Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 09 Chwefror 2010
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 02 Chwefror 2010
NDM4395
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi yn y Cyngor i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 103(1) o’r Ddeddf.
NDM4396
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2010-2011(Setliad Terfynol - yr Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd at Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ddydd Mawrth 02 Chwefror 2010.
NDM4397
Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 02 Chwefror 2010;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ar y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010 gerbron y Cynulliad ar 07 Rhagfyr 2009.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 04 Chwefror 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4396
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a Heddluoedd yng Nghymru i leihau effaith toriadau yn y gyllideb o ran plismona rheng flaen a niferoedd yr heddlu.