24/06/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 24 Mehefin 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 24 Mehefin 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Leanne Wood (Canol De Cymru): Sawl darn o gyngor cyfreithiol ysgrifenedig derbyniodd (i) y Prif Weinidog a (ii) Gweinidogion eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â’r cynigion i ad-drefnu ysgolion cynradd yn Nhreganna ac yn Grangetown, Caerdydd a phryd derbyniodd ef hwy. (WAQ56129) W

Rhoddwyd ateb ar 30 Mehefin 2010

Fe'ch cyfeiriaf at fy ymateb i WAQs 56103 i 56108.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Ac ystyried y cynnydd mawr mewn bathodynnau parcio i bobl anabl, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyhoeddi bathodynnau lliwiau gwahanol yng Nghymru ar gyfer y rheini sy'n ceisio bathodynnau parcio dros dro i bobl anabl er mwyn gwahaniaethu rhwng y naill gategori a'r llall. (WAQ56125)

Rhoddwyd ateb ar 01 Gorffennaf 2010

Mae Cynllun Gweithredu'r Bathodyn Glas, a gyhoeddais ym mis Ionawr 201, yn cydnabod yr angen am Fathodynnau Glas dros dro ar gyfer pobl â phroblemau symudedd penodol dros dro.  Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu’r cynigion hyn, ystyrir sut i wahaniaethu rhwng categorïau'r bathodynnau.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i newid dynodiad gerddi o safleoedd tir llwyd er mwyn mynd i'r afael â phroblem tai yn cael eu codi ar erddi yng Nghymru. (WAQ56118)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Mae Polisi Cynllunio Cymru (2010) yn nodi y dylid defnyddio tir sydd eisoes wedi'i ddatblygu (tir llwyd) yn hytrach na safleoedd tir glas, pan fo hynny'n bosibl. Mae'r polisi hwn yn ganolog i hyrwyddo patrymau datblygu cynaliadwy. Yn gyffredinol, ystyrir gerddi fel tir sydd eisoes wedi'i ddatblygu ac mewn rhai sefyllfaoedd penodol gall fod yn addas i'w ailddefnyddio. Penderfyniad yr awdurdodau cynllunio lleol yw p'un a yw ceisiadau cynllunio i adeiladu ar erddi yn dderbyniol o ran cynllunio, o ystyried amwynderau lleol, effaith ar gymdogion ac ystyriaethau perthnasol eraill.

Rwyf yn ymwybodol o'r newid i'r polisi yn Lloegr. Fodd bynnag, yn sgîl gwerth is y tir yng Nghymru o'i gymharu â De-ddwyrain Lloegr, nid wyf yn ymwybodol bod datblygiadau ar erddi preifat yn broblem gyffredin.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod a yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu unrhyw grantiau neu gymhorthdal ar gyfer y fferm wynt ar y môr arfaethedig, Gwynt y Môr. (WAQ56119)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi unrhyw grantiau na chymorthdaliadau uniongyrchol i ddatblygwyr mewn perthynas â datblygiad gwynt ar y môr arfaethedig Gwynt y Môr.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o unedau sgrinio symudol Bron Brawf Cymru sydd ar waith ar hyn o bryd o'i gymharu â chyn cyhoeddiad diweddaraf y Gweinidog ynghylch cyllid. (WAQ56120)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Ar hyn o bryd, mae Bron Brawf Cymru yn gweithredu deg uned sgrinio symudol. Mae tair ohonynt yn unedau newydd (a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth gyda'i chyfalaf dewisol) ac yn debyg o ran dyluniad i'r unedau a gyhoeddais. Bydd y saith uned newydd y cyhoeddais arian ar eu cyfer yr wythnos ddiwethaf yn cymryd lle saith o hen unedau symudol nad oes ganddynt lifft.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw unedau sgrinio symudol Bron Brawf Cymru yn gallu cynnal yr un nifer o ymweliadau â phob lleoliad maent ymweld â nhw nawr. (WAQ56121)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Mae Bron Brawf Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth sgrinio mor agos â phosibl at gartrefi merched, ac nid oes unrhyw gynlluniau i addasu nifer y lleoliadau y mae'r unedau'n ymweld â hwy. Fodd bynnag, dim ond lleoliadau lle ceir safleoedd addas y gall Bron Brawf Cymru ymweld â hwy, a thros y blynyddoedd diwethaf, mae negodi mynediad i safleoedd addas wedi bod yn gynyddol anodd.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd bydd unedau sgrinio symudol newydd Bron Brawf Cymru ar waith. (WAQ56122)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Bydd yr unedau newydd yn weithredol ddechrau 2011.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A fydd unedau sgrinio symudol Bron Brawf Cymru yn ymweld â Chrucywel, ac os nad, a wnaiff y Gweinidog egluro pam. (WAQ56123)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Yn y gorffennol, mae dod o hyd i safle addas yng Nghrucywel wedi peri problem. Mae angen i'r safleoedd fod â gofod gwastad sy'n ddigon mawr i symud a pharcio'r uned, sy'n 12m o hyd a 2.5m o led. Rhaid gallu cyrraedd y safleoedd mewn car neu drafnidiaeth gyhoeddus, a rhaid bod ganddynt oleuadau da a thoiledau a mesurau diogelwch cymharol dda rhag fandaliaeth. Hefyd, mae'n rhaid i berchnogion y safle ganiatáu i Bron Brawf Cymru ei ddefnyddio.

