26/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pryd fydd rheilffordd Glynebwy i Gaerdydd ar agor i’r cyhoedd? (WAQ50878)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, sy’n gyfrifol am gyflawni’r prosiect, yn gweithio gyda’r asiantau cyflawni i sicrhau y caiff yr holl waith sydd heb ei gyflawni ei gwblhau er mwyn galluogi gwasanaethau i deithwyr i fynd rhagddynt a chaiff datganiad ei wneud bryd hynny.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Swyddi Gwyrdd Llywodraeth y Cynulliad? (WAQ51366)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai a minnau wrthi’n ystyried cynigion ar gyfer yr elfen gyntaf o Strategaeth Swyddi Gwyrdd Cymru Gyfan. Mae gwaith ar y Strategaeth yn gyffredinol bellach ar y gweill a disgwylir y bydd ar gael i ymgynghori arni yn ystod yr haf.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ac ystyried WAQ50549, sut y bydd yr anghenion addysgol arbennig gwahanol yn cael eu dadansoddi yn y bwletin ystadegol ar gyrhaeddiad; ac a fydd hwnnw’n cynnwys y plant hynny sydd ag angen addysgol arbennig ond nad oes ganddynt ddatganiad, neu nad ydynt ar y cynlluniau gweithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy? (WAQ50879)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi data am gyfanswm nifer y plant (nid dim ond y rheini sydd â datganiadau neu sydd ar y cynlluniau gweithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy) mewn ysgolion yng Nghymru sydd â i) Nam ar y Golwg ii) Nam ar y Clyw iii) anabledd corfforol? (WAQ50880)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Cyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynnwys, ffurf neu amseriad Ystadegau Gwladol yn y pen draw. Mae hyn yn unol â Chod Ymarfer Ystadegau Gwladol ac yn benodol, Protocol ar Drefniadau Cyhoeddi Ystadegau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae fy swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Ystadegol yn fy hysbysu y bydd y Bwletin Ystadegol, sydd i’w gyhoeddi ym mis Mawrth 2008, yn cynnwys dadansoddiad o gyrhaeddiad wedi’i rannu yn bedwar categori sydd ar gael yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol:

• Dim darpariaeth arbennig

• Gweithredu gan yr Ysgol

• Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

• Disgyblion â Datganiad

Dim ond os bydd gan y disgybl ddatganiad neu os yw yn y categori gweithredu gan yr ysgol / gweithredu gan yr ysgol a mwy y caiff gwybodaeth am anghenion arbennig disgybl plentyn ei chasglu. Felly nid yw dadansoddiad o nifer y disgyblion sydd ag anghenion arbennig penodol, a’u cyrhaeddiad addysgol, yn bosibl ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt ddarpariaeth arbennig.

Cyhoeddwyd data ar nifer y disgyblion sydd â datganiad neu yn y categori gweithredu gan yr ysgol / gweithredu gan yr ysgol a mwy yn ôl math o anghenion arbennig penodol, ym mis Rhagfyr 2007 yn y gyfrol ystadegol "Ysgolion yng Nghymru: Ystadegau Cyffredinol 2007” a gellir ei weld ym Mhennod 8 drwy’r ddolen ganlynol:

http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/publications/swgs2007/?lang=cy

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw arweiniad y bydd hi’n ei gyhoeddi i awdurdodau lleol pan fyddant yn llunio cynigion i ad-drefnu ysgolion; neu y bydd yn ei ddefnyddio wrth ystyried unrhyw benderfyniad y gofynnir iddi ei wneud ar gynigion sy’n ymwneud ag ad-drefnu ysgolion; gan ystyried yn arbennig anghenion plant sydd â i) nam ar y synhwyrau neu ii) anabledd corfforol; ac yn benodol cadw unrhyw ddarpariaeth arbenigol ar gyfer plant o’r fath mewn ysgolion sy’n rhan o broses ad-drefnu? (WAQ50887)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Mae Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23/02 (cylchlythyr cyhoeddedig) yn nodi cyd-destun ac egwyddorion cyffredinol y polisi y mae angen i awdurdodau lleol a chyrff eraill penodol sy’n dymuno datblygu cynigion ad-drefnu ysgolion eu hystyried. Mae’r canllawiau, sydd hefyd yn cwmpasu ad-drefnu darpariaeth anghenion addysgol arbennig, hefyd yn esbonio’r meini prawf y bydd y Gweinidog yn eu cymhwyso wrth benderfynu ar gynigion a ddaw i law i’w hystyried.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o ysgolion uwchradd yng Nghymru sy’n cynnig a) Bagloriaeth Cymru; b) Bagloriaeth Ryngwladol ac c) y ddwy? (WAQ50951)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: a) Nodir y canolfannau yng Nghymru sy’n cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar hyn o bryd yn y tabl isod. Byddaf yn datgan pa ganolfannau a fydd yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2008, yn ail gam y cyflwyno fesul cam ar gyfer ôl-16, maes o law.

