30/10/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 30 Hydref 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 30 Hydref 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i’r gwasanaeth yng Nghyffordd Twnnel Hafren? (WAQ52643)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae pob un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru drwy Gyffordd Twnnel Hafren, sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan fasnachfraint Cymru â’r Ffiniau, yn aros yng Ngorsaf Twnnel Hafren. Gweithredir y rhan fwyaf o wasanaethau drwy Gyffordd Twnnel Hafren gan First Great Western ond nid yw pob un ohonynt yn aros yno. Mae’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â gwasanaethau eraill o dan fasnachfreintiau eraill, yn gyfrifoldeb i’r Adran Drafnidiaeth. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud cynrychioliadau cryf i’r Adran Drafnidiaeth a’r cwmnïau gweithredu trenau y dylai eu gwasanaethau aros fwy yn yr orsaf hon.

Daeth Strategaeth ymgynghorol ddrafft Defnyddio Llwybrau Cymru Network Rail i’r casgliad ei bod yn bosibl i wasanaethau First Great Western aros yno.

Mae prosiect presennol Adnewyddu Arwyddion Ardal Casnewydd Network Rail yn cynnwys gwelliannau yng Nghyffordd Twnnel Hafren, yn cynnwys ailddefnyddio arwyneb platfform nas defnyddir. Mae prosiect cysylltiedig i wella cyfleusterau teithwyr, yr wyf yn ei gefnogi.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cerbydau yng Nghymru ac am unrhyw gynlluniau i newid cerbydau i reilffyrdd gwahanol? (WAQ52644)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae gan Trenau Arriva Cymru (ATW) 125 o unedau diesel lluosog ar gael ar gyfer gweithrediadau. Mae hyn yn cynnwys unedau ychwanegol wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fodloni’r galw. Caiff trên ychwanegol, sy’n cynnwys locomotifau a cherbydau, ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth cyflym o’r gogledd i’r de a fydd yn dechrau ym mis Rhagfyr 2008.

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gydag ATW i asesu’r galw a thwf teithwyr a’r angen yn y dyfodol ar gyfer cerbydau ychwanegol.

Mae rhywfaint o alw tymhorol, yn arbennig rhwng ardaloedd trefol a thwristiaeth, a chaiff rhai o’r cerbydau ychwanegol a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru problemau gorlenwi ar drenau’r Cymoedd yn ystod oriau brig eu hadleoli i lwybrau twristiaeth prysur yn yr haf.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad o gyfleusterau cyhoeddus ar hyd cefnffyrdd? (WAQ52659)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Cynhelir adolygiad o’r cyfleusterau ar hyd pob cefnffordd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu at ddarparu cyfleusterau allweddol penodol yn y canolbarth fel mesur dros dro.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu toiledau cyhoeddus? (WAQ52663)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi grant o hyd at £17,500 i bob awdurdod lleol i ad-dalu unrhyw daliadau hyd at £500 fesul busnes a wnânt i ganiatáu mynediad am ddim i’r cyhoedd i’w toiledau. Mae hyn yn ddigon o arian i ddarparu mynediad i’r cyhoedd i o leiaf 35 o gyfleusterau fesul awdurdod lleol.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu toiledau cyhoeddus, ond bydd hyn yn gymhelliant i awdurdodau lleol a busnesau weithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfleusterau lle bo’u hangen. Un o amodau’r grant yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod yn fodlon bod cyfleusterau a ddarperir gan dderbynwyr grantiau yn cyrraedd safonau derbyniol o ran diogelwch, hylendid, hygyrchedd i bobl anabl a darpariaeth i’r ddau ryw.

David Melding (Canol De Cymru): Faint o gyrff statudol yng Nghymru sy’n cyflawni eu gofyniad i gyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb i Bobl Anabl mewn fformat hygyrch fel sy’n ofynnol dan Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl 2006, ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad? (WAQ52657)

Brian Gibbons: Cyflwynodd Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Dyletswyddau Statudol) (Awdurdodau Cyhoeddus) 2005 ddyletswydd ar bob Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidogion yng Nghymru a’r Alban i gyhoeddi adroddiad bob tair blynedd am weithredu’r ddyletswydd i sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl. Disgwylir i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi ar 1af Rhagfyr 2008, a bwriadaf wneud datganiad ysgrifenedig llawn ar yr adeg honno.

Bwriedir i’r ddyletswydd i sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl wella cyfleoedd bywyd pobl anabl drwy roi dyletswydd gyfreithiol ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus i hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Mae’r wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn yn golygu ein bod wedi casglu gwybodaeth o bob rhan o’r sector cyhoeddus, gan nodi cynnydd, bylchau a materion, a byddwn yn rhannu’r wybodaeth yn eang er mwyn helpu i wneud cynnydd wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Er mwyn casglu’r wybodaeth berthnasol, datblygwyd arolwg gan Swyddfa’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol mewn cydweithrediad â’r Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd y cwestiynau’n adlewyrchu’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a nodwyd yn y Ddyletswydd i Sicrhau Cydraddoldeb i Bobl Anabl. Y nod oedd casglu tystiolaeth i asesu i ba raddau y mae awdurdodau cyhoeddus wedi dehongli a gweithredu ar y gofynion hyn.

Gwahoddwyd 110 o awdurdodau cyhoeddus i gymryd rhan yn yr arolwg gwirfoddol a chafwyd 86 o ymatebion. Y gyfradd ymateb gyffredinol oedd 78%. O’r rheini a ymatebodd, mae pob un wedi llunio Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl, gydag 81% wedi llunio adroddiad blynyddol hefyd ar weithredu eu Cynlluniau Cydraddoldeb i Bobl Anabl a’u cynlluniau gweithredu.