Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2009 i’w hateb ar 30 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54411)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm cost sefydlu, staffio a chynnal a chadw swyddfeydd tramor Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn ers eu sefydlu, a fesul gwlad. (WAQ54410)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54412)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gost hawliadau yn sgil esgeuluster meddygol i’r GIG yng Nghymru am bob blwyddyn ariannol er 1999. (WAQ54406)
Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw amcangyfrifon a wnaethpwyd ynghylch cost hawliadau yn sgil esgeuluster meddygol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac i’r dyfodol. (WAQ54407)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54416)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Treftadaeth sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54415)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm. (WAQ54408)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Materion Gwledig sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54413)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau nad yw ffermwyr yn symud gwartheg sydd dan gyfyngiadau TB, i osgoi ailadrodd yr erlyniadau llwyddiannus a wnaethpwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Penfro mewn cysylltiad â’r mater hwn. (WAQ54420)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud o’r hyn sy’n cymell camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. (WAQ54409)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gyllideb y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ54414)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddosbarthiadau darllen gwefusau am ddim yng Nghymru i’r rheini sydd wedi colli eu clyw. (WAQ54417)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch pa mor ddigonol yw darpariaeth dosbarthiadau darllen gwefusau am ddim yng Nghymru. (WAQ54418)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch sut y dylai dosbarthiadau darllen gwefusau gael eu cyllido i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i’r rheini sydd wedi colli eu clyw. (WAQ54419)