Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Chwefror 2012 i’w hateb ar 27 Chwefror 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn union pa ymgynghoriad a gynhaliwyd ag athrawon, penaethiaid a gweithwyr addysg proffesiynol cyn gweithredu’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn ym mis Medi 2011. (WAQ59780)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn union pa ymgynghoriad a gynhaliwyd ag athrawon, penaethiaid a gweithwyr addysg proffesiynol ynghylch rhywbeth i ddisodli’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn. (WAQ59781)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pryd oedd y tro cyntaf i’r Gweinidog dderbyn sylwadau am “broblemau sylweddol” gyda’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn gan athrawon a phenaethiaid. (WAQ59782)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio diwallu anghenion unigolion sydd ag atacsia. (WAQ59779)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa mor hygyrch yw rhaglenni magu plant i deuluoedd yng Nghymru wledig. (WAQ59783)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr eiriolaeth sydd ar gael i blant. (WAQ59784)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr eiriolaeth sydd ar gael i bobl hyn. (WAQ59785)