Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 11 Rhagfyr 2007
Cynigion a Gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2007
NDM3830
Andrew Davies (Gorllewin Abertawe):
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:
Yn nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2008-2009, 2009-2010 a 2010-2011 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 5 Tachwedd 2007.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Rhagfyr 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3830
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
1 Yn mynegi pryder y gallai’r setliad llywodraeth leol arwain at godi’r dreth gyngor neu dorri gwasanaethau.
2 Yn credu, ac ystyried y setliad cyllideb tynn, y dylid gohirio’r ymrwymiadau newydd yn rhaglen Cymru’n Un er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ganolbwyntio ar wasanaethau craidd.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu’r cyllid i gyflawni naill na’r blaenoriaethau a nodwyd ganddi nac i roi sylw i anghenion pobl Cymru.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth lefel y setliad llywodraeth leol cyfredol gan nad yw’n ddigon i ddiogelu gwasanaethau craidd ac yn galw am adolygiad o’r setliad hwn ar frys.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyllid (FIN(3)-07-R04) sy’n datgan “bod y ffigurau a gyflwynwyd yn dangos prinder arwyddocaol yn y cyllid cyfalaf a fydd ar gael pan gymerir i ystyriaeth y dagfa o waith cynnal-a-chadw mewn meysydd allweddol ym mholisi’r Llywodraeth”.
Gellir gweld Adroddiad y Pwyllgor Cyllid drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?act=dis&id=67516&ds=12/2007
5. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y gyllideb ddrafft yn darparu cronfeydd i Gomisiwn adolygu Cyllid y Cynulliad, na fydd adolygiad o’r fath yn effeithio ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant cyfredol na’r adnoddau sydd ar gael i Gymru ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac yn gresynu na chyhoeddwyd amserlen i’r Comisiwn adolygu cyllid y Llywodraeth.
6. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer rhaglen buddsoddiad cyfalaf y GIG a’r rhaglen tagfa gwaith cynnal a chadw.
7. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer rhaglen buddsoddiad cyfalaf addysg a’r rhaglen tagfa gwaith cynnal a chadw.
8. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer y rhaglen buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.
9. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y methiant i sicrhau arian canlyniadol Barnett ar gyfer adfywio’r Gemau Olympaidd.
10. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y methiant i wyrdroi’r waelodlin is ar gyfer iechyd oherwydd y tanwariant yn GIG Lloegr.
11. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw’r gyllideb ddrafft yn gwneud unrhyw gynnydd tuag at leihau’r bwlch cyllido mewn Addysg Uwch ac ysgolion.
12. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y methiant parhaus i adfer a chynyddu gwerth gwirioneddol cyllidebau tai cymdeithasol.
13. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r arian canlyniadol ychwanegol o “Aiming High for Disabled Children: Better Support for Families" wedi’i gadw ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd yng Nghymru.
Gellir cael copi o Aiming High for Disabled Children: Better Support for Families drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.everychildmatters.gov.uk/_files/64301A568B221580F3F449A098CB3CE9.pdf
14. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y methiant i ddod o hyd i ddigon o gyllid ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru.
15. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y methiant i gynnal buddsoddiad termau real mewn diogelwch ar y ffordd.
16. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y methiant i gynnal buddsoddiad termau real mewn rhaglenni i fynd i’r afael â thrais yn y cartref.
17. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi effaith yr achos diweddar o glwy’r traed a’r genau ar gymunedau gwledig a’r methiant i ddarparu digon o iawndal yn y gyllideb ddrafft.
18. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sector iechyd.
19. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer pwysau ariannol ychwanegol ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau.