12/01/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 12 Ionawr 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 05 Ionawr 2010

NDM4354 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn unol ag Adran 84H Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2010-2011 (Setliad Terfynol - Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd mewn e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar ddydd Mawrth, 5 Ionawr 2010.

NDM4355 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru)

Gosodwyd y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 19 Hydref 2009.

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 10 Rhagfyr 2009.

NDM4357 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii) a 23.81, sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.

Cynnig a gyflwynwyd ar 03 Rhagfyr 2009

NDM4348 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Bod cynnig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y D.U. ystyried y darpariaethau hynny sy'n ymwneud â Byrddau Lleol Diogelu Plant a darparu gwybodaeth am ysgolion etc yn y Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd, fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 19 Tachwedd 2009, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 03 Rhagfyr 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).

I weld copi o’r  Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd ewch i:

h

ttp://www.publications.parliament.uk/pa/cm200910/cmbills/008/10008.i-iii.html

Cynnig a gyflwynwyd ar 10 Rhagfyr 2009

NDM4353 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau Mesur Seneddol Gofal Personol yn y Cartref, i'r graddau y mae'r darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried a’u cyflwyno gan Senedd y DU.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).

I weld copi o’r Mesur Seneddol Gofal Personol yn y Cartref ewch i:

h

ttp://services.parliament.uk/bills/2009-10/personalcareathome.html

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 6 Ionawr 2010

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4348

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn gresynu nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael y cyfle i ystyried a dylanwadu ar y darpariaethau perthnasol yn y Mesur."

NDM4353

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn gresynu nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael y cyfle i ystyried a dylanwadu ar y darpariaethau perthnasol yn y Mesur."

NDM4354

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi digon o gydnabyddiaeth drwy'r setliad i sialensiau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth ac yn galw am ddiwygio'r fformiwla cyllido er mwyn rhoi digon o sylw i hyn."

2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud mwy i leihau cyfran y neilltuo yn y trefniadau cyllido cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol."

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 07 Ionawr 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4354

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i symleiddio’r system grantiau wedi’i neilltuo, sef y system a ddefnyddir i gyllido awdurdodau lleol.

NDM4355

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r darpariaethau yn y Mesur i roi sylw i ddosbarthiad anghyfartal yr ardoll rhwng Cymru a rhanbarthau eraill y DU.