl.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r cynllun amaeth-amgylchedd Glastir. (WAQ55672)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

Cyflwynwyd cynigion ar gyfer elfen Cymru Gyfan a Thir Comin y cynllun Glastir i'w hystyried gan Bwyllgor Monitro Rhaglen y Cynllun Datblygu Gwledig yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror.  Yn amodol ar ddiwygio a chymeradwyo'r cynigion hyn, bydd swyddogion yn cyflwyno gwaith papur addasu'r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer yr elfennau hyn o'r cynllun i'r Comisiwn Ewropeaidd erbyn dechrau mis Ebrill.  Disgwylir i fanylion yr Elfen wedi'i Thargedu a'r Cynllun Lleihau Carbon ac Effeithlonrwydd Amaethyddol (ACRES) o fewn Glastir gael eu cyflwyno gerbron Pwyllgor Monitro'r Rhaglen ym mis Mai 2010, ac yn ôl yr amserlen bresennol cyflwynir addasiad sy'n ymdrin â'r elfennau hyn i'r Comisiwn Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mehefin.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wario ar arolygu a monitro llywodraeth leol bob blwyddyn. (WAQ55676)

Rhoddwyd ateb ar 5 Mawrth 2010

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn arolygu llywodraeth leol. Cyfrifoldeb Swyddfa Archwilio Cymru yw hynny, a rheoleiddwyr ac arolygwyr eraill mewn perthynas â rhai gwasanaethau penodol.  Ariennir y rhan fwyaf o waith SAC gan ffioedd a godir ganddi ar awdurdodau lleol, er ein bod yn darparu grant blynyddol o tua £1.58 miliwn i dalu am ei hastudiaethau ar lefel genedlaethol.

Mae cryn dipyn o waith Llywodraeth y Cynulliad yn dibynnu ar gydweithredu a deialog ag awdurdodau lleol, ac ar y wybodaeth a ddarperir ganddynt.  Bydd rhywfaint o'r gweithgarwch hwnnw yn cynnwys monitro, ond ni ellir nodi costau hynny ar wahân.