26/11/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 26 Tachwedd 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 26 Tachwedd 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar brosiect newid ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ffordd ddeuol ymhob un o’r blynyddoedd ariannol canlynol: 2003/2004; 2004/2005; 2005/2006; 2006/2007; 2007/2008; 2008/2009; 2009/2010. (WAQ55168)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Mae gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru ar brosiect deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn y blynyddoedd ariannol y gwnaethpwyd cais amdanynt fel a ganlyn: 2003/2004:   £16,493,391.18

2004/2005:   £10,571,163.39

2005/2006:   £14,326,784.96

2006/2007:   £20,228,515.13

2007/2008:   £15,226,324.40

2008/2009:     £5,861,000.00

*2009/2010:    £1,129,000.00

* hyd yma

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r cyfraddau gadael yn gynnar ar gyfer cyrsiau gradd nyrsio ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad am y pum mlynedd diwethaf. (WAQ55156)

Rhoddwyd ateb ar 27 Tachwedd 2009

12.9% oedd y gyfradd gadael cyn gorffen ar gyfer y flwyddyn academaidd 2008/09 ar draws pob cwrs nyrsio rhag-gofrestru yng Nghymru .  

Y cyfraddau gadael cyn gorffen am y 5 mlynedd ddiwethaf yw:

2004/05: 16.4%

2005/06: 15.1%

2006/07: 14.5%

2007/08: 14.7%

2008/09: 12.9%

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfran o boblogaeth Cymru sydd wedi cael cynnig y brechlyn ffliw moch a pha gyfran sydd wedi derbyn y brechlyn. (WAQ55157)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Ar gam cychwynnol y rhaglen frechu, caiff y brechlyn ei gynnig i tua 750,000 o bobl (25% o'r boblogaeth) fel mater o flaenoriaeth.  Mae trefniadau ar waith i gofnodi nifer y bobl sy'n cael brechiad ym mhob ardal Bwrdd Iechyd, a disgwylir yr adroddiadau cyntaf erbyn diwedd y mis.

Nid oes rheswm gennyf dros gredu y bydd unigolion yn llai parod i gael eu diogelu yn erbyn y rhywogaeth hon o'r firws ffliw nag yn erbyn ffliw tymhorol. Rydym yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a thrwy'r cyfryngau i sicrhau bod gan bobl y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad hyddysg.  

Byddaf yn darparu'r wybodaeth am nifer y bobl sy'n cael brechiad unwaith y bydd ar gael

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau yn sgil profedigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. (WAQ55158)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Mae'r Bwrdd Gweithredu Gofal Lliniarol wrthi'n cynnal ymarfer cwmpasu i asesu'r gwasanaethau profedigaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc.  Bydd yr adroddiad terfynol yn gwneud argymhellion gyda'r nod o alluogi pob plentyn neu berson ifanc yr effeithir arno i gael cymorth priodol. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf.

David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar gael i hyfforddi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol eraill mewn gofal lliniarol. (WAQ55159)

Rhoddwyd ateb ar 27 Tachwedd 2009

Caiff hyfforddiant mewn gofal lliniarol i feddygon teulu a staff gofal sylfaenol eraill ei nodi drwy arfarniad rheolaidd a datblygiad proffesiynol parhaus; mae hyn yn cynnwys y meddygon iau hynny sy'n cael hyfforddiant i fod yn feddygon teulu fel rhan o'u gofynion cwricwlwm.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ba grwpiau demograffig mewn cymdeithas sy’n fwyaf tebygol o wrthod y cynnig i gael y brechlyn ffliw moch, a pha gamau y mae’r Gweinidog yn bwriadu’u cymryd i gynyddu’r nifer sy’n ei gael o fewn y grwpiau hynny. (WAQ55160)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Ar gam cychwynnol y rhaglen frechu, caiff y brechlyn ei gynnig i tua 750,000 o bobl (25% o'r boblogaeth) fel mater o flaenoriaeth.  Mae trefniadau ar waith i gofnodi nifer y bobl sy'n cael brechiad ym mhob ardal Bwrdd Iechyd, a disgwylir yr adroddiadau cyntaf erbyn diwedd y mis.

Nid oes rheswm gennyf dros gredu y bydd unigolion yn llai parod i gael eu diogelu yn erbyn y rhywogaeth hon o'r firws ffliw nag yn erbyn ffliw tymhorol. Rydym yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a thrwy'r cyfryngau i sicrhau bod gan bobl y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad hyddysg.  

Byddaf yn darparu'r wybodaeth am nifer y bobl sy'n cael brechiad unwaith y bydd ar gael

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog yn comisiynu gwasanaethau i ddarparu mynediad cyflym i bobl sydd â chyflyrau niwrolegol pan mae’u cyflwr yn datblygu’n gyflym. (WAQ55161)

Rhoddwyd ateb ar 27 Tachwedd 2009

Y Byrddau Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gynllunio, sicrhau a darparu gwasanaethau priodol i ddiwallu anghenion cleifion â chyflyrau niwrolegol. Cyfrifoldeb y clinigwyr sy'n eu trin yw'r broses o reoli clinigol ac atgyfeirio pob claf unigol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i ysgogi a chefnogi ymdrechion ymchwil i Glefyd Niwronau Motor. (WAQ55162)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Mae WORD yn buddsoddi yn Rhwydwaith Ymchwil Demensia a Chlefydau Niwroddirywiol Cymru Gyfan (NEURODEM). Mae gan y Rhwydwaith bortffolio eang o brosiectau ymchwil, ond nid yw ymchwil i Glefyd Niwronau Motor yn rhan o'i bortffolio o brosiectau ymchwil ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae'n ymwneud a gweithgareddau parhaus i ysgogi ac annog ymchwilwyr yng Nghymru i ymchwilio i'r cyflwr hwn.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sy’n cael ei wario’n benodol ar ofal seicolegol i gleifion sydd â chyflwr niwrolegol. (WAQ55163)

