Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mai 2016 i'w hateb ar 26 Mai 2016
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff uned gyflawni'r Prif Weinidog barhau i weithredu yn ystod y pumed Cynulliad? (WAQ70250)
Derbyniwyd ateb ar 27 Mai 2016
Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): The Delivery Unit undertook valuable work for me in the previous government. However, the needs of this government are different and there will not be a Delivery Unit.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Os na fydd yr uned gyflawni'r Prif Weinidog yn gweithredu yn ystod y pumed Cynulliad, i ble fydd ei staff a'i adnoddau yn cael eu dyrannu? (WAQ70251)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth oedd cyfanswm cost uned gyflawni'r Prif Weinidog yn ystod y pedwerydd Cynulliad, a beth oedd y dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn o dymor y Cynulliad? (WAQ70252)
Derbyniwyd ateb ar 27 Mai 2016
Carwyn Jones: The cost of the Delivery Unit was primarily staffing costs. Staffing in the Welsh Government is a matter for the Permanent Secretary and I have asked him to write to you.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw uned gyflawni'r Prif Weinidog wedi cynnig unrhyw asesiad ynghylch ei gallu ei hun i gyflawni ei chylch gwaith yn ystod y pedwerydd Cynulliad? (WAQ70253)
Derbyniwyd ateb ar 27 Mai 2016
Carwyn Jones: The performance and effectiveness of the Delivery Unit should be judged on the delivery of the Programme for Government.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella diogelwch ar yr A483 yn Llanddewi? (WAQ70254) TYNNWYD YN ÔL