11/07/2012 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 11 Gorffennaf 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Gorffennaf 2012

Dadl Fer

NDM5034

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Anrhydeddu ein Harwyr – Gwarchod Cofebau Rhyfel yng Nghymru

NDM5033

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad i'r  cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.

NDM5035

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.

NDM5036

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Gorffennaf 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5035

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rôl bwysig y mae perchnogion y rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chwarae o ran cynyddu faint o nwyddau sy’n cael eu cludo'n fasnachol ar y rhwydwaith.