11/07/2007 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Gorfennaf 2007

NNDM3656

Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50: Yn cytuno y caiff Ann Jones gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 26 Mehefin 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol. Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/business-legislative-ballots/business-legislative-competence-orders-lco1-033.htm