Yn y gorffennol, gosododd Bron Brawf Cymru uned yn y maes parcio talu ac arddangos yng Nghrucywel. Dim ond ardal fach wastad oedd ar y safle i barcio'r fan, ac roedd y safle'n agos at dai. Er mwyn cynnal tymheredd gweddol gyson yn yr uned ac atal difrod i'r cyfarpar pelydr-X, mae'n rhaid i'r generadur weithio dros nos. Bu'r uned yng Nghrucywel am chwe wythnos ac yn anffodus, creodd sŵn y generadur yn ystod y nos aflonyddwch mawr i drigolion lleol, a chafodd y gwasanaeth nifer o gwynion gan ddynion a merched, gan gynnwys merched a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth. Am y rheswm hwn, pan sgriniodd Bron Brawf Cymru ferched o Grucywel yn ddiweddar, penderfynwyd peidio â defnyddio'r safle hwn. Ni chanfuwyd safle amgen addas yn y dref, a gofynnwyd i'r merched deithio i'r Fenni.

Bydd Bron Brawf Cymru yn parhau i chwilio am safleoedd addas yng Nghrucywel gyda'r bwriad o ddod o hyd i safle cyn y bydd merched yr ardal yn cael cynnig y gwasanaeth sgrinio nesaf.

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pam na all y cyhoedd gael gafael ar y gronfa ddata Lleoliadau Hygyrch drwy Croeso Cymru. (WAQ56124)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Mae gwefan newydd yn cael ei llunio ar hyn o bryd. Mae Croeso Cymru wedi bod yn gweithio er mwyn integreiddio'r gwefannau cyfarfodydd, mordaith a'r diwydiant teithio yn un gwefan 'Business to Business'. Mae wedi golygu gwaith helaeth er mwyn sicrhau bod data hygyrchedd o ran lleoliadau wedi'i integreiddio yn y chwiliadau lleoliadau.

Trwy ddefnyddio'r opsiwn 'chwilio manwl', bydd defnyddwyr yn gallu chwilio am leoliadau sy'n addas ar gyfer y rhai hynny â nam symud, nam ar eu golwg neu nam ar eu clyw ac ni chaiffy lleoliad ymddangos ar y wefan hyd nes i holiadur hygyrchedd gael ei gwblhau ar ei gyfer.

Er bod y wefan wedi'i hanelu'n bennaf at gyfryngwyr y tu allan i Gymru er mwyn ceisio eu hannog i gynnal digwyddiadau busnes yng Nghymru, bydd hefyd ar gael i aelodau'r cyhoedd ei defnyddio.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad a wnaethpwyd o'r galw am gynghorwyr Glastir cymwysedig i helpu i roi'r cynllun Glastir ar waith yn llwyddiannus. (WAQ56127)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Mae Glastir yn cynrychioli newid mawr i ffermwyr, rhanddeiliaid a swyddogion. Gan weithio'n agos ag Undebau Ffermwyr a phartïon eraill â diddordeb, mae swyddogion wedi datblygu rhaglen o weithgareddau hyfforddi a chyfathrebu sydd wedi'u llunio i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy'n hawdd i'w deall, ar yr adeg y mae ei angen.

Mae swyddogion wedi datblygu cynllun hyfforddi cynhwysfawr ac yn ei roi ar waith - gan gynnwys darpariaeth ar y fferm (rhaglen hyfforddi dros yr haf) - gan weithio gyda nifer o ddarparwyr dan arweiniad IBERS, Coleg Sir Benfro a FWAG.

Nod y rhaglen hyfforddi dros yr haf, sy'n cynnwys 40 o ddigwyddiadau, yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth amgylcheddol i ffermwyr, grwpiau eraill â diddordeb a swyddogion rheng flaen i alluogi ffermwyr i gwblhau elfen Cymru Gyfan o gais Glastir ym mis Medi eleni.  

Ar ôl dosbarthu pecynnau cais Glastir ym mis Medi i'r ffermwyr hynny a oedd wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn ymuno â'r cynllun yn eu ffurflenni Cais Sengl (SAF) 2010, bydd y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm yn cynnal tua ugain o gymorthfeydd Glastir ledled Cymru i helpu ffermwyr gyda'r broses o wneud cais.

Bydd Rheolwyr Contractau (Swyddogion Prosiect yn flaenorol o dan gynllun Tir Gofal) ar gael i gynorthwyo ffermwyr i ddod i arfer â'r elfen wedi'i Thargedu o Glastir a bydd Swyddogion Datblygu Cyffredin ar gael i gynorthwyo porwyr i sefydlu Cymdeithasau Porwyr - rhagofyniad i wneud cais i ymuno â'r elfen Tir Comin Cymru Gyfan o Glastir.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw'r broses recriwtio ar gyfer cynghorwyr Glastir i helpu i roi'r cynllun Glastir ar waith yn llwyddiannus. (WAQ56128)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Cyflwynir Glastir gan ddefnyddio adnoddau sy'n bodoli eisoes gan gynnwys Cyswllt Ffermio a Swyddogion Prosiect Tir Gofal.

