25/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau bod cyllid a ddyrannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer datblygu busnesau yng Nghymru wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill? (WAQ51325)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru, a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn dod o dan weithdrefnau archwilio a dilysu cadarn i sicrhau y caiff arian grantiau ei wario ar y dibenion a gymeradwywyd, yn unol â rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae unrhyw wariant anghymwys yn dod o dan weithdrefnau ad-dalu, a chynhelir archwiliad llawn gan nifer o gyrff ar brosiectau o’r fath; caiff y manylion eu cyhoeddi yn Adroddiadau Gweithredu Blynyddol y Cronfeydd Strwythurol, a gaiff ei gyflwyno gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a fydd yn cytuno arno. Cyhoeddir yr adroddiadau ar www.wefo.wales.gov.uk

O ganlyniad i’r prosesau hyn, Llywodraeth y Cynulliad oedd y weinyddiaeth gyntaf yn Ewrop i wneud 'Cytundeb Ymddiriedaeth’ gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, ac yn y dyfodol bydd y Comisiwn yn dibynnu mwy ar y prosesau archwilio a’r systemau rheoli a weithredir gan yr Aelod-wladwriaeth.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl cais cynllunio yn Sir Benfro ac yng Nghymru sydd wedi cael eu galw i mewn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a pha ganran o'r holl geisiadau a gyflwynir yw'r rhain? (WAQ51323)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Dyma’r ffigurau yn y tabl isod:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Chwefror 2008
 

Nifer y ceisiadau cynllunio a alwyd i mewn (A)

Cyfanswm y ceisiadau a wnaed (B)

Canran (A/B)

Cyngor Sir Penfro ac APC Arfordir Penfro

4

17,164

0.02% *

Cymru Gyfan

55

279,157

0.02% *

* Mae’r ffigurau’n gywir i ddau le degol

Mae’r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 1999 a 30 Medi 2007, y cyfnod diwethaf y mae gwybodaeth gyflawn ar gael ar ei gyfer. Galwyd un cais i mewn ers mis Medi ond nid oedd yn Sir Benfro.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gamau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd ein cyflenwad dŵr? (WAQ51335)

Jane Davidson: O dan Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth Cynulliad Cymu rydym yn ymrwymo i gynnal safon uchel ein cyflenwadau dŵr.

Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru fel rheoleiddiwr annibynnol ansawdd a diogelwch cyflenwadau dŵr. Dengys ei hadroddiad diweddaraf fod y cwmnïau dŵr wedi cyrraedd lefel o 99.95% o ran cydymffurfio â safonau dŵr yfed yng Nghymru yn 2006.

Yn unol â chyngor yr Arolygiaeth, rydym wedi tynhau’r gyfundrefn sy’n ymwneud â chyflenwadau dŵr yfed cyhoeddus, gweithdrefnu sydd eisoes yn llym. Daeth Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Safon Dŵr) 2001 (Diwygio) 2007 i rym ar 22 Rhagfyr 2007. Ymysg nifer o ddarpariaethau, maent yn ei gwneud yn ofynnol i ymgymerwyr dŵr fonitro ansawdd dŵr cyn iddo gael ei drin, yn ogystal ag wrth ei gyflenwi. Hefyd, mae’n ofynnol i ymgymerwyr dŵr gynnal asesiadau risg o weithfeydd trin dŵr a systemau cyflenwi: rhaid i ymgymerwyr weithredu’n briodol i ymdrin ag unrhyw berygl posibl i iechyd pobl a nodwyd. Gwnaed methiant i drin neu ddiheintio dŵr yn drosedd benodol.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dulliau Newydd o Weithredu? (WAQ51346)

Jane Davidson: Mae’r Rhaglen Ymagweddau Newydd yn anelu at newid y ffordd rydym yn ymdrin â pherygl llifogydd ac arfordirol yng Nghymru gan symud oddi wrth ein dull traddodiadol sy’n canolbwyntio ar amddiffyn i ddull rheoli risg.

Yn fy natganiad i’r cabinet a gyflwynwyd ar 17 Medi 2007 nodais rai o’r egwyddorion sylfaenol ar gyfer yr ymagwedd newydd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio’n gryf mewn partneriaeth, ymgysylltu’n gadarn â’r cyhoedd a chanolbwyntio ar reoli canlyniadau.

Ym mis Tachwedd 2007 cynhaliwyd gweithdai yng Nghaerdydd a Llandudno i ystyried yr amrywiaeth o fesurau sydd ar gael i ymdrin â pherygl llifogydd ac arfordirol yng Nghymru yn y dyfodol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn mapio’r ffordd ymlaen. Daeth amrywiaeth eang o bobl â diddordeb i’r gweithdai hyn.

