09/04/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 9 Ebrill 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Ebrill 2008

Dadl Fer

NDM3901

Leanne Wood (Canol De Cymru): Rhandiroedd i Bawb

NDM3891

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103:

Yn caniatáu i Nerys Evans gyflwyno Mesur a gynigiwyd gan Aelod er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2008 dan Reol Sefydlog 23.102.

Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot trwy ymweld â’r hyperddolen ganlynol:

h

ttp://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/business-measures-ballot-26-06-07/business-measures-mb-31.htm

NDM3902

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cytuno y dylai Llywodraeth y DU roi diwedd ar ei rhaglen i gau swyddfeydd post yng Nghymru.

NDM3903

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn cydnabod pwysigrwydd band eang i unigolion ac i oroesiad a ffyniant busnesau yng Nghymru.

2) Yn cydnabod nifer y tai yng Nghymru na allant o hyd gael gafael ar gyswllt band eang.

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi arbenigwyr lleol sy’n gallu adnabod a datrys sialensiau darparu band eang ar draws gwahanol diroedd mewn cymunedau ledled Cymru.

4) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog a chefnogi cynghorau lleol i ddatblygu atebion wedi’u teilwra ar gyfer datrys mannau heb gysylltiad band eang yn eu hardal.

5) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn datblygu portffolio o atebion arloesol, i ddarparu’r seilwaith sy’n angenrheidiol i ddarparu data fforddiadwy lled band uchel, i bob cartref a busnes yng Nghymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 4 Ebrill 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3902

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl “rhoi diwedd ar” a rhoi yn ei le “gau unrhyw swyddfa bost yng Nghymru sydd â dyfodol hyfyw.”

2. Carl Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy)

Dileu popeth ar ôl “cytuno” a  rhoi yn ei le “y dylid galw ar Lywodraeth y DU i:

1. gydnabod y pryderon a achoswyd gan y rhaglen cau swyddfeydd post yng nghymunedau Cymru;

2. gwneud pob ymdrech i gadw swyddfeydd post hyfyw ar agor;

3. sicrhau mynediad amgen i wasanaethau mewn ardaloedd lle nodir y bydd swyddfeydd post yn cau”

NDM3903

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 ac yn ei le rhoi:

2) Yn cydnabod bod gartrefi a busnesau yng Nghymru na allant o hyd gael gafael ar gyswllt band eang;

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i gefnogi'r diwydiant i adnabod a datrys sialensau darparu band eang ar draws gwahanol diroedd yng Ngymru;

4) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog a chefnogi'r diwydiant a phartneriaid lleol i ddatblygu atebion wedi'u teilwra ar gyfer datrys mannau heb gysylltiad band eang yn eu hardal;

5) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog rheoleiddiwr y diwydiant cyfathrebu, Ofcom, i sicrhau bod yr amgylchedd rheoleiddiol yn galluogi'r diwydiant i ddarparu band eang fforddiadwy lled band uchel i gartrefi a busnesau yng Nghymru.