Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Mai 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Mai 2008
NDM3931
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi byrdwn y strategaeth newydd ar gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru - 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018, a gyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori ar 11 Chwefror 2008.
Ceir copi o’r ddogfen ymgynghori isod -
h
ttp://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/consultation/workingtogether/?lang=cy
NDM3932
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2006-07.
Cafodd copi o’r Adroddiad Blynyddol ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno a’i anfon at Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ar 6 Mai 2008.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 07 