Canolfannau yng Nghymru sy’n Cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

Math o Ganolfan

Nifer sy’n Cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC)

Ysgol (Cyflwyno Fesul Cam Uwch a Chanolradd Ôl-16)

55

Ysgol (Peilot Sylfaen 14-19 a Chanolradd 14-16)

22*

Coleg Addysg Bellach (Cyflwyno Fesul Cam Uwch a Chanolradd Ôl-16)

16

Coleg Addysg Bellach (Peilot Sylfaen 14-19)

12*

Darparwr Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith (Cyflwyno Fesul Cam Uwch a Chanolradd Ôl-16)

2

* Mae 14 o’r ysgolion hyn ac 11 o’r colegau hyn hefyd yn cynnig CBC fel rhan o’r cyflwyno fesul cam ôl-16.

b) ac c) Caiff y Fagloriaeth Ryngwladol ei chynnig mewn un ysgol uwchradd, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ac mewn dau goleg addysg bellach, Coleg Llandrillo a Choleg Abertawe. Mae’r tri hyn hefyd yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Hefyd, mae dwy ysgol annibynnol yn cynnig y Fagloriaeth Ryngwladol.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o ddisgyblion ysgolion uwchradd sy’n astudio a) Bagloriaeth Cymru a b) y Fagloriaeth Ryngwladol? (WAQ50952)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: a) Nodir nifer y dysgwyr sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd mewn canolfannau yng Nghymru i ddilyn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn y tabl isod. Bydd mwy o ddysgwyr yn cychwyn ar raglenni Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ym mis Medi 2008 a byddaf yn datgan pa ganolfannau a fydd yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2008, yn ail gam y cyflwyno fesul cam ôl 16, maes o law.

Dysgwyr Cymhwyster Bagloriaeth Cymru a’r Fagloriaeth Ryngwladol sydd wedi’u Cofrestru mewn Canolfannau yng Nghymru

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

Math o Ganolfan

Dysgwyr a Gofrestrwyd ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Ysgol (Cyflwyno Fesul Cam Uwch a Chanolradd Ôl-16)

4,814

Ysgol (Peilot Sylfaen 14-19 a Chanolradd 14-16)

2,206

Coleg Addysg Bellach (Cyflwyno Fesul Cam Uwch a Chanolradd Ôl-16)

4,927

Coleg Addysg Bellach (Peilot Sylfaen 14-19)

1,285

Darparwr Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith (Cyflwyno Fesul Cam Uwch a Chanolradd Ôl-16)

6

b) Mae cyfanswm o 264 o ddysgwyr wedi’u cofrestru ar gyfer y Fagloriaeth Ryngwladol mewn canolfannau yng Nghymru. O’r rhain, mae 207 wedi’u cofrestru mewn ysgolion annibynnol.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd i ysgolion uwchradd er mwyn gweithredu’r agenda 14-19? (WAQ50955)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i drawsnewid darpariaeth 14 - 19 yng Nghymru a chyfleoedd pob person ifanc. Gwneir hyn drwy ehangu dewis a hyblygrwydd; sicrhau llwybrau dysgu wedi’u teilwra’n unigol sy’n diwallu anghenion dysgwyr a darparu cyfleoedd a phrofiadau cyfoethocach a fydd yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd a gwaith.

Bwriad y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru), a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, ar gyfer ymgynghoriad ar 15fed Ionawr 2008, yw llywio’r broses o weithredu Llwybrau Dysgu yng Nghymru, gan nodi’r dull gweithredu arbennig a ddefnyddir ar gyfer datblygu darpariaeth 14-19.  Bydd yn sicrhau y gall yr holl ddysgwyr arfer eu hawl i chwe elfen allweddol fframwaith Llwybrau Dysgu.

Mae Rhwydweithiau 14-19, sy’n seiliedig ar bob ardal awdurdod lleol ac sy’n cynnwys partneriaid o bob sector gan gynnwys ysgolion, yn gweithio’n galed i weithredu Llwybrau Dysgu 14-19. Sicrhawyd bod £32.5m ar gael eleni i gefnogi gweithredu’r polisi, ac mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn Llwybrau Dysgu 14-19 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym eisoes yn gweld manteision yr agenda 14-19 mewn llawer o ysgolion ledled Cymru gan sicrhau y caiff ein pobl ifanc y cyfleoedd sydd ar gael i wireddu eu dyheadau. Bydd Llwybrau Dysgu 14-19 yn rhoi’r cyfle i bob dysgwr gymryd opsiynau galwedigaethol ynghyd ag opsiynau academaidd, wrth ddewis o restr eang o opsiynau.

Mae Rhwydweithiau 14-19 hefyd yn edrych ar gyfanswm yr arian sydd ar gael i’r ystod oedran hwn gan gydnabod y byddai gweithredu llawn ar gyfer yr holl ddysgwyr yn golygu newid patrymau a darpariaeth bresennol ynghyd ag ymestyn dewisiadau a chymorth.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaethpwyd yn Lloegr ynghylch dosbarthiadau coginio gorfodol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 14 oed, a yw’r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru? (WAQ51113)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Hutt: Fel rhan o’r Gorchymyn Dylunio a Thechnoleg diwygiedig yn y cwricwlwm ysgol newydd sydd i’w weithredu o fis Medi 2008, bydd bwyd yn ddeunydd gorfodol yn y rhaglenni astudio ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3. Caiff disgyblion gyfleoedd i ymarfer amrywiaeth eang o dasgau paratoi a choginio bwyd, yn ddiogel ac yn hylan, ac ystyried negeseuon presennol am fwyta’n iach ac anghenion maethol. Anfonwyd y wybodaeth hon i ysgolion yng Nghymru ym mis Ionawr

Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddwyd newidiadau tebyg i’r cwricwlwm yn Lloegr.

