Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Mawrth 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2012
NDM4934
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru;
2. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.
NDM4935
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi’i chyhoeddi; a
2. Yn nodi ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith.
Mae Strategaeth y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn:
h
ttp://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4934
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
‘, ond yn credu ei bod yn amser rhoi'r gorau i siarad â Rhanddeiliaid ac yn amser dechrau modelau cyflenwi da'
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai yn dangos mewn rhai ardaloedd bod Budd-dal Tai yn gallu cefnogi cwsmeriaid i fyw mewn llety na all nifer o bobl sydd mewn gwaith ei fforddio, ac yn dadlau bod angen rhagor o ddiwygiadau.
Gellir gweld ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai drwy fynd i:
http://www.dwp.gov.uk/consultations/2009/supportingpeopleintowork.shtml
3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel’.
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai.
Mae linc i’r adroddiad ar gael drwy fynd i:
http://www.cutswatchcymru.org/
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai, sy'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg a gafodd ei adael gan y Llywodraeth Lafur flaenorol.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnwys cymorth tai mewn Credyd Cynhwysol.
NDM4935
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi’r strategaeth.
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) W
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad diwethaf.
3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) W
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) W
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys mesurau i adfywio'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei rhaglen ddeddfwriaeth.
5. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) W
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i wireddu'r strategaeth.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.