11/02/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 04/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 11 Chwefror 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Chwefror 2015

 

Dadl Fer

NDM5688 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Ail-agor Twnnel y Rhondda

Mae cynigion i ail-agor y twnnel rheilffordd segur rhwng Blaengwynfi a Blaencwm yn rhoi cyfle mawr ar gyfer adfywio a arweinir gan bobl yn y Cymoedd ac mae hwn yn fan cychwyn ar gyfer gwelliannau ehangach wedi'u harwain gan y cymunedau hynny.

 

NNDM5683 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) diwrnod cofrestru pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac yr wythnos genedlaethol o weithgareddau a gynhelir rhwng 2 a 8 Chwefror;

b) Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.

c) adroddiad cynnydd y Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a

d) llwyddiant menter ysgolion Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain 57,000 o bobl ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) yn cael eu hychwanegu at y gofrestr.

2. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.

3. Yn galw am gamau i rymuso swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – yn enwedig etholwyr ifanc a myfyrwyr - a sicrhau lefelau uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.

Mae'r adroddiad 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain' gan y Comisiwn Etholiadol ar gael yn: http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf  (Saesneg yn unig)

Cefnogir gan

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Leanne Wood (Canol De Cymru):

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Keith Davies (Llanelli)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

 

NDM5687 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dros 138,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.

2. Yn gresynu at:

a) bwriad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael yng Nghymru;

b) y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni cyflenwad priodol o dai fforddiadwy newydd yng Nghymru; ac

c) y ffaith bod nifer yr unedau tai cymdeithasol wedi gostwng ers i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am dai.

3. Yn galw am raglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad tai a lleddfu problemau o ran fforddiadwyedd.

 

NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Llywodraeth Cymru i baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n cynnwys camau i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, er mwyn sicrhau bod y GIG yn gallu darparu gwasanaethau iechyd ym mhob rhan o Gymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Chwefror 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5687

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod gan gynghorau lleol eisoes yr opsiwn o wneud cais i Lywodraeth Cymru atal yr hawl i brynu.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2a) ac ail-rifo yn unol â hynny:

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried atal yr hawl i brynu ar gyfer tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd gan gadw hawliau ar gyfer tenantiaid presennol.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy y dylid eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod tymor Cynulliad o fewn chwe mis i etholiad Cynulliad a dylid adrodd arnynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn.

 

NDM5695

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu '1,000 o feddygon' a rhoi yn ei le 'meddygon'.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod y naill Llywodraeth Cymru ar ôl y llall wedi methu â chynllunio'n effeithiol ar gyfer anghenion gweithlu'r GIG yng Nghymru.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu popeth ar ôl 'cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG,' a rhoi yn ei le 'sy'n sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol '.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Chwefror 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5683

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gytuno y dylai'r broses o drosglwyddo enwau pobl gofrestredig a oedd wedi'u cynnwys yn y gofrestr flaenorol, nad oedd wedi cofrestru'n unigol, fod yn gymwys i gofrestr 2016 yn yr un modd ag yr oedd ar gyfer 2015.