Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 1 Hydref 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Medi 2008
Dadl Fer
NDM4014 William Graham (Dwyrain De Cymru): Dyfodol y gwasanaeth carchardai yng NghymruNDM4015 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Dangos ei hymrwymiad i fferylliaeth gymunedol drwy gyflwyno gwasanaethau gwell y contract fferylliaeth;
b) Sicrhau nad yw ad-drefnu’r GIG yn rhwystro comisiynu rhagor o wasanaethau fferylliaeth gymunedol; a
c) Darparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau wedi’u cyfuno.
NDM4016 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad i Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Gorffennaf 2008.
Noder: Ymateb y Gweinidog dros Faterion Gwledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2008.
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2008
NNDM3974 Janet Ryder (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50: Yn cytuno y caiff Janet Ryder gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 28 Medi 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol. Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Medi 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4015
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt 1 newydd, ac ail-rifo’n briodol:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
a) swyddogaeth fferyllwyr cymunedol o ran darparu gwasanaethau pan fydd eu hangen ar gleifion; a
b) beirniadaeth y gwasanaeth ocsigen yn y cartref ers cyflwyno’r contract newydd.
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ar ddiwedd is-bwynt b) rhoi
‘a sicrhau y cynrychiolir fferylliaeth gymunedol ar y lefel uchel briodol mewn unrhyw strwythur GIG newydd’
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio posibilrwydd diwygio rheoliadau i sicrhau nad oes cystadleuaeth niweidiol rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu ar gyfer gweinyddu presgripsiynau’r GIG mewn ardaloedd gwledig.
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau wedi’u cyfuno. TYNNWYD YN ÔL