Rhoddwyd ateb ar 27 Tachwedd 2009

Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu'r wybodaeth hon.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian gaiff ei ddefnyddio i wella’r gefnogaeth i’r rheini sy’n dioddef o Glefyd Niwronau Motor ac i dargedu gofal lliniarol ar gyfer y rheini sydd â chyflwr niwrolegol dwys. (WAQ55164)

Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009

Mae'r gwaith o gynllunio ac ariannu gwasanaethau iechyd i gefnogi pobl â chlefyd niwronau motor, gan gynnwys gofal lliniarol, yn fater i Fyrddau Iechyd Lleol. Fodd bynnag, rwyf wedi cydnabod bod angen gwella mynediad at ofal lliniarol ac ansawdd y gofal hwnnw i bob claf sydd ei angen, gan gynnwys y rhai â chyflyrau niwrolegol fel clefyd niwronau motor.  Rwyf wedi cynyddu'r cyllid rheolaidd canolog sydd ar gael ar gyfer gofal lliniarol i £4 miliwn yn 2009-10.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sy’n cael ei wario’n benodol ar dechnolegau newydd er mwyn cael dealltwriaeth well o’r Clefyd Niwronau Motor yng Nghymru. (WAQ55165)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw arian penodol ar gyfer technolegau newydd yn y maes hwn.  Ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad ar 16 Hydref i egluro fy mod wedi cael adroddiadau gan Grwpiau Cynllunio Gweithredu Niwrowyddoniaeth Gogledd Cymru a Chanolbarth a De Cymru a chan nodi'r broses i'w gweithredu. Mae'r ddau adroddiad yn gwneud argymhellion yn ymwneud â gwasanaethau i gleifion â chyflyrau niwrolegol, yn cynnwys Clefyd Niwronau Motor.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella’r gefnogaeth y tu allan i oriau ar gyfer cleifion Clefyd Niwronau Motor a’u teuluoedd. (WAQ55166)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Byddai angen i gleifion â Chlefyd Niwronau Motor gael cymorth y tu allan i oriau drwy'r gwasanaethau y tu allan i oriau arferol. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i wella mynediad i wasanaethau y tu allan i oriau.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau cynllunio ar gyfer gweithredu’r grant cyfalaf ar gyfer ynni adnewyddadwy dan Glastir. (WAQ55169)

Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009

Mae cynllun grant cyfalaf y Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol (ACReS) yn cael ei ddatblygu fel rhan o Glastir. Mae manylion y cynllun grant cyfalaf yn cael eu datblygu o hyd ond rhagwelir y bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am y cynllun hwn pan fydd ganddynt gontract Glastir.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A fydd cynllun grant cyfalaf Glastir ar gyfer ynni adnewyddadwy yn atal ffermwyr rhag elwa o Dariffau bwydo-i-mewn. (WAQ55170)

Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009

Mae'r cynllun grant adnewyddadwy arfaethedig yn Glastir yn cael ei gynllunio'n bennaf at ddiben y defnydd o ynni ar ffermydd ac i sicrhau arbedion effeithlonrwydd.  Fodd bynnag, rydym mewn trafodaethau parhaus gyda'r CE ynghylch p'un a ellid gwneud newidiadau i reoliadau neu'r ffordd y'u dehonglir er mwyn i unrhyw ynni dros ben gael ei fwydo i mewn i'r grid cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn trafod y rheolau gweithredol o ran bod yn gymwys am Dariffau Bwydo i Mewn gyda swyddogion o'r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd.

Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A yw Comisiwn y Cynulliad wedi ymuno â’r Ymgyrch 10:10. (WAQ55167)

Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009

Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy, Lorraine Barrett AC: Ydyw. Nod ymgyrch 10:10 yw cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion i leihau eu hallyriadau 10% yn 2010. I sefydliadau, mae’r cynllun yn gofyn am leihad o 3% o leiaf mewn allyriadau carbon mewn un flwyddyn.

Un o aelodau o Dîm Gwyrdd y Cynulliad a soniodd yn wreiddiol am gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae’r tîm yn cynnwys unigolion o bob rhan o ystâd y Cynulliad (staff y Cynulliad, staff cymorth Aelodau’r Cynulliad, staff Llywodraeth Cymru a chontractwyr) sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod mentrau a syniadau 'gwyrdd’ ynghylch sut y gallwn wella ein perfformiad amgylcheddol.

Cyn ymuno â’r ymgyrch, gwnaethom sicrhau bod y Cynulliad yn bodloni gofynion y cynllun o ran lleihau allyriadau ac rydym yn falch i ddatgan ein bod wedi lleihau ein defnydd o ynni 12% ers y llynedd. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y gwelliannau i’r graddfeydd Tystysgrif Ynni ym mhob un o’n hadeiladau.

Drwy ein hymrwymiad i’n rhaglen welliannau barhaus o ganlyniad i System Reoli Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd, rydym yn obeithiol y gallwn wneud lleihad tebyg, os nad gwell, yn 2010 ac ar ôl hynny.

Mae’r cynllun wedi ei hyrwyddo ar y fewnrwyd er mwyn annog unigolion i ymuno ac rydym wrthi’n trefnu cael tynnu ein llun gyda 10:10 er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch yng Nghymru.