Yn y gweithdai, cadarnhawyd bod angen newid a fframwaith generig ar gyfer gwasanaeth rheoli perygl yn y dyfodol a bod brwdfrydedd i gyflawni hynny. Y cam nesaf yw ystyried agweddau penodol ar y fframwaith yn fanylach a sut y gallant gael eu cyflawni.

Comisiynwyd nifer o astudiaethau wedi’u hanelu at asesu sut y gall yr ymagwedd newydd gael ei gweithredu yng Nghymru. Bydd yr astudiaethau hyn yn llywio’r ffordd y caiff polisi Llwyodraeth y Cynulliad ei ddatblgu a bydd yn cynnig enghreifftiau y gellir eu defnyddio i sicrhau y cânt eu cymhwyso’n gyson ledled Cymru.

Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd yng nghyswllt y Rhaglen Dulliau Newydd o Weithredu? (WAQ51347)

Jane Davidson: Mae’r Rhaglen Ymagweddau Newydd yn anelu at newid y ffordd rydym yn ymdrin â pherygl llifogydd ac arfordirol yng Nghymru.

Drwy ein gweithdai ym mis Tachwedd, rydym wedi sefydlu fforwm eang o randdeiliaid a fydd yn cynorthwyo i ddatblygu’r ymagwedd newydd. Os bydd newidiadau sylweddol yn cael eu cynnig caiff ymgynghoriadau ffurfiol eu cynnal.

Un o egwyddorion sylfaenol yr ymagwedd newydd yw ymgysylltu’n gadarn â’r cyhoedd. Mae hyn yn adlewyrchu model Llywodraeth y Cynulliad o gyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel y’i nodir yn ei dogfen bolisi 'Creu’r Cysylltiadau’ a rhoi’r cwsmer yn benodol yng nghanol y broses o ddylunio’r gwasanaeth.

Pan gaiff penderfyniadau ynglŷn â sut i reoli peryglon eu gwneud bydd yr ymagwedd newydd yn sicrhau cynrychiolaeth leol gref. Bydd amryw gyfleoedd lle bydd cynrychiolaeth o’r fath yn briodol.

Bydd y Rhaglen Ymagweddau Newydd a’r astudiaethau a gomisiynwyd yn ddiweddar yn benodol o gymorth i nodi a datblygu systemau ar gyfer yr ymgysylltu hwn â’r cyhoedd.

Mae pob un o’r astudiaethau hyn yn gofyn am ymgysylltu’n gadarn â’r bobl leol gyda’r bwriad o sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl uniongyrchol yn ymwybodol o’r peryglon, yn deall sut y gellir rheoli’r peryglon hynny a deall maint y gwasanaeth cyhoeddus sydd ar waith i gynorthwyo gyda’r rheoli.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ardaloedd sy’n dueddol o ddioddef llifogydd ond nad ydynt ar orlifdir? (WAQ51348)

Jane Davidson: Mae mapiau gorlifdir Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi’r ardaloedd sydd mewn perygl o gael eu gorlifo yn bennaf o rwydwaith y prif afonydd a’r môr. Mae’r mapiau gorlifdir hyn ar gael i bawb ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau dros asesu gorlifo o afonydd llai a chyrsiau dŵr eraill. Yn dilyn llifogydd 1998 a 2000 ariannwyd awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i asesu’r holl broblemau gorlifo sy’n hysbys iddynt yn eu hardaloedd. Arweiniodd y fenter honno at asesu dros 500 o safleoedd gorlifo ledled Cymru.

Ers hynny gwnaed asesiadau manylach ac arweiniodd hyn at raglen o welliannau ledled Cymru.

Mae llifogydd yn ystod yr haf y llynedd wedi amlygu gwendid y systemau draenio adeg digwyddiadau eithafol ac mae adroddiad Pitt wedi nodi bod angen nodi ardaloedd o’r fath ar fyrder. Mae swyddogion yn gweithio gyda chyd-swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a chyrff eraill yng nghyd-destun Fframwaith Cymru Gydnerth i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu hyn yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu annog pobl i gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio am ganser y coluddyn? (WAQ51337)

Nick Ramsay (Mynwy): Pryd y mae’r Gweinidog yn rhagweld cyflwyno’r rhaglen sgrinio am ganser y coluddyn yn etholaeth Mynwy? (WAQ51338)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Caiff rhaglen sgrinio canser y coluddyn ei chyflwyno fesul cam gan gychwyn gyda phobl 60 i 69 oed, wedyn pobl 70 i 74 oed ac yn olaf, pobl 50 i 59 oed. Mae’r cyfnod cynllunio yn mynd rhagddo’n dda a’r bwriad yw y bydd sgrinio yn cychwyn ym mhob lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys etholaeth Mynwy, ym mis Hydref eleni.

