01/10/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 1 Hydref 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Medi 2008

Dadl Fer

NDM4014 William Graham (Dwyrain De Cymru): Dyfodol y gwasanaeth carchardai yng Nghymru

NDM4015 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Dangos ei hymrwymiad i fferylliaeth gymunedol drwy gyflwyno gwasanaethau gwell y contract fferylliaeth;

b) Sicrhau nad yw ad-drefnu’r GIG yn rhwystro comisiynu rhagor o wasanaethau fferylliaeth gymunedol; a

c) Darparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau wedi’u cyfuno.

NDM4016 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:

Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei ymchwiliad i Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Gorffennaf 2008.

Noder: Ymateb y Gweinidog dros Faterion Gwledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2008.

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2008

NNDM3974 Janet Ryder (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50: Yn cytuno y caiff Janet Ryder gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 28 Medi 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol. Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/business-legislative-competence-orders-lco-043.htm

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Medi 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4015

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt 1 newydd, ac ail-rifo’n briodol:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:

a) swyddogaeth fferyllwyr cymunedol o ran darparu gwasanaethau pan fydd eu hangen ar gleifion; a

b) beirniadaeth y gwasanaeth ocsigen yn y cartref ers cyflwyno’r contract newydd.

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ar ddiwedd is-bwynt b) rhoi

‘a sicrhau y cynrychiolir fferylliaeth gymunedol ar y lefel uchel briodol mewn unrhyw strwythur GIG newydd’

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio posibilrwydd diwygio rheoliadau i sicrhau nad oes cystadleuaeth niweidiol rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu ar gyfer gweinyddu presgripsiynau’r GIG mewn ardaloedd gwledig.

4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rheoliadau wedi’u cyfuno. TYNNWYD YN ÔL