09/02/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 09 Chwefror 2010

Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 02 Chwefror 2010

NDM4395

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi yn y Cyngor i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 103(1) o’r Ddeddf.

NDM4396

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:

Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2010-2011(Setliad Terfynol - yr Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd at Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ddydd Mawrth 02 Chwefror 2010.

NDM4397

Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 02  Chwefror 2010;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2  ar y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010 gerbron y Cynulliad ar 07 Rhagfyr 2009.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 04 Chwefror 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4396

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a Heddluoedd yng Nghymru i leihau effaith toriadau yn y gyllideb o ran plismona rheng flaen a niferoedd yr heddlu.