Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Mehefin 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Bourne (Mid and West Wales): Pa arweiniad a chanllawiau cydymffurfio y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cynnig i awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch sut y dylent ddefnyddio unrhyw gyllid gan y cynllun RHAGORI? (WAQ54392)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Blwyddyn 4 Rhagori (2009-2010) yn nodi cam newydd yn y rhaglen. Ym mis Rhagfyr 2008, gwnaethom ysgrifennu at awdurdodau lleol i’w hysbysu o’r trefniadau grant newydd. Roeddynt yn ei gwneud yn ofynnol i bob consortiwm rhanbarthol sefydlu panel cydgysylltu Rhagori i weinyddu’r grant, a fyddai’n cynnwys:
cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol o fewn y consortiwm;
arweinydd cenedlaethol y rhaglen Rhagori;
cydgysylltydd rhanbarthol Rhagori i’r consortiwm.
Roedd y panel hwn i gytuno ar strategaeth ar gyfer dyfarnu grantiau Rhagori ar gyfer 2009-2010, gan ganolbwyntio ar themâu allweddol a nodwyd drwy werthuso’r rhaglen Rhagori, hyd y dyddiad hwnnw.
Roedd y paneli rhanbarthol i gyfeirio at eu cydgysylltydd rhanbarthol Rhagori ac at eu grŵp cydgysylltu cenedlaethol Rhagori i sicrhau bod cydbwysedd priodol o weithgareddau ledled Cymru ac o fewn y consortiwm.
Nodwyd y dylai gweithgareddau Rhagori:
fod yn gydweithredol ac amlasiantaethol;
cyfrannu at ddatblygiadau Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion;
bod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sy’n bodoli am anfantais economaidd-gymdeithasol;
cynnwys ymchwil weithredu i sicrhau canlyniadau a brofwyd yn drwyadl.
Dylai’r paneli cydgysylltu naill ai wahodd grwpiau o ysgolion i lunio cynigion drafft am arian neu wahodd ysgolion penodol i gymryd rhan mewn mentrau a nodwyd gan y consortiwm. Fodd bynnag, dylai pob cynnig gefnogi gweithgareddau meithrin gallu a fyddai’n arwain at rai canlyniadau y gellir eu cyhoeddi a’u cyflwyno a fyddai o fudd i ysgolion y tu hwnt i’r grŵp a gymerai ran.
Roedd y consortia i benderfynu ar nifer y grantiau a’u maint ar gyfer 2009-2010, hyd at gyfanswm yr arian a oedd ar gael ar gyfer y rhanbarth hwnnw. Fodd bynnag, rhaid neilltuo’r £4.5 miliwn cyfan a ddynodwyd ar gyfer gweithgareddau mewn ysgolion yn uniongyrchol i’r ysgolion sy’n cymryd rhan.
Bydd y llythyrau sy’n cynnig grant yn cynnwys telerau ac amodau cynhwysfawr ynghylch defnyddio arian grant Rhagori.
Nick Bourne (Mid and West Wales): Pwy sy’n gymwys i wneud cais am gyllid RHAGORI a beth yw’r meini prawf y byddai angen eu bodloni/darparu i fod yn gymwys? (WAQ54393)
Jane Hutt: Pan lansiwyd y rhaglen Rhagori, roedd ysgolion yn cael grant, os oedd ganddynt 50 neu fwy o ddisgyblion o oedran ysgol statudol, ag 20% neu ragor ohonynt yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim.
Pan gyhoeddwyd y rhaglen Rhagori yn wreiddiol gan Lywodraeth y Cynulliad, nodwyd y dylid ei hystyried yn rhaglen dwy flynedd a fyddai’n caniatáu i ysgolion weithredu strategaeth dros gyfnod estynedig. Yn ystod y ddwy flynedd hynny, roeddem yn rhagweld y byddai ysgolion yn myfyrio ar eu harfer ac, ar sail y gwersi a ddysgwyd, yn datblygu dulliau gweithredu effeithiol ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol mewn addysg. O ganlyniad, roeddem yn ystyried ei bod yn anaddas ychwanegu neu dynnu ysgolion o’r rhaglen ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, hyd yn oed lle’r oedd eu lefelau cinio ysgol am ddim yn croesi’r ffin 20% i unrhyw gyfeiriad.
Yn dilyn yr ymgynghoriad â CLlLC a CCAC, cytunais y dylai’r drydedd flwyddyn a’r flwyddyn olaf ganolbwyntio ar ymgorffori arfer da sydd eisoes wedi ei ddatblygu, â llawer mwy o bwyslais ar gydweithio, meithrin gallu a chynaliadwyedd ym mhob ysgol sydd eisoes yn cymryd rhan.
Nodwyd ar ba sail y mae ysgolion yn cyfranogi yn Rhagori yn ystod 2009-2010 yn WAQ54392.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Sut y caiff pobl ifanc anabl eu cynrychioli ar lefel leol ledled Cymru? (WAQ54404)
Jane Hutt: Mae cynnwys plant a phobl ifanc anabl mewn cymdeithas yn sylfaenol i’n strategaethau, polisïau a chanllawiau. Er enghraifft mae Hyrwyddo Cydraddoldeb Anabledd mewn Ysgolion yn rhoi canllawiau i athrawon a phenaethiaid ar hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl anabl a phobl eraill; hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl; annog pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus; a chymryd camau i ddiwallu anghenion pobl anabl i enwi rhai.
Parhawn yn ymrwymedig i’r egwyddor o roi’r hawl i blant apelio ynghylch eu hanghenion addysgol arbennig a/neu’r hawl i gyflwyno hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd gerbron Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Yn wir, bydd y Mesur Addysg (Cymru) arfaethedig yn sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl, am y tro cyntaf, yn gallu cyflwyno hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd gerbron y Tribiwnlys.
