28/06/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Mehefin 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Mehefin 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiswyddiadau gorfodol ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd? (WAQ50088) Y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (Carwyn Jones): Mater i Brifysgol Caerdydd yn unig yw hwn. Mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol sydd â chyfrifoldeb am eu materion gweinyddol eu hunain. Mae materion staffio yn amlwg iawn yn fater i’r prifysgolion fel cyflogwyr, ac nid yw hwn yn fater y mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw awdurdodaeth drosto. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa werthusiad a wnaed o lwyddiant cynllun e-Goleg Prifysgol Morgannwg ac a gyhoeddir unrhyw werthusiad? (WAQ50099) Carwyn Jones: Nododd Cam 2 yr e-Goleg iddo ragori ar nifer cymeradwy y buddiolwyr a ragfynegwyd sef 870, drwy gyflawni 1440 o fuddiolwyr. Cyflawnodd tua 324 o unigolion gymhwyster lefel uwch, a chyflawnodd 614 o unigolion pellach gredyd tuag at gymhwyster. Cynhaliwyd gwerthusiad o’r cynllun gan noddwyr y prosiect. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru a roddwyd i gynllun e-Goleg Prifysgol Morgannwg? (WAQ50101) Carwyn Jones: Cefnogwyd cynllun e-Goleg Prifysgol Morgannwg gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop o dan Raglen Cronfeydd Strwythurol Gorllewin Cymru a’r Cymoedd Amcan 1 drwy ddau gyfnod. Hyd yma mae’r prosiect wedi cael £5,319,800 o grant ESF. Rhoddwyd arian cyfatebol gan y Brifysgol a’i phartneriaid.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i fonitro cynnydd Byrddau Iechyd Lleol o ran ffurfweddu gwasanaethau ar gyfer osteoporosis i ddiwallu’r safonau a amlinellir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn? (WAQ50106) Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gymhelliannau a chefnogaeth a ddarperir i Fyrddau Iechyd Lleol i helpu i roi sylw i unrhyw ddiffygion mewn gwasanaethau ar gyfer osteoporosis a ganfyddir wrth archwilio gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn? (WAQ50107) Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Cyfrifoldeb y BILlau yw comisiynu gwasanaethau ar gyfer osteoporosis. Mae’r Cyfarwyddebau Datblygu a Chomisiynu Gwasanaethau ar gyfer Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Cronig, a lansiwyd ym mis Chwefror 2007, yn mynd i’r afael ag atal, rheoli a thrin y cyflwr hwn ar ran comisiynwyr a darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’r cyfarwyddebau hyn wedi nodi nifer o gamau gweithredu allweddol er mwyn helpu i atal a gwella’r broses o drin cyflyrau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys osteoporosis. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro a gwerthuso’r broses o weithredu’r Cyfarwyddebau ledled Cymru. Yn ogystal, bydd canfyddiadau Archwiliad Cenedlaethol ar Gwympiadau ac Iechyd Esgyrn mewn Pobl Hŷn Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn darparu ffynhonnell arall o wybodaeth er mwyn monitro cynnydd a meincnodi yn y maes hwn.