10/06/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 03/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 10 Mehefin 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Mehefin 2015

 

Dadl Fer

NDM5782 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Gastroenteroleg - gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru

 

NDM5781 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.

 

NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynlluniau y Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.

 

NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:

a) cael gwared ar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;

b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;

c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;

d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac

e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 4 Mehefin 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5779

1. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.

NDM5780

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.

NDM5781

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cyflwyno rhannu cyfnodau absenoldeb rhieni, sef penderfyniad a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2015, a fydd yn cefnogi dynion i gymryd rôl fwy gweithredol o ran magu plant, ac yn cefnogi menywod i ddychwelyd i gyfranogiad economaidd llawn ar ôl rhoi genedigaeth.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Mehefin 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5779

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r GIG yng Nghymru.

NDM5780

1. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.

NDM5781

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sicrhau bod menywod yn cael mynediad i gyflogaeth o ansawdd, sy'n talu'n dda ac sy'n hyblyg.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi manteision gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel o ran cefnogi menywod yn ôl i'r gweithle.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau i Gymru ddod yn genedl cyflog byw i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.