30/10/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 26/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Hydref 2015 i'w hateb ar 30 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ddadansoddiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r hyn sydd wedi achosi'r cynnydd yn nifer y damweiniau ar yr A55 dros y tair blynedd diwethaf? (WAQ69338)

Derbyniwyd ateb ar 30 Hydref 2015

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): Comparison of the 2010-2012 and 2011-2013 collision rates shows an improvement in the collision rates on the A55. We are in the process of undertaking this comparison for 2012-2014.

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro gweithrediad y nodyn cyngor caffael ar arferion cyflogaeth prosiectau a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 11 Mawrth 2015? (WAQ69337)

Derbyniwyd ateb ar 3 Tachwedd 2015

Gweinidog Cyllid a Busnes y Cynulliad (Jane Hutt): Principle nine of the Wales Procurement Policy Statement requires the Welsh public sector to deploy procurement policy in all relevant contracts and I will monitor adoption of our policies through the introduction of an annual return. In addition I regularly meet with social partners to understand first hand the impact of policies on the ground.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofiad brodyr a chwiorydd yn y system gofal, gan nodi, ar gyfer y 3 blynedd flaenorol:

i) faint o blant sy'n derbyn gofal sy'n cael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a chwiorydd pan mewn gofal;

ii) faint o blant sy'n derbyn gofal sydd wedi cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â brodyr a chwiorydd sydd wedi'u gwahanu; a

iii) faint o ofalwyr maeth a gafodd hyfforddiant neu gefnogaeth arall i ddarparu lleoliadau gofal ar gyfer brodyr a chwiorydd? (WAQ69336)

Derbyniwyd ateb ar 3 Tachwedd 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford):

This information is not collected or held centrally.

Where possible, local authorities will try to keep siblings together when in care, if this is in the best interests of each child. The arrangements for contact between a child in care and any siblings will be set out in the child's care and support plan and monitored as part of the statutory review process. 

It is for the local authority or independent fostering agency to determine the training needs of foster carers, including training about fostering siblings. 

While this sets out the current position, I am taking these matters up as part of a wider review of our approach to looked after children and will write to the Member with further details, when they are available.