Mae trefniadau ar gyfer recriwtio Swyddogion Datblygu i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu Cymdeithasau Porwyr yn mynd rhagddynt gyda'r nod o benodi swyddogion erbyn yr hydref. Gan fod angen i ni weithio ar lefel leol iawn i sicrhau bod y broses hon yn llwyddiannus, rydym wedi penderfynu defnyddio dull yr Arweinydd a byddwn yn gweithio'n agos gyda Grwpiau Gweithredu Lleol Echel 4.  

Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Comisiwn y Cynulliad amlinellu ei bolisi ar gyfer mynediad i adeilad y Senedd ar gyfer ymwelwyr anabl. (WAQ56126)

Rhoddwyd ateb ar 24 Mehefin 2010

Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy: Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu cael mynediad i’r Cynulliad a’i holl wasanaethau. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i amlinellu yn Neddf Llywodraeth Cymru ac yng ngwerthoedd cydraddoldeb strategol y Comisiwn.  Mae’r Cynulliad yn darparu hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff y rheng flaen, sy’n cynnwys darparu gwasanaethau i bobl â nam a Hyfforddiant Cydraddoldeb i’r Anabl.  Yn ogystal, mae rhai o staff y rheng flaen wedi ennill tystysgrif lefel 1 Iaith Arwyddo Prydain.

Ceir 12 man parcio i’r anabl wrth ochr y Senedd yn Pierhead Street.  Gall ymwelwyr anabl sy’n mynd i’r Cyfarfod Llawn, i gyfarfod pwyllgor neu sydd wedi trefnu taith o amgylch y Senedd o flaen llaw neilltuo lle i barcio drwy ffonio llinell archebu’r Cynulliad. Bydd yn rhaid i’r ymwelwyr arddangos eu bathodyn anabl (bathodyn glas) wrth iddynt gyrraedd. Gall ymwelwyr anabl sydd heb archebu man parcio, ddefnyddio’r mannau parcio hygyrch os oes lle ar gael.

Cynlluniwyd y Senedd i ddarparu mynediad da i bobl anabl.  Gan hynny, gellir cael mynediad i’r Senedd drwy ddefnyddio grisiau, ramp neu lifft.

O fewn yr adeilad, darperir lifftiau i bob llawr er mwyn sicrhau mynediad a darperir arwyddion Braille hefyd. Caniateir mynediad i gŵn cymorth pobl anabl. Yn yr orielau cyhoeddus, ceir safleoedd penodol ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae cyfarpar clyw wedi’i osod ar yr holl offer cyfieithu.

Y Senedd oedd yr adeilad cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gael cyfleuster toiled â chymhorthion. Mae hwn yn cynnwys gwely i newid, cyfarpar codi symudol a thoiled sy’n fwy o ran maint ac sydd â digon o le i ddau gynorthwydd, y cyfarpar codi a’r unigolyn yn gyfforddus. Ceir 5 toiled sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn yn yr adeilad hefyd.

Mae gan y Cynulliad Ddatganiad ar Hygyrchedd ac mae’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd. Cynlluniwyd y datganiad i ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr, tystion a siaradwyr ac er mwyn galluogi unigolion i ymweld ag ystâd y Cynulliad a chael mynediad i’r gwasanaethau sydd ar gael. Yn ogystal, gwahoddir unigolion i drafod unrhyw anghenion penodol gyda staff y llinell archebu neu’r Tîm Cydraddoldeb a Mynediad a phan yn bosibl byddwn yn cwrdd â cheisiadau rhesymol ac yn ymarferol

Mae’r Cynulliad yn cynhyrchu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd mewn sawl fformat gan gynnwys cyhoeddiadau, taflenni gwybodaeth cyhoeddus, llythyrau, dogfennau ymgynghorol, y rhyngrwyd a chofnodi busnes y Cynulliad. Gellir cael gwybodaeth, heb dâl, mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg a Saesneg, mewn Iaith Arwyddo Prydain ar ffurf Rhwydd ei Ddarllen a fformatau hygyrch eraill ar gais rhesymol.

Yn ogystal, mae’r Cynulliad yn cynnal Fforwm Allanol ar gyfer Defnyddwyr Anabl a Fforwm ar gyfer Staff Anabl.  Mae’r ddau fforwm yn darparu gwybodaeth a chyngor allweddol ar bolisïau newydd, polisïau sy’n bodoli yn barod, darpariaeth gwasanaethau a gweithdrefnau’r gwasanaeth er mwyn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau a’n hadeiladau yn hygyrch. Pobl anabl ledled Cymru sy’n aelodau o’r Fforwm Defnyddwyr Allanol ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth o sefydliadau anabledd ac unigolion.