05/03/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 5 Mawrth 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Chwefror 2008

Dadl Fer

NDM3884 Janice Gregory (Ogwr): Cynhwysiant cymdeithasol ac ymdrech ar y cyd - sialens adfywio.

NDM3885

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).

NDM3886

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Chris Franks (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).

NDM3887

Jeff Cuthbert (Caerffili)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad - Cymeradwywyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 29 Ionawr 2008, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2008.

2. Yn cymeradwyo Cod Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad - Cytunwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 29 Ionawr 2008, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2008.

NDM3889

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau brys ac ymarferol i roi sylw i’r argyfwng tai sydd ar dwf yng Nghymru, gan fanteisio’n llawn ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol/elusennol.

NDM3888

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth y cynnydd mewn gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi dros y 9 mlynedd diwethaf ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Ymgysylltu â gweithgynhyrchwyr, adwerthwyr a chyflenwyr i leihau faint o ddeunyddiau pecynnu diangen a fyddai’n mynd i safleoedd tirlenwi;

b) Cyfarwyddo awdurdodau lleol i gasglu gwastraff gweddilliol bob wythnos;

c) Cyfarwyddo awdurdodau lleol i wella eu rhaglenni ailgylchu drwy gynyddu nifer y casgliadau ar ochr y ffordd a nifer y banciau ailgylchu; a

d) Ystyried cyflwyno cymhelliannau i bobl leihau faint o wastraff eu cartref fydd yn mynd i safleoedd tirlenwi.

NDM3890

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid rhoi’r prif bwys ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wrth asesu sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

2. Yn cydnabod mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a Lloegr, bod mynediad at wasanaethau ar ochr arall y ffin o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yr angen am ddarpariaeth drawsffiniol yn well wrth ddatblygu strategaethau gwasanaethau cyhoeddus newydd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3889

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

Adolygu rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cynyddu’r buddsoddiad y gallant ei wneud mewn cymunedau.

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a). Gweithio’n agosach gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn defnyddio pwerau cyfredol i’r eithaf i sicrhau nifer fwy o gartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl leol

b). Sicrhau bod gan bob cyngor lleol arolwg a strategaeth anghenion tai cadarn er mwyn bod yn sylfaen i weithredu effeithiol i ddarparu tai fforddiadwy a mynd i’r afael â digartrefedd

c). Adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau a chefnogaeth ar gyfer pobl ddigartref ym mhob awdurdod lleol a darparu adnoddau ychwanegol lle bydd angen i ategu hyn

NDM3888

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y gall y dreth tirlenwi achosi dirwyon o hyd at £32 miliwn yn 2012/13 ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod ag arian ar gael er mwyn iddynt ddatblygu eu seilwaith ailgylchu i ddiwallu eu rhwymedigaethau lleihau gwastraff.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Chwefror 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3889

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu "argyfwng tai sydd ar dwf" a rhoi yn ei le "anghenion tai"

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

"ac yn cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hyd yma a'r rhaglen a amlinellwyd o dan Cymru'n Un".

Gellir gweld dogfen Cymru'n Un ar y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/about/strategy/strategypublications/strategypubs/onewales/?lang=cy

NDM3888

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny;

1. Yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau,   ailddefnyddio ac ailgylchu;

2. Yn croesawu’r ffaith bod Awdurdodau Lleol yn 06-07 wedi cyrraedd cyfradd ailgylchu a chompostio o 27.6%;

3. Yn croesawu uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru i bennu targedau i ailgylchu 70% erbyn 2025;

4. Yn croesawu ymrwymiad a buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cynulliad Cymru o £90m i gydweithio â CLlLC i sicrhau casgliadau wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd;

5. Yn croesawu’r newid yn agweddau’r cyhoedd tuag at becynnu a bagiau plastig a chynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i gydweithio â WRAP ac â diwydiant i leihau gwastraff yn sylweddol.

NDM3890

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

“, ac yn derbyn yr egwyddor y dylid mynd â dewis cleifion y GIG rhagddo.”

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn derbyn bod angen cryfhau’r broses o ymgynghori cyhoeddus ynghylch diwygio gwasanaethau cyhoeddus.     

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y dargyfeirio parhaus ym mholisi darparu gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i godi safon gwasanaethau cyhoeddus gyda dull gweithredu mwy arloesol, gan fanteisio’n llawn ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol/elusennol.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod digon o arian ar gael i ddarparu’r un lefel o wasanaeth i’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd llai poblog â’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd trefol.   

6. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i faterion trawsffiniol mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus.