04/04/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 28/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/04/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 4 Ebrill 2017

 

Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Ebrill 2017

 

NDM6291 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Mawrth 2017

 
NDM6280 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

 

NDM6281 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osdodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

 
NDM6282 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r buddsoddiad sylweddol o dros £217 miliwn yn Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru ers 2011.

2. Yn nodi'r manteision amrywiol y mae'r rhaglen yn eu darparu drwy gynnig cyngor a chymorth i dros 85,000 o aelwydydd. Mae 39,000 ohonynt yn gartrefi cynhesach ac yn manteisio ar arbedion sylweddol o ran  biliau ynni o ganlyniad i welliannau ynni am ddim yn y cartref.

3. Yn nodi'r effeithiau sylweddol ar iechyd o ganlyniad i'r buddsoddiad mewn Cartrefi Clyd, ochr yn ochr â'r manteision ehangach sy'n ymwneud â'r amgylchedd, yr economi a chyrhaeddiad addysgol.

4. Yn nodi'r blaenymrwymiad o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf, i wella llesiant pobl mewn hyd at 25,000 o aelwydydd ar incwm isel ledled Cymru.

5. Yn nodi y bydd y buddsoddiad hwn yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid Ewropeaidd yn y dyfodol, yn ogystal â chyllid a dderbynnir gan Rwymedigaeth Cwmnïau Ynni y Deyrnas Unedig.

TYNNWYD YN ÔL