Mae gennym Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru ac maent wedi eu llunio i sicrhau bod unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc sydd am fod yn rhan o’r broses o ddylanwadu ar y gwasanaethau y mae’n eu defnyddio yn gallu gwneud hynny. Mae gan bob adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru bellach swyddog cyswllt adrannol i gydgysylltu’r gwaith hwn ac rydym yn darparu hyfforddiant i bobl ifanc i weithio gyda ni i ddylanwadu ar yr hyn a wnawn. Rydym hefyd yn darparu gweithdai codi ymwybyddiaeth i grwpiau o bobl ifanc anabl. Mae’r gweithdai dwy awr hyn yn canolbwyntio ar gyfranogi, nodi’r hyn ydyw, y buddion a’r rhwystrau, pam y dylai pobl ifanc gymryd rhan, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac, yn bwysig i’ch cwestiwn chi, sut y gallant gymryd rhan yn lleol.
Dylai plant a phobl ifanc anabl rhwng 0 a 25 oed gael cyfleoedd a chymorth i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau lleol ar faterion sy’n effeithio ar eu bywydau; dylai’r rhain fod wedi eu nodi yn y 22 o Strategaethau Cyfranogi Lleol a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc. Drwy gyfranogi’n lleol, dylai plant a phobl ifanc anabl gael cyfleoedd i’w hethol yn gynrychiolwyr naill ai prif ffrwd neu gydraddoldeb i Uwch-Gyngor y Ddraig Ffynci, cynulliad plant a phobl ifanc Cymru. Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc anabl yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i gyfranogi mewn trefniadau prif ffrwd. Mewn rhai achosion, gallai hyn olygu dulliau gweithredu o’r "bôn i’r brig" lle caiff cymorth ychwanegol ei ddarparu i rwydweithiau penodol blant a phobl ifanc anabl yn y lle cyntaf, gan obeithio y bydd yn arwain ymhen amser at integreiddio pobl ifanc anabl i drefniadau prif frwd, er enghraifft, cynghorau ysgolion, fforymau ieuenctid a’r Ddraig Ffynci. Mae nifer o enghreifftiau ardderchog o blant a phobl ifanc ag anableddau yn cael eu cefnogi i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yn yr ysgol, er enghraifft, Ysgol Arbennig Sant Christopher yn Wrecsam.
Mae nifer o rwydweithiau sy’n bodoli i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc anabl i gael dweud eu dweud yn lleol, er enghraifft, Clebran yng Ngogledd Cymru a 'Young Voices for Choices’ yn Sir Benfro. Ceir Rhwydwaith Pobl Ifanc Anabl hefyd, a gynhelir gan Plant yng Nghymru.
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54411)
Jane Hutt: Cyhoeddir cyllid ar gyfer y trydydd sector yn flynyddol yn Adroddiad Blynyddol Cynllun y Trydydd Sector Llywodraeth Cynulliad Cymru (sef Cynllun y Sector Gwirfoddol gynt). Ceir crynodeb o’r cyllid a ddarperir i’r trydydd sector yn y tabl isod. Dim ond gwybodaeth ar gyfer blynyddoedd ariannol 2001-02 hyd 2007-2008 sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae’r wybodaeth yn adlewyrchu’r newid yng nghylch gwaith cyfrifoldebau gweinidogol yr adran dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn ystod y cyfnod.
Blwyddyn Ariannol |
Cyfanswm a Wariwyd ar y Trydydd Sector (£000au) |
|
2001-02 |
Addysg a Hyfforddiant** |
864 |
2002-03 |
Addysg a Hyfforddiant |
21,770 |
2003-04 |
Addysg a Hyfforddiant** |
24,702 |
2004-05 |
Addysg a Hyfforddiant** |
4,618 |
2005-06 |
Addysg a Dysgu Gydol Oes* |
25,259 |
2006-07 |
Addysg a Dysgu Gydol Oes |
22,223 |
2007-08 |
Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau |
44,097 |
*Mae’n cynnwys arian a ddarparwyd gan Gyngor Cenedlaethol Dysgu ac Addysgu Cymru (ELWa) cyn iddo uno â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 1af Ebrill 2006.
**Nid oes gwybodaeth am ELWa ar gael ar gyfer y blynyddoedd hyn.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sawl gwaith mae’r Comisiwn Bevan wedi cyfarfod? (WAQ54398)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyngor mae’r Comisiwn Bevan yn ei roi i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? (WAQ54399)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut y mae cyfarfodydd y Comisiwn Bevan yn mynd i fod yn fwy tryloyw? (WAQ54400)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw cyngor y Comisiwn Bevan yn cael ei gyhoeddi? (WAQ54401)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd gaiff cyfarfod nesaf y Comisiwn Bevan ei gynnal ac ymhle? (WAQ54402)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cylch gorchwyl y Comisiwn Bevan? (WAQ54403)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae Comisiwn Bevan wedi cwrdd ar 12 Rhagfyr 2008, 6 Chwefror a 14 Ebrill 2009.
Nodir rôl y Comisiwn yn y Cylch Gorchwyl isod.
Rhoi cyngor ar:
eu barn ar y graddau y mae strwythurau newydd y GIG yn cyflawni’r dibenion a nodais yn y dogfennau ailstrwythuro;
materion iechyd sy’n codi ac sydd angen sylw;
cyfleoedd i sicrhau gwasanaeth gwell neu gyflymach
Er mwyn bod mor dryloyw â phosibl mae gwefan benodedig wrthi’n cael ei sefydlu. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 7 Awst 2009 yng Nghaerdydd.