Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Ionawr 2010
Cynigion â Dyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 6 Ionawr 2010
Dadl Fer
NDM4361 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Trident: y Buddsoddiad Anfoesol
NDM4358 Mick Bates (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Prif-ffrydio cynaliadwyedd o fewn portffolios y Gweinidogion - 10 mlynedd o ddyletswydd statudol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2009
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2009.
NDM4359 Janet Ryder (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Is-Ddeddfwriaeth ar ei ymchwiliad i'r gwaith Craffu ar Is-Ddeddfwriaeth a Phwerau Diprwyedig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2009.
Noder: Gosodwyd ymateb y Cwnsler Cyffredinol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2009.
NDM4360 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi'r Siarter Tlodi Tanwydd ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymgorffori nodau polisi'r Siarter yn ei Strategaeth Tlodi Tanwydd a gyhoeddir cyn bo hir.
Gellir gweld y Siarter Tlodi Tanwydd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
h
ttp://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/assets/uploads/2009/10/Welsh-Fuel-Poverty-Charter-Welsh-V6.pdf”
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 07 Ionawr 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4360
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid ffocws y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn fwy effeithiol.
Gellir cael gafael ar y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref drwy ddilyn yr hyperddolen canlynol:
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 08 Ionawr 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4060
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan ac yn ei le rhoi:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cwblhau ymgynghoriad ar ei Strategaeth Tlodi Tanwydd arfaethedig yn ddiweddar;
2. Yn edrych ymlaen at weld y Strategaeth honno'n mynd i'r afael â nodau polisi'r Siarter Tlodi Tanwydd;
3. Yn croesawu'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed yn ddiweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru at y maes blaenoriaeth hwn.
Gellir gweld y dogfennau ar gyfer yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar y Strategaeth Tlodi Tanwydd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/fuelpoverty/?lang=cy
Gellir gweld y Siarter Tlodi Tanwydd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/cy/