13/01/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 06/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/01/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 13 Ionawr 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Ionawr 2016

NDM5917 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cenedl sy'n cynnig lloches? Y rôl y gall Cymru ei chwarae yn yr argyfwng ffoaduriaid.

NDM5911 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Cymru drafft.

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft

Bil Cymru drafft

NDM5912 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd bresennol.

NDM5913 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gael gwared â'r prawf angenrheidrwydd neu osod prawf yn seiliedig ar briodoldeb yn ei le.

NDM5914 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys system i ofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998.

Deddf yr Alban 1998 (Saesneg yn unig)

NDM5915 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i leihau'n sylweddol nifer y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol mewn ffordd sy'n cyd-fynd â deddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol a fydd yn cael pwerau treth incwm.

NDM5916 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys awdurdodaeth benodol fel bod Deddfau Cymru yn berthnasol i Gymru yn unig ac yn addasu cyfraith Cymru a Lloegr fel sy'n briodol i'w gorfodi o fewn rheswm.

NDM5921 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3:

(i) yn ethol John Griffiths (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw;

(ii) yn ethol Jeff Cuthbert (Llafur) yn eilydd i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ran John Griffiths (Llafur).