28/03/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Mawrth 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Mawrth 2008

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Mawrth 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Irene James (Islwyn): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu gwneud unrhyw welliannau Priffyrdd ar y cefnffyrdd sy’n rhedeg drwy Etholaeth Islwyn (A467, A472) yn ystod oes Tymor y Cynulliad hwn? (WAQ51541)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Rhennir y cyfrifoldeb am y rhwydwaith priffyrdd yng Nghymru rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynnal a chadw’r cefnffyrdd a’r traffyrdd, a’r awdurdodau lleol sy’n cynnal a chadw’r rhwydwaith ffyrdd lleol. Nid yw’r A467 na’r A472 yn gefnffyrdd ac felly cyfrifoldeb yr awdurdodau priffyrdd lleol ydynt.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ddarpariaeth Band Eang yn ardal Felinfach Brycheiniog a Sir Faesyfed? (WAQ51542)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rwy’n ymrwymedig i chwilio am ffyrdd o weithio gyda’r diwydiant i fynd i’r afael ag ardaloedd heb fand eang, gan gynnwys ardal Felin-fach. Bydd hyn wrth gwrs yn dibynnu ar ystyriaethau masnachol, technegol ac ariannol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gweithio gyda Chyngor Cymru i’r Deillion i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru? (WAQ51536)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hanes da o ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg ac mae wedi ariannu Menter Gofal Llygaid Cymru, y bwriedir iddi ddiogelu golwg drwy ganfod clefyd y llygad yn gynnar a rhoi help i’r rheini sydd ond yn gweld ychydig ac nad yw eu golwg yn debygol o wella. Fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy weithio’n agos gyda’n partneriaid yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys Cyngor Cymru i’r Deillion.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pwysigrwydd gwasanaethau asesu TGCh arbenigol ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru? (WAQ51537)

Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu cefnogi gwasanaethau asesu TGCh sydd eisoes ar gael ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg ar ôl mis Mawrth 2008? (WAQ51538)

Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu cefnogi hyfforddi rhagor o aseswyr TGCh i helpu pobl sydd â nam ar eu golwg ar ôl mis Mawrth 2008? (WAQ51539)

Brian Gibbons: Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried gwasanaethau asesu TGCh arbenigol wrth benderfynu ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl â nam ar eu golwg.

Ym mis Mai 2003, ystyriodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gais am arian gan Gyngor Cymru i’r Deillion i ddatblygu gwasanaeth asesu TGCh ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Yn dilyn trafodaethau pellach, ym mis Tachwedd 2005 cytunodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu cynllun peilot deunaw mis i ymchwilio i’r cyfleoedd posibl sydd ar gael o wasanaethau asesu TGCh arbenigol.

Ers hynny ehangwyd y prosiect peilot ddwywaith, yn gyntaf ym mis Ebrill 2007 ac eto ym mis Mawrth 2008. Diben yr estyniadau hyn oedd galluogi Cyngor Cymru i’r Deillion i adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod cam cychwynnol y cynllun peilot, i werthuso canlyniadau’r prosiect, ac i gael achrediad ar gyfer yr aseswyr hyfforddedig.

Ystyrir cais pellach ar hyn o bryd gan fy swyddogion i ariannu’r gwaith o gydgysylltu, rhoi’r caledwedd a’r feddalwedd gyfrifiadurol perthnasol diweddaraf i aseswyr, rhoi asesiadau am ddim i unigolion heb gymorth, ac ariannu amser aseswyr i osod offer a meddalwedd, a rhoi canllawiau sylfaenol ar sut i’w defnyddio.