02/05/2012 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 2 Mai 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2012

Dadl Fer

NDM4968

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru

Wrth i’r boblogaeth heneiddio ac wrth i bobl ddynesu at ddiwedd eu hoes gydag anghenion gofal mwy cymhleth drwy’r amser, nodir bod hwyluso mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n gost effeithiol ac o ansawdd uchel yn mynd i ddod yn fwyfwy pwysig.

NDM4969

Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor fydd craffu ar waith y Prif Weinidog am unrhyw fater sy’n berthnasol i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

NDM4970

Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Paul Davies (Ceidwadwyr), Mark Drakeford (Llafur), Elin Jones (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr) ac Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

2. David Melding (Ceidwadwyr) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

NDM4971

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i iechyd y geg ymhlith plant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 25 Ebrill 2012.

NDM4972

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) y manteision i economi Cymru a fyddai’n dod yn sgîl rhewi’r dreth gyngor;

b) yr arian canlyniadol gwerth £38.9m gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyllido rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr;

c) y byddai cost rhewi’r dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol 2012-13 yn sylweddol is na’r £38.9m;

d) y manteision y gellid eu gwireddu gyda gweddill yr arian i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru

2. Yn galw am dryloywder, atebolrwydd ac effeithlonrwydd llwyr mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru.

NDM4973

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Ebrill 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4972

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, dileu ‘rhewi’r dreth gyngor’ a rhoi yn ei le ‘rhagor o wariant ar seilwaith’

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘yn ’ a rhoi yn ei le ‘Lloegr ac yn credu y dylid defnyddio’r arian hwn i ysgogi economi Cymru, gan gynnwys helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru.’

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘yn cynnwys gwneud gwell defnydd o wariant ar seilwaith’

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Ebrill 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4972

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ar ddiwedd pwynt 1b, ychwanegu:

“ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd a gyllidwyd ganddo.”

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod 16 Cyngor Ceidwadol yn Lloegr ac un yng Nghymru wedi methu  â dilyn polisi’r blaid Geidwadol wrth iddynt gynyddu’r dreth gyngor eleni.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf."

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu pwynt 1c ac 1d.

NDM4973

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Yn annog rheolaeth ariannol ofalus ar ran pob awdurdod lleol i’w galluogi i rewi’r dreth gyngor

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd.

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol er mwyn gallu rhewi’r dreth gyngor ledled Cymru.