Er mwyn annog pobl i fod yn rhan o raglen sgrinio’r coluddyn a chael y budd mwyaf o ran iechyd y cyhoedd, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a fydd yn cynnig y gwasanaeth, yn datblygu strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd gan ymgynghori â grwpiau defnyddwyr posibl, gweithwyr gofal iechyd a sefydliadau gwirfoddol. Caiff y strategaeth hon ei gweithredu o ddifrif tua mis cyn y dyddiad cychwyn ym mis Hydref 2008.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gyda Chomisiwn Iechyd Cymru ynghylch gwasanaethau niwrogyhyrol arbenigol? (WAQ51339)

Nick Ramsay (Mynwy): A yw’r Gweinidog yn cydnabod gwasanaethau niwrogyhyrol arbenigol fel rhan o’r Cynllun Comisiynu Gwasanaethau Arbenigol? (WAQ51340)

Edwina Hart: Ni chefais drafodaethau penodol gyda Chomisiwn Iechyd Cymru ar wasanaethau niwro-gyhyrog arbenigol. Gallaf gadarnhau bod y gwasanaethau arbenigol a gomisiynir gan Gomisiwn Iechyd Cymru ar gyfer cyflyrau niwro-gyhyrog yn rhan o’i gynlluniau comisiynu blynyddol. Fodd bynnag, rwyf yn ymwybodol o bryderon diweddar ynglŷn â’r gwasanaethau hyn a chyhoeddwyd dogfen yn ddiweddar gan elusen Ymgyrch Nychdod Cyhyrol yn galw am welliannau i’r gwasanaethau hyn. Byddaf yn ymateb i’r ddogfen hon cyn hir.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU am effaith Gemau Olympaidd Llundain ar gyllid ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru? (WAQ51342)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Ysgrifennais at Lywodraeth y DU ym mis Ionawr 2008 i gael sicrwydd na fyddai mwy o arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau cynnal Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012. Ar 15fed Ionawr rhoddwyd y sicrwydd hwnnw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid a ddarparwyd i Gymdeithas Jazz Cymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999 a faint a ddiogelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf? (WAQ51343)

Rhodri Glyn Thomas: Derbyniodd Cymdeithas Jazz Cymru dros £470,000 o arian Refeniw Blynyddol a phrosiect ers 1999-2000. Gellir rhannu’r swm hwn fel yr amlinellir yn y tabl isod

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Chwefror 2008

Blwyddyn Ariannol

Math

Swm y Grant

1999 - 2000

Refeniw Blynyddol

£39,542.00

2000 - 2001

Refeniw Blynyddol

£40,528.00

2000 - 2001

Rhaglen Digwyddiadau’r Celfyddydau Perfformio

£9,540.00

2001 ~ 2002

Refeniw Blynyddol

£41,741.00

2001 ~ 2002

Rhaglen Digwyddiadau’r Celfyddydau Perfformio

£9,040.00

2002 ~ 2003

Refeniw Blynyddol

£47,990.00

2002 - 2003

Rhaglen Digwyddiadau’r Celfyddydau Perfformio

£5,220.00

2003 ~ 2004

Refeniw Blynyddol

£49,427.00

2003 ~ 2004

Cyflwyniad a Datblygu Cynulleidfa

£5,020.00

2004 ~ 2005

Refeniw Blynyddol

£50,730.00

2005 ~ 2006

Refeniw Blynyddol

£50,630.00

2006 ~ 2007

Refeniw Blynyddol

£52,010.00

2007 ~ 2008

Refeniw Blynyddol

£53,310.00

2008 ~ 2009

Refeniw Blynyddol

£17,770.00

 

Cyfanswm

£472,498.00

Dyfarnwyd £17,770 o gyllid refeniw ar gyfer 2008-09, sy’n hafal i’r pedwar mis cyntaf yn seiliedig ar ffigurau’r flwyddyn flaenorol. Mae’r sefydliad hefyd yn parhau’n gymwys i wneud cais am arian prosiect.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sawl aelod o staff a gyflogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ51344)

Rhodri Glyn Thomas: Cyfartaledd nifer y staff sy’n gyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd gan Gynghor Celfyddydau Cymru ym mhob blwyddyn a nodwyd yw:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Chwefror 2008

1999/2000

80

2000/2001

79

2001/2002

75

2002/2003  

85

2003/2004  

87

2004/2005  

97

2005/2006  

93

2006/2007  

96