Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 24 Chwefror 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddynodi’r Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru. (WAQ55679)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
'Sefydlwyd 'Prosiect Parth Cadwraeth Morol Cymru' gan Lywodraeth Cynulliad Cymru at ddiben dynodi, erbyn diwedd 2012, nifer o barthau cadwraeth morol yn nyfroedd Cymru. Nodwyd y dull o nodi a dynodi'r safleoedd hyn yn strategaeth ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ardaloedd morol a warchodir 'Gwarchod Moroedd Cymru' a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ym mis Medi'r llynedd.
Mae'r prosiect ar y cam paratoi sy'n cynnwys datblygu meini prawf a methodoleg ar gyfer dewis safleoedd i baratoi ar gyfer eu rhannu â rhanddeiliaid allweddol.
Mike
German (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran asesu’r cais ar gyfer hen Ysgol Stryd y Parc, y Fenni, yng nghylch ceisiadau’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol. (WAQ55681) Trosglwyddwyd i'w ateb gan y
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol
a Llywodraeth Leol
(Carl Sargeant): Y Gronfa Loteri Fawr sy'n gweinyddu'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gallaf gadarnhau y gwnaed datganiad o ddiddordeb i'r Gronfa Loteri Fawr ar 4 Tachwedd 2009 er mwyn i
Ganolfan Gymunedol y Fenni Cyf newid hen Ysgol Fabanod Park Street yn ganolfan gymunedol.
Mike
German (Dwyrain De Cymru): O ran y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol, a wnaiff y Gweinidog nodi p’un ai a fydd prosiectau sy’n gorfod talu pris i brynu ased yn cael yr un chwarae teg â’r prosiectau hynny lle mae’r
costau prynu'n isel iawn. (WAQ55682) Trosglwyddwyd i'w ateb gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Carl Sargeant: Y Gronfa Loteri Fawr sy'n gweinyddu'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Er y caiff cynigion eu hystyried ar gyfer trosglwyddo asedau am y gwerth llawn ar y farchnad, mae'r rhaglen hon yn ceisio annog trosglwyddiadau ar gyfraddau is. Felly, rhaid i brosiectau geisio ymgorffori trosglwyddiadau sy'n costio dim, neu sy'n sylweddol is na'r gwerth ar y farchnad. O ran trosglwyddo prydles, dylid ystyried sefydlu trefniadau rhenti rhad. Fodd bynnag, un ffactor yn unig yw hyn mewn asesiad ehangach a fydd yn ystyried nifer o feini prawf, er enghraifft angen cymunedol, hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd hirdymor.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch sawl cais o sir y Fflint i Cadw am gymorth grant sydd (a) wedi dod i law, (b) wedi’u cytuno, ac (c) wedi’u gwrthod; gan roi'r rhesymeg y ti ôl i’r penderfyniadau hyn. (WAQ55680)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Atodaf fanylion ceisiadau grant i Cadw ar gyfer adeiladau hanesyddol a henebion yn Sir y Fflint dros y pum mlynedd diwethaf. Rhoddir grantiau adeiladau hanesyddol i berchenogion adeiladau y bernir gan banel cynghori arbenigol eu bod yn rhagorol o ran pensaernïaeth neu bwysigrwydd hanesyddol, neu ar gyfer gwaith sy'n gwella ymddangosiad ardal gadwraeth.
Yn ogystal, rhoddodd Cadw grantiau o £80,000 dros y pedair blynedd diwethaf tuag at Fenter Treftadaeth Treflun Treffynnon, ac mae wedi cynnig grant o £60,000 dros gyfnod o dair blynedd tuag at y cynllun Menter Treftadaeth Treflun arfaethedig yn y Fflint.
Byddai fy swyddogion yn Cadw yn croesawu mwy o geisiadau gan berchenogion yn Sir y Fflint, ac, fel y nodwyd yn fy Natganiad Strategol ar yr Amgylchedd Hanesyddol, rydym yn adolygu ein rhaglen grantiau i sicrhau y caiff grantiau eu cyfeirio at y strwythurau lle bo'r angen mwyaf.
Ceisiadau grant i Cadw - Sir y Fflint
* Barnwyd nad oedd yr adeilad yn rhagorol neu nid oedd yn gwella ardal gadwraeth yn sylweddol
2009
Adeilad |
Llwyddiannus/swm y grant |
Aflwyddiannus/rheswm |
Ysgubor Degwm, Llanasa |
* |
|
Bryngaer Pen-y-Cloddiau, Ysgeifiog |
£3,738 |
|
Bryngaer Pen-y-Cloddiau, Ysgeifiog |
£590 |
|
Bryngaer Pen-y-Cloddiau, Ysgeifiog |
£2,250 |
2008
Adeilad |
Llwyddiannus/swm y grant |
Aflwyddiannus/rheswm |
Yr Archifdy, yr Hen Reithordy, Penarlâg |
£42,500 |
|
Eglwys Grist, Pontblyddyn |
* |
|
Eglwys y Drindod Sanctaidd, Greenfield, Treffynnon |
* |
|
Eglwys St Ethelwood, Dwyrain Shotton |
* |
|
Santes Fair yr Wyryf, yr Wyddgrug |
Gormod o geisiadau ar gyfer grantiau eglwysi’r Eglwys yng Nghymru |
|
Pont Prynfarch Caergwrle, Caergwrle |
£43,966 |
|
Bryngaer Pen-y-Cloddiau, Ysgeifiog |
£758 |
|
Clawdd Wat, Penyffordd |
£818 |
2007
Adeilad |
Llwyddiannus/swm y grant |
Aflwyddiannus/rheswm |
Huntsman Inn, Treffynnon |
* |
|
Plasty Nannerch, Nannerch |
* |
2006
Adeilad |
Llwyddiannus/swm y grant |
Aflwyddiannus/rheswm |
Plymouth House, Llaneurgain |
Cynigwyd grant mewn egwyddor, yn amodol ar gytuno ar gynllun gwaith addas gyda Cadw. Tynnodd yr ymgeisydd y cais yn ôl yn ddiweddarach |
|
Ysgubor gyferbyn â Golden Grove, Llanasa |
£23,265 |
|
Y Tŵr, yr Wyddgrug |
£6,600 |
|
Wal gerrig sych yng Nghlwb Golff yr Wyddgrug, Gwernaffield-y-Waun |
* |
|
Eglwys Sant Iago, Treffynnon |
£3,614 |
|
Eglwys Babyddol Dewi Sant, Pantasa |
£60,000 |
|
Llyfrgell Deiniol Sant, Penarlâg |
£92,000 |
|
Capel Presbyteraidd Bethesda, yr Wyddgrug |
£8,306 |
2005
Adeilad |
Llwyddiannus/swm y grant |
Aflwyddiannus/rheswm |
Gwesty’r Victoria, yr Wyddgrug |
* |
|
Melin y Wern, yr Wyddgrug |
* |
|
The Barn, Fferm Coed Rodyn, yr Wyddgrug |
Tynnodd yr ymgeisydd y cais yn ôl oherwydd diffyg arian cyfatebol |
|
Eglwys Santes Fair, Ysgeifiog |
£10,000 |
|
Eglwys yr Ysbryd Glân, Ewlo |
£30,000 |
|
Bwthyn Cock and Hen, Penarlâg |
Roedd gwaith a oedd yn destun y cais am grant eisoes wedi’i wneud felly nid oedd Cadw’n gallu derbyn y cais |
|
Capel Presbyteraidd Bethesda, yr Wyddgrug |
£4,000 |
|
Castell Caergwrle, Caergwrle |
£2,200 |