Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 03 Rhagfyr 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Tachwedd 2008
NDM4073
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Elusen adeg y Nadolig - Tymor Ewyllys Da?
NDM4071
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn gresynu bwriad Llywodraeth Cynullid Cymru i gefnogi cyflwyno tâl am gofrestru eithriadau gwastraff bob tair blynedd;
2. Yn credu bod y ffioedd hyn yn gyfystyr â threth ychwanegol ar y diwydiant amaethyddol.
3. Yn nodi y bydd y newid hwn yn mynd yn groes i’r nodau a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ei hun i leihau biwrocratiaeth mewn amaethyddiaeth a’r egwyddor taw’r llygrydd ddylai dalu;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynullid Cymru i roi pwysau i gadw’r eithriadau gwastraff amaethyddol presennol yn rhad ac am ddim gydol oes y busnesau, os nad oes newid sylweddol yn eu gweithgarwch.
NDM4072
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod 3ydd Rhagfyr yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl;
2. Yn croesawu cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau; ac
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fabwysiadu egwyddorion y Confensiwn ym mhob agwedd o bolisïau’r llywodraeth.
Gellir gweld Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau trwy ymweld â'r ddolen ganlynol:
h
ttp://www.un.org/disabilities/default.asp?id=259Cynigion a gyflwynwyd ar 04 Tachwedd 2008
NDM4050
David Melding (Canol De Cymru)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff David Melding gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 27 Medi 2007 dan Reol Sefydlog Rhif 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol a’r Memorandwm Esboniadol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
h
ttp://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/business-legislative-competence-orders-lco-039.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4072
1. Carwyn Jones (Peny-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 3 ar ôl “polisi”, ychwanegu “ar ôl i’r confensiwn gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU”.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella mynediad y cyhoedd at hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anabledd.