26/03/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mawrth 2013 i’w hateb ar 26 Mawrth 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Ramsay (Mynwy): Faint o staff Llywodraeth Cymru sydd wedi’u lleoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Victoria Street yn Llundain a beth yw eu cyfrifoldebau. (WAQ64362)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu enw a phroffil swydd pob aelod o staff Llywodraeth Cymru sydd wedi'i leoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain. (WAQ64363)

Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar osod peilonau ar draws Ynys Môn. (WAQ64378)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch a yw'r Paneli Sector Economaidd wedi cwrdd â Masnach a Buddsoddi y DU, ac, os felly, a wnaiff ddarparu dyddiadau'r cyfarfodydd a dweud pwy oedd yn bresennol ym mhob cyfarfod. (WAQ64360)

Nick Ramsay (Mynwy): Sawl cyfarfod mae tîm Llywodraeth Cymru yn y swyddfa yn Llundain wedi'i gael â Masnach a Buddsoddi y DU. (WAQ64361)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Croeso Cymru i fod i gynnal expo tebyg i expo Visit Scotland sydd wedi’i drefnu ar gyfer 16-18 Ebrill. (WAQ64370)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd gan gynrychiolwyr o Croeso Cymru stondin yn Ffair Fasnach Twristiaeth Ryngwladol Fitur yn 2014 (WAQ64371)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd gan Croeso Cymru stondin ym Marchnad Teithio'r Byd ym mis Tachwedd 2013 (WAQ64372)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A fydd Croeso Cymru yn anfon cynrychiolwyr i City Fair 2013. (WAQ64373)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a wariwyd unrhyw arian ar hyrwyddo Cymru yng ngemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd yn ddiweddar. (WAQ64374)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o dwristiaid o Gatalonia sydd wedi ymweld â Chymru yn y 12 mis diwethaf. (WAQ64375)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob ysgol sy'n destun mesurau arbennig yng Nghymru, a wnaiff y Gweinidog restru nifer y disgyblion sydd yn yr ysgol honno yn y flwyddyn academaidd gyfredol. (WAQ64364)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gefnogaeth y bydd yn ei darparu er mwyn cynorthwyo â hyfforddi seicolegwyr addysg. (WAQ64365)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog yn eu cynnal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phrifysgol Caerdydd ynghylch cyllido’r Rhaglen Doethuriaeth Seicoleg Addysgol yn y dyfodol. (WAQ64366)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Gweinidog yn bwriadu derbyn argymhellion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol y dylid rhoi adolygiadau etholiadol ar waith yng nghyswllt Ceredigion, Conwy, Powys a Sir Fynwy erbyn 2017 (WAQ64376)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw'r Gweinidog yn bwriadu derbyn argymhellion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol y dylid cynnal adolygiadau etholiadol o Gaerdydd, Merthyr Tudful, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam eto yn sgîl pasio Bil Democratiaeth Llywodraeth Leol (Cymru). (WAQ64377)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu TB mewn Gwartheg. (WAQ64367)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer coedwigaeth fasnachol. (WAQ64368)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno Parthau Cadwraeth Morol. (WAQ64369)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw'r asesiad diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r derbyniadau refeniw a ddisgwylir o ffermydd gwynt ar y tir sydd wedi'u lleoli ar dir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno. (WAQ64379)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw’r asesiad diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o a) y bygythiadau o ran iechyd anifeiliaid a b) o ran iechyd planhigion i amaethyddiaeth a choedwigaeth Cymru. (WAQ64380)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, hyd yma, yn mapio Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol yng Nghymru. (WAQ64381)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl waith modelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yng nghyswllt y newid o daliadau uniongyrchol sy'n seiliedig ar daliadau hanesyddol i daliadau sy'n seiliedig ar arwynebedd. (WAQ64382)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o oblygiadau trefniadau trosiannol y PAC ar Glastir. (WAQ64383)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa bryd fydd y Gweinidog yn ysgrifennu'r llythyr cylch gwaith at Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. (WAQ64384)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau o dan ba amodau y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun cymorth penodedig ar gyfer Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig presennol a’r Cynllun ar gyfer y dyfodol. (WAQ64385)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i gyflwyno cymorth cysylltiedig ar gyfer sector llaeth Cymru o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd. (WAQ64386)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa waith paratoawl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi'r gwaith o lunio Corff Cynhyrchwyr o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd. (WAQ64387)