Yng Nghymru, caiff canllawiau eu paratoi ar 'Bwyd a Ffitrwydd’ er mwyn helpu ysgolion i gynllunio a darparu addysg effeithiol ar yr agwedd bwysig hon ar iechyd a lles.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sawl ardal o dir a werthwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf a pha elw a wireddwyd? (WAQ51220)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Rhwng 1999-00 a 2006-07, gwerthodd Llywodraeth Cynulliad Cymru 205 o unedau o dir. Mae’r cyfrifon blynyddol yn dangos mai £37.5m oedd y cyfanswm gwarged net o ran gwerthu asedau sefydlog yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys asedau eraill ar wahân i dir ac adeiladau. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys gwerthiannau gan Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, y GIG, llywodraeth leol neu gyrff sector cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o gartrefi sydd wedi cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd neu mewn ardaloedd sydd â pherygl uchel o lifogydd yng Nghymru er 1999? (WAQ51186)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nid ydym wedi casglu data penodol o’r natur hwn yn flaenorol.

Fodd bynnag, o fis Ebrill 2008 dylai fod yn bosibl cyfrif nifer y tai a adeiladwyd mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd dros y flwyddyn flaenorol, gan ddefnyddio gwybodaeth sy’n ofynnol yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 1 (diwygiwyd): Argaeledd Tir Sydd Ar Gyfer Tai, a gyhoeddwyd yn 2006.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y cynnig i gau Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau EM yng Nghasnewydd ar yr amgylchedd, oherwydd y bydd yn rhaid i weithwyr deithio ymhellach? (WAQ51205)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Davidson: Dim. Mae’r penderfyniad yn fater i Lywodraeth y DU.

Darren Millar (Gogledd Caerdydd): Pa awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi rhoi’r gorau i gasglu sbwriel gweddilliol cartrefi bob wythnos yn ôl y cofnodion sydd gan (a) Llywodraeth Cynulliad Cymru a (b) Swyddfa Cymru Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau? (WAQ51212)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Jane Davidson: Mae’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnal gwasanaethau casglu gwastraff rheolaidd a chynhwysfawr i’w trigolion. Mae wyth awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno casgliadau gwastraff gweddilliol bob pythefnos i o leiaf rai o’r cartrefi yn eu hardaloedd ochr yn ochr â chasgliadau deunyddiau y gellir eu hailgylchu neu eu compostio bob yn ail wythnos. Sef: Conwy, Sir Ddinbych, Casnewydd, Tor-faen, Wrecsam, Ynys Môn, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin. Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru hefyd yn ystyried gwella eu gwasanaethau casglu yn y ffordd hon.

Fe’ch cyfeiriaf hefyd at fy ateb i WAQ51189 ar 11 Chwefror.

Nid yw WRAP (Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) yn cadw cofnodion o wasanaethau awdurdodau lleol unigol.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu copi o ymateb Llywodraeth y Cynulliad i’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch cynlluniau diwygiedig Npower ar gyfer Fferm Wynt Gwynt y Môr? (WAQ51350)

Jane Davidson: Gweler yn atodedig gopi o lythyr Llywodraeth y Cynulliad i’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn rhoi sylwadau ar gynnig fferm wynt ar y môr, Gwynt y Môr. Dyma’r testun:

APPLICATION BY NPOWER RENEWABLES LIMITED FOR CONSENT TO CONSTRUCT THE GWYNT Y MOR WINDFARM OFF THE NORTH WALES COAST

THE ELECTRICITY ACT 1989 SECTION 36 (AS AMENDED)

I refer to your letter of 9 August 2007 concerning the further revision of the original application submitted by Npower Renewables on behalf of its subsidiary, Gwynt y Mor Offshore Limited, to construct  an offshore windfarm development at Gwynt Y Mor, off the North Wales Coast.  We apologise for the delay in responding.

As requested, the revised documentation in respect of the application by Npower Renewables relating to the S36 consent has been circulated within the Welsh Assembly Government and through our colleagues to our statutory advisers and sponsor bodies.  I understand that Cadw and CCW have responded to you directly.

Please note that if there have been any substantive changes to the revised application since receiving your correspondence, the Welsh Assembly Government will not have considered these as part of this response.

Whilst this response addresses the BEER’s determination of consent under Section 36 of the Electricity Act 1989 other consents are required by the proposed development including the issuing of a licence under Section 5 of the Food and Environment Protection Act 1985 (FEPA licence). This is a function devolved to the National Assembly for Wales and therefore colleagues in the Assembly Government's Environment Sustainability and Housing Department are dealing with it separately.  Their statutory role in authorising the FEPA consent is recognised by this response, but does not form part of it and this letter therefore does not in any way prejudice that process.

The Welsh Assembly Government has taken a strategic but objective approach in its consideration of the Gwynt Y Mor proposal. Like any other form of renewable development, each application has to be considered on its merits affording equal weight to economic, environmental and social issues.  

We would reconfirm that the proposal is broadly in line with the Welsh Assembly Government’s renewable energy commitments and it is recognised that the proposed development, if constructed, would contribute to the UK and Welsh targets for renewable electricity generation and would make a contribution in part to climate change commitments. Nevertheless, the Gwynt y Mor proposal presents a significant development to an area of coastline in North Wales and consequently there are a number of concerns that remain to be addressed in order to mitigate the potential impact on environmental, social and economic issues.

The Welsh Assembly Government responded to the original application and Environmental Statement through its letter of 23 March 2006 in which we called for a Public Inquiry to be held based on our view on six key areas, namely Appropriate Assessment (AA), marine mammals, project design, historic landscape, tourism and visual impact.  In light of the SEI and refinement of the project the following comments relate to the additional information and our outstanding concerns.

Appropriate Assessment

We asked that you undertook an AA into the impact of the development we await the outcome of your considerations to understand whether the impacts will affect the integrity of Liverpool Bay and the European Protected Species.  I would also be grateful if you can confirm how the AA will inform the consent process.

Marine Mammals 

As regards marine mammals we acknowledge that the developer through the SEI has provided additional information to address most of the concerns raised. However, we would wish to support the CCW's call for a mammal mitigation plan that reflects all the  stages of the development from construction to decommissioning to be drawn up in conjunction with them before any construction is started.

Design Layout

 

We note that the SEI provides a series of turbine layout options which has provided refinement and clarification of the turbine size and number and the subsequent resulting reduction in the windfarm area. We are still awaiting confirmation on foundation specifications which is required as the development may  cause disturbance to European Protected Species and needs to be considered in the context of the Conservation (Natural Habitats &c) Regulations 1994 (as amended).  As you will be aware the Welsh Assembly Government is the licensing authority under the Habitats Regulations.

Historic Landscape

 

We are pleased that the SEI now contains details of the assessment of historic landscapes; however, we still remain concerned that deviation to the methodology was not agreed with Cadw in advance. If it had been agreed the developer would have been advised given the size of the development the necessity to include assessment of the larger character area along with the specific viewpoints for impact on the landscape.

In addition we would not accept that the impact from the three offshore windfarms in Welsh waters - North Hoyle, Rhyl Flats and Gwynt y Mor - on the historic landscape is slight. Impacts from specific sites such as Llandudno, even after refinement, is at least moderate if not substantial as the coastal and offshore sky line has been affected.

Tourism

 

Tourism operators consider the quality and character of the seascape in the area is an essential element in the attractiveness of the area and, as the tourism industry is a key economic driver, a negative impact could put their economic future at risk. Llandudno is Wales’ premier resort and provides the major concentration of accommodation in North Wales attracting older visitors, many of whom are retired, as well as significant levels of conference/business tourism. Many of the attractions in North Wales are dependent on visitors staying in North Wales and of these many  are repeat visitors who return to Llandudno time and again because of its unspoilt character.

The visual impact on Llandudno would be significant, with wind turbines dominating over two thirds of the horizon when looking out to sea from the monument (as visualised in the photomontage view point 16 and a similar scale impact when viewed from the Great Orme, photomontage viewpoint 13). The NFO World Group "Investigation into the potential impact of wind farms on Tourism in Wales” indicated, based on the visitors surveyed, a 59% preference for smaller scale wind farm developments over large scale developments. An overwhelming majority of those surveyed felt that unspoilt views of the coastal environment were either very or quite important.

We are aware that the company also conducted an independent tourism survey for North Hoyle and Gwynt y Mor but for the survey to have validity, Rhyl Flats wind farm should have been included in the survey as the combined visual impact with Gwynt y Mor on Llandudno is substantial. Consequently, those surveyed should have been shown the computerised images similar to those contained within the "Supplementary Environmental Information” of the three wind farms from the view points in Llandudno. In the independent survey commissioned by Npower and conducted in 2004, 4% of the tourists interviewed said that in considering North Hoyle and Gwynt y Mor windfarms they would be discouraged from visiting the area again. Figures based on visitor spend estimates 12,188 jobs in Conwy supported by tourism. STEAM figures for Conwy estimate it has 31% of total expenditure in North Wales. UKTS figures estimate that North Wales Visit spend is 661m (31% of this is 204.91m.)

In addition this stretch of the North Wales coast attracts a large retired population who bring regular income into the area which creates jobs for the indigenous population.  The impact of this should also be fully examined.

Whilst it is appreciated that the policy of both the Assembly Government and the UK Government is to increase the contribution from renewable energy, the potential negative impact on tourism in a premier Welsh resort is a material consideration, and should be tested against the proposed benefits from this proposal.

Visual Impact 

In the original application, visual impact was not fully examined as the ES did not provide enough information on which to base an assessment. However the SEI has allowed us to make an assessment of the visual impact of the project. Whilst the refinements to the project may reduce the footprint the visual impact has not been significantly improved, especially from Llandudno as from some view points the pier had concealed the few turbines that have been removed. Therefore reduction on the horizon has not changed the sensitivity of height and number of turbines and the impacts on a high quality seascape and landscape. In addition the SEI, which has rightly included Rhyl Flats in the photomontages, highlights the imposing clutter on the horizon.

 

Due to the likely impacts on the Historic Landscape and Tourism, despite the developers stressing these are minor, it will still cause an impact which should be mitigated and is consequently the reason to ask about the feasibility of moving the windfarm further offshore and looking into the possibility of moving the shipping routes further inshore.

 

Finally, although the company and your Department carried out consultations with a wide range of stakeholders who have been given opportunity to express their views, carrying out a consultation is not the same as holding a Public Inquiry when the evidence submitted by all the parties can be considered and cross examined to ensure the information provided is correct and robust. Given these points and the objections made by Conwy County Borough Council (and that objections lodged by local people still remain), we would reconfirm our request that your Secretary of State calls for a public local inquiry to be held to consider the many issues surrounding this proposal.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51355)

Jane Davidson: Nid yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cyflogi ei staff cyfreithiol ei hun ac mae’n rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol ar draws ei gylch gwaith cyfan. Mae hyn yn cynnwys cyngor a sylwadau ar faterion megis sefydlu a rheoli safleoedd dynodedig, perchenogaeth tir a rheoli a thrwyddedu rhywogaethau a warchodir.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a wariodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyngor cyfreithiol allanol rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51356)

Jane Davidson: Dros y cyfnod hwn, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi gwario’r canlynol ar gyngor cyfreithiol:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

2003-2004

£286,575

2004-2005

£170,610

2005-2006

£294,516

2006-2007

£506,840

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Mid and West Wales): Will the Minister outline the objectives which the Commissioner for Older People will be expected to achieve in her first year of Office? (WAQ50854)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Mae swydd Comisiynydd Pobl Hŷn yn annibynnol ar Lywodraeth y Cynulliad. Felly, y Comisiynydd ei hun, Ruth Marks, fydd yn penderfynu ar ei blaenoriaethau a’i hamcanion ei hun mewn ymgynghoriad â phobl hŷn.

Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd lunio adroddiad blynyddol i’r Cynulliad ac mae’n rhaid iddo gynnwys crynodeb o’i rhaglen waith ar gyfer blwyddyn ariannol yr adroddiad, ac o gynigion ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Caiff yr adroddiad hwnnw ei ystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn ynghyd ag ymateb Llywodraeth y Cynulliad iddo.

Er bod llawer o ddisgwyliadau ynghylch y swydd hon, hyderaf y bydd Ruth yn defnyddio’r pwerau grymus sydd yn y ddeddfwriaeth hyd yr eithaf er mwyn hyrwyddo a gwarchod buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.  

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion cost gweithredu ei bolisi presgripsiynau GIG am ddim hyd yn hyn? (WAQ51089)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyfanswm y gost i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2007-08 am ariannu’r broses o ddileu taliadau presgripsiynau fesul cam yw £29.5 miliwn.

Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa arweiniad y mae ei Hadran wedi’i gyhoeddi ar ddefnyddio dŵr wedi’i fflworeiddio i wneud llaeth fformiwla i fabanod? (WAQ51115)

Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa gynnydd a wnaethpwyd yng nghyswllt hybu cyflenwadau dŵr wedi’i fflworeiddio yng Nghymru ar ôl i Ddeddf Dŵr 2003 ddod i rym? (WAQ51118)

Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa ymchwil y mae ei Hadran wedi’i wneud ar fflworeiddio cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru? (WAQ51119)

Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa asesiad y mae ei Hadran wedi’i wneud ar fflworeiddio cyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru? (WAQ51120)

Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa ymchwil y mae ei Hadran wedi’i wneud i effaith cymryd fflworid ar fabanod? (WAQ51121)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Edwina Hart: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi unrhyw arweiniad ar ddefnyddio dŵr wedi’i fflworeiddio i wneud llaeth fformiwla i fabanod.  

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud unrhyw waith ymchwil penodol ar fflworeiddio cyflenwadau dŵr cyhoeddus nac ar effaith cymryd fflworid ar fabanod.

Darparwyd dau bapur i Bwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fflworeiddio Cyflenwadau Dŵr ar 25 Hydref 2000 a 5 Rhagfyr 2001. Mae’r papurau hyn yn darparu rhywfaint o asesiad ar fflworeiddio dŵr.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Cyngor Gofal Cymru rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51353)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a wariodd Cyngor Gofal Cymru ar gyngor cyfreithiol allanol rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51354)

Gwenda Thomas: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn casglu’r wybodaeth hon.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy’n dioddef poen cronig? (WAQ51363)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gyda Byrddau Iechyd Lleol ynghylch gwella gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n byw â phoen cronig? (WAQ51364)

Edwina Hart: Datblygwyd Cyfarwyddebau Datblygu a Chomisiynu Gwasanaethau Poen Anfalaen Cronig gyda chymorth Cymdeithas Poen Cymru a’i haelodau gyda’r un nod o wella iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda phoen anfalaen cronig yng Nghymru.

Mae’r ddogfen hon wedi’i hanelu at gomisiynwyr iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol, darparwyr gwasanaethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol ac unigolion sy’n byw gyda phoen anfalaen cronig, eu teuluoedd a gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol eraill. Mae’n rhan o gyfres o gyhoeddiadau strategol ar gyfer ailgynllunio’r modd y gofelir am gyflyrau cronig fel y’i hategir gan Cynllun Oes: Creu Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r Radd Flaenaf i Gymru yn yr 21ain Ganrif a Cynllun i Wella Iechyd a Rheoli Cyflyrau Cronig yng Nghymru: Model a Fframwaith Integredig ar gyfer Gweithredu yng Nghymru.

Rwy’n rhagweld y caiff y ddogfen ei lansio yn ystod y misoedd nesaf.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd Lleol ac amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill ar y broses o ddatblygu ein cynlluniau cyffredinol i wella’r gwaith o reoli cyflyrau cronig yn cynnwys poen anfalaen cronig.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a wariodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyngor cyfreithiol allanol rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51351)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Yn 2005-2006 cost y cyngor cyfreithiol oedd £933. Yn 2006-2007 y gost oedd £442

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51352)

Rhodri Glyn Thomas: Cafodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyngor cyfreithiol allanol yn 2005-06 a 2006-07. Roedd y cyngor a gymerwyd yn ymwneud â chyfraith eiddo a chyfraith cyflogaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Cyngor Chwaraeon Cymru rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51357)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a wariodd Cyngor Chwaraeon Cymru ar gyngor cyfreithiol allanol rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51358)

Rhodri Glyn Thomas: Nododd Cyngor Chwaraeon Cymru y gwariwyd y symiau canlynol ar gyngor cyfreithiol allanol:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

2003- 2004

£43,145

2004-2005

£35,833

2005-2006

£27,408

2006-2007

£8,394

Roedd y gwariant hwn yn cwmpasu meysydd megis cyfraith cyflogaeth, cyfraith elusennau, materion cyfraith busnes ac amddiffyn atebolrwydd cyhoeddus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51359)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a wariodd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyngor cyfreithiol allanol rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51360)

Rhodri Glyn Thomas: Caiff costau cyfreithiol yr aeth Cyngor Celfyddydau Cymru iddynt eu dosbarthu i ddau gategori, y costau sy’n gysylltiedig â Gweithgareddau cyffredinol a’r rhai sy’n gysylltiedig â Gwaith cyfalaf a chânt eu nodi yn y tabl isod.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

Blwyddyn ariannol

Ffioedd Cyfreithiol Cyffredinol

Ffioedd Cyfreithiol Cyfalaf

2003  -  2004

8,570.40

55,280.68

2004  -  2005

16,279.85

21,744.93

2005  -  2006

9,768.50

33,739.92

2006  -  2007

3,005.50

36,880.77

Mae Gweithgareddau cyffredinol yn dueddol o gael eu cysylltu â statws Cyngor Celfyddydau Cymru fel Elusen Gofrestredig ond maent hefyd yn cynnwys cyngor ar gontractau ac Atebolrwydd cyflogwr/cyhoeddus. Mae Costau cyfalaf yn gysylltiedig â phrosiectau adeiladau mawr sy’n dueddol o gael eu hariannu o ffynonellau’r Loteri.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa effaith gaiff dirwy £63M Comisiwn yr UE i DEFRA ar amaethyddiaeth yng Nghymru? (WAQ50923)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Ni chaiff dirwy Comisiwn yr UE i DEFRA effaith ar amaethyddiaeth yng Nghymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio tir y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt? (WAQ51326)

Elin Jones: Ar ôl cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy; cyfeiriwyd Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN8) Comisiwn Coedwigaeth Cymru at y broses o reoli’r cyfle a grëodd y Nodyn Cyngor Technegol drwy gynnig 'hawl unigryw i ddatblygu’ ar goetir y Cynulliad.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n rheoli dros hanner y tir o fewn yr ardaloedd chwilio strategol ac mae’r tir hwn yn apelio at ddatblygwyr oherwydd: un perchennog a rheolwr sy’n berchen arno; mae ganddo rwydwaith ffyrdd bresennol; mae yn uchel gyda threfn wynt ffafriol; mae’n ddigon mawr i ddarparu ar gyfer datblygiadau mawr gan achosi llai o effaith ar yr amgylchedd a’r tirwedd na thir agored ac mae’n bell o gymunedau.

Mae’r tir hwn yn berchen i Weinidogion Cymru sydd â’r pŵer i gael gwared ohono o dan adran 39(2) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 ac mae cytundeb o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (adran 41 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn flaenorol) yn galluogi’r Comisiynwyr i weithredu ar eu rhan.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr Coedwigaeth y defnydd hwn ar yr amod nad oedd yn cynnwys torri coed i lawr ar raddfa fawr. Er mwyn bodloni dyletswydd y Gweinidog a’r Comisiynydd i gadw’r coetir, mae’r cynigyddion wedi cynnig defnyddio’r dechnoleg a’r broses 'twll clo’ orau sydd ar gael er mwyn torri coed mewn ardaloedd bach er mwyn galluogi’r tyrbinau i weithio’n effeithiol uwchben canopi’r coed cyfagos. Gallai hyn olygu torri tua 500 hectar o goetir pe byddai’r holl ddatblygiadau arfaethedig yn mynd yn eu blaenau. Mae hyn yn llai na 0.5% o gyfanswm yr ystad o tua 110,000 hectar a thua traean o’r ardal a gaiff ei thorri a’i hailstocio bob blwyddyn gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fel rhan o weithrediadau arferol y goedwig.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rheoli proses gaffael dau gam i ddewis y cwmnïau a fydd yn cael yr opsiwn i ddatblygu ac yna i brydlesu, yn amodol ar ddyraniad caniatâd cynllunio. Roedd y broses yn profi cynigyddion yn erbyn cyfres o feini prawf a oedd yn cwmpasu eu harbenigedd technegol a’u profiad yn y gorffennol, eu galluoedd ariannol, faint o ynni a gynhyrchir a’r incwm a’r manteision cymunedol ychwanegol yr oeddent yn eu cynnig.

Nid yw dyrannu’r opsiwn yn golygu y bydd unrhyw dyrbin yn cael ei adeiladu, y cyfan mae’n ei wneud yw rhoi’r hawl unigryw i’r cwmni weld y caniatâd cynllunio. Dim ond os rhoddir caniatâd cynllunio y caiff prydles am gyfnod o 25 mlynedd i ddechrau ei rhoi a bydd yn rhaid i’r datblygwr dynnu’r tyrbinau a’r seilwaith fetr o dan lefel y ddaear ar ddiwedd y cyfnod - fel yr achosir cyn lleied o effaith weledol hirdymor â phosibl ar y tirwedd.

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio mae’r rhaglen yn cynnig potensial incwm sylweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru unwaith y caiff y cytundebau opsiwn eu llofnodi a chaiff rhagor o incwm ar sail ffi breindal ar gyfer faint o drydan a gynhyrchir bob blwyddyn ar ôl adeiladu’r ffermydd gwynt.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig y cyfle, ar ôl adeiladu’r ffermydd gwynt, i gynhyrchu incwm sylweddol ar gyfer prosiectau yn y gymuned yn yr ardaloedd sy’n agos at y datblygiadau.

Gallai manteision o’r fath gynnwys cymorth i adeiladu cyfleuster cymunedol; cyfandaliad neu daliadau blynyddol at ddefnydd cymunedol ac ymrwymiad gan y cwmni datblygu i ddefnyddio llafur, contractwyr a gwasanaethau lleol pryd bynnag y bo’n bosibl. Bydd y manteision hyn yn cael eu trafod, a’u sianelu drwy gorff wedi’i reoleiddio a’i greu yn briodol i gefnogi datblygiad cymunedol cynaliadwy.

Er nad yw’n ofynnol cael Asesiad Amgylcheddol Strategol o’r rhaglen, cyflwynir Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol Manwl i ddisgrifio’r effaith bosibl fel rhan o’r cais cynllunio ar gyfer pob datblygiad a bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn helpu’r datblygwr gyda hyn drwy ddarparu’r wybodaeth amgylcheddol sydd ganddo.

Ym mis Hydref 2007 cytunais i waredu’r tir yr oedd ei angen er mwyn galluogi’r cwmnïau dethol i gyflwyno eu ceisiadau cynllunio ac ar ôl trafodaeth ddwys rydym yn disgwyl cyhoeddi llofnodi’r cytundebau opsiwn maes o law. Yna bydd y datblygwyr llwyddiannus mewn sefyllfa i gyflwyno cais cynllunio i’r awdurdod cynllunio priodol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa astudiaethau amgylcheddol a wnaethpwyd ynghylch defnyddio tir y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt? (WAQ51327)

Elin Jones: Nid oes unrhyw astudiaeth amgylcheddol ar y defnydd o’r tir a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer ffermydd gwynt wedi’i gynnal, ar wahân i’r ystyriaeth o’r defnydd yn ystod y broses o lunio canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y mater hwn; Nodyn Cyngor Technegol 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy (TAN8).

Yr awdurdod cynllunio perthnasol sydd yn y sefyllfa orau i asesu effaith amgylcheddol unrhyw ddatblygiad arfaethedig pan fydd y cwmnïau sy’n ymwneud â hyn yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.

Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth amgylcheddol berthnasol sydd ganddo i’r cwmnïau datblygu hyn fel y gallant lunio eu cais cynllunio a fydd yn cynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddarparu llety diogel, gwasanaethau cefnogi, gofal meddygol a chyngor cyfreithiol i ddioddefwyr y fasnach mewn pobl a achosir gan y fasnach ryw yng Nghymru? (WAQ50877)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Rydym yn rhoi mesurau ar waith i gefnogi dioddefwyr cam-fanteisio rhywiol. Rydym wedi cynyddu’r arian yn sylweddol ac yn ariannu’r broses o ddatblygu cartref diogel i ferched sy’n dianc rhag puteindra gan gynnwys merched sy’n cael eu masnachu. Byddwn yn sicrhau y caiff amrywiaeth llawn o wasanaethau cymorth ei ddarparu i ddioddefwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw nifer lleiaf y canghennau swyddfa’r post trefol sydd eu hangen i sicrhau bod 90% o holl boblogaeth drefol Cymru yn byw o fewn un filltir i gangen? (WAQ51165)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Nid yw polisïau Swyddfeydd Post wedi’u ddatganoli. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw nifer lleiaf y canghennau swyddfa’r post gwledig sydd eu hangen i sicrhau bod 95% o holl boblogaeth wledig Cymru yn byw o fewn tair milltir i gangen? (WAQ51166)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Leighton Andrews: Nid yw polisïau Swyddfeydd Post wedi’u ddatganoli. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw nifer lleiaf y canghennau swyddfa’r post anghysbell sydd eu hangen i sicrhau bod 95% o holl boblogaeth anghysbell Cymru yn byw o fewn chwe milltir i gangen? (WAQ51167)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Leighton Andrews: Nid yw polisïau Swyddfeydd Post wedi’u ddatganoli. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o boblogaeth drefol Cymru sydd o fewn un filltir i gangen swyddfa’r post? (WAQ51168)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Leighton Andrews: Nid yw polisïau Swyddfeydd Post wedi’u ddatganoli. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o boblogaeth wledig Cymru sydd o fewn tair milltir i gangen swyddfa’r post? (WAQ51169)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Leighton Andrews: Nid yw polisïau Swyddfeydd Post wedi’u ddatganoli. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o boblogaeth wledig anghysbell Cymru sydd o fewn chwe milltir i gangen swyddfa’r post? (WAQ51170)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Leighton Andrews: Nid yw polisïau Swyddfeydd Post wedi’u ddatganoli. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes yn rhaid i awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiadau blynyddol am weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl ledled Cymru ac os nad oes, a wnaiff y Gweinidog ystyried ei wneud yn orfodol? (WAQ51349)

Brian GIbbons: Mae gan awdurdodau cyhoeddus a nodir ofyniad cyfreithiol i lunio adroddiad bob blwyddyn sy’n cynnwys crynodeb o’r canlynol:

• y camau y maent wedi’u cymryd dros y flwyddyn flaenorol i gyflawni’r ddyletswydd gydraddoldeb i bobl anabl cyffredinol a roddwyd iddynt gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Mae’n rhaid i’r adroddiad egluro sut y mae’r awdurdod, wrth gyflawni ei ddyletswyddau, wedi ystyried yr angen i ddileu achosion o wahaniaethu ac aflonyddu, i hyrwyddo cyfle cyfartal ac i annog pobl ag anableddau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, er mwyn annog agweddau positif tuag atynt hwy a darparu ar gyfer eu hanableddau

• canlyniadau’r broses o gasglu gwybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod ei chyflawni fel effeithiau ei pholisïau ac arferion ar bobl sydd ag anableddau

• yr hyn y mae’r awdurdod wedi’i wneud gyda’r wybodaeth a gasglwyd

Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol yn hytrach na Llywodraeth Cynulliad Cymru yw rhoi dyletswyddau cydraddoldeb penodol i awdurdodau cyhoeddus, fel y ddyletswydd hon i lunio adroddiad blynyddol.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digon o dir ar gael ar gyfer claddu’r meirwon yng Nghymru? (WAQ51365)

Brian Gibbons: Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol, ar y cyd â phartneriaid lleol, yw nodi anghenion a blaenoriaethau eu hardal a datblygu strategaethau hirdymor i fynd i’r afael â hwy. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod amrywiaeth o ddarpariaeth briodol ar gyfer claddu’r meirw.

Yn 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i ymgynghoriad cynharach ar adolygiad ar 'Gyfraith a Pholisi Claddu yn yr 21ain Ganrif’. Roedd yr adolygiad yn cydnabod bod anawsterau mewn rhai meysydd o ran dod o hyd i ddigon o le ar gyfer beddau newydd. Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn y byddai’n iawn galluogi awdurdodau lleol i ailddefnyddio beddau, yn amodol ar fesurau diogelwch priodol, ac mae bellach yn datblygu cynigion manwl. Bydd yn gwneud cyhoeddiad pellach maes o law a fydd yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar gyngor cyfreithiol allanol rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51361)

Y Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ (Carwyn Jones ): Dyma restr o’r taliadau a wnaed o gyllidebau gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth y Cynulliad.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Chwefror 2008

Blwyddyn ariannol

Cyfanswm Gwariant (£)

2003-2004

1,687,508

2004-2005

1,391,922

2005-2006

951,520

2006-2007

1,289,522

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnewch ddatganiad am y cyngor cyfreithiol allanol a gafodd Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2003-2004, 2004-2005, 2005-2006 a 2006-2007? (WAQ51362)

Carwyn Jones: Gofynnir am gyngor a gwasanaethau cyfreithiol allanol ar amrywiaeth o wasanaethau cynghori, trafodaethol ac ymgyfreitha sy’n deillio o gyflawni dyletswyddau Llywodraeth y Cynulliad, gan gwmpasu materion na chaiff eu gwneud yn fewnol, neu sy’n gymhleth neu o natur arbenigol, sy’n codi o faterion eiddo a masnachol (yn cynnwys cyllid corfforaethol), materion cyflogaeth a materion ymgyfreitha.