27/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 27 Hydref 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 27 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gostyngiad arfaethedig o £90 miliwn yng nghyllideb ddrafft 2010/2011 mewn cyllid ar gyfer 'Cynyddu'r cyflenwad a’r dewis o dai’ (a labelir yn anghywir fel 'mynd i’r afael â digartrefedd’). (WAQ55023)

Rhoddwyd ateb ar 10 Tachwedd 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Rwy’n ysgrifennu i ateb Cwestiwn Ysgrifenedig a ofynnwyd gennych yn y Cynulliad yn ddiweddar, sef "pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gostyngiad arfaethedig o £90 miliwn yng nghyllideb ddrafft 2010/2011 mewn cyllid ar gyfer cynyddu cyflenwad a dewis tai” (a labelwyd yn anghywir fel "mynd i’r afael â digartrefedd”)?

Rwyf wedi asesu effaith yr amrywiant cyfalaf o £90 miliwn rhwng 2009/10 a 2010/11.

Mae £40 miliwn yn ymwneud â dwyn ymlaen Grant Tai Cymdeithasol o 2010/11 a gwariant gwirioneddol o £28 miliwn yn 2009/10. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu’r diwydiant adeiladu a chyflenwi drwy roi hwb i’r gwaith cyflenwi a datblygu, ac mae wedi caniatáu i raglenni tai gael eu cyflymu er mwyn cyrraedd targed Cymru’n Un.

Mae amrywiant pellach o £15 miliwn yn ymwneud ag Ymrwymiad Cymru’n Un i ddatblygu cartrefi nyrsio di-elw. Ar ôl archwilio’r cynnig, daeth i’r amlwg fod cyfyngu ar ddetholiad y cynigwyr i’r sector Di-elw yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol, ac ni ellir ei ganiatáu yn ei fformat gwreiddiol. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn archwilio ystod o fodelau i ddod o hyd i’r opsiynau gorau ar gyfer gweithredu agenda’r Ymrwymiad hwn yn Cymru’n Un.

Mae gweddill yr amrywiant, sef £7 miliwn, yn ganlyniadol ac yn ymwneud â Chynlluniau Gofal Ychwanegol yn 2009/10 yn unig, ac felly nid yw’n cael ei adlewyrchu yng nghyllidebau 2010/11.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella mynediad pobl anabl i gerbydau allgymorth sy'n darparu gwasanaethau’r GIG. (WAQ55020)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Disgwyliaf fod gan bob un o sefydliadau'r GIG sydd â chyfrifoldeb am ddarparu unrhyw fath o wasanaethau cludo cleifion y GIG drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod cleifion ag anableddau yn cael cyfle cyfartal i ddefnyddio'r gwasanaethau a ddarperir.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfran o gerbydau allgymorth sy’n darparu gwasanaethau’r GIG sydd â chyfleusterau ar gyfer darparu mynediad i bobl anabl. (WAQ55021)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella mynediad at arbenigwyr clinigol ar gyfer cleifion â chlefydau prin. (WAQ55024)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau trin a diagnostig ar gyfer cleifion â chlefydau prin. (WAQ55025)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch comisiynu adolygiad o wasanaethau ar gyfer cleifion â chlefydau prin. (WAQ55026)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Ym mis Mehefin cytunwyd ar Argymhelliad Cyngor yr Undeb Europeaidd (UE) ar glefydau prin a awgrymodd lunio 'Cynllun Cenedlaethol' ar gyfer clefydau prin.  Rwyf wedi nodi Argymhelliad Cyngor yr UE ac rwyf hefyd yn ymwybodol bod amryw fathau o'r cyflyrau hyn yn ôl eu natur a gallai fod o fantais meddwl mewn cyd-destun ehangach na Chymru yn unig.  Mae fy swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr Rare Disease UK, sy'n ei disgrifio'i hun yn gynghrair genedlaethol ar gyfer pobl â chlefydau prin a phawb sy'n eu cefnogi, ac maent hefyd yn trafod â'r Adran Iechyd ynghylch y ffordd orau o ymateb i Argymhelliad y Cyngor.  

Byddaf yn ystyried canlyniadau'r gwaith hwnnw yn ofalus, yn seiliedig ar ddealltwriaeth o anghenion cleifion ac ymatebion posibl.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion i wella gwasanaethau adloniant a ffôn ar gyfer cleifion yn ysbytai’r GIG. (WAQ55027)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54736, a atebais ar 3 Medi 2009.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sy’n cael ei wario ar wasanaethau adloniant a ffôn ar gyfer cleifion yn ysbytai’r GIG (WAQ55028)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi’u cynnal â Hospedia ynghylch lleihau costau galwadau ar gyfer cleifion ysbytai. (WAQ55029)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Nid wyf wedi trafod â Hospedia yn bersonol, ond mae fy swyddogion wedi gwneud fel rhan o'r adolygiad o gostau taliadau galwadau ffôn ysbytai. Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb i WAQ54774, a atebais ar 16 Medi 2009.

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ54987, faint o blant ysgol sy’n ymgymryd ag o leiaf bum awr o weithgarwch corfforol bob wythnos. (WAQ55022)

Rhoddwyd ateb ar 29 Hydref 2009

Dywed Cyngor Chwaraeon Cymru i'w Arolwg o Bobl Ifanc Egnïol (2006) ddangos bod 35% o blant ysgol uwchradd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol am 60 munud neu fwy o leiaf bum diwrnod yr wythnos.  

Nodir bod plant oedran ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol  na disgyblion hŷn -  dangosodd arolwg cyfatebol 2006 fod 44% yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol am 60 munud neu fwy o leiaf bum diwrnod yr wythnos.  

Disgwylir i ganlyniadau arolwg 2009 y Cyngor Chwaraeon fod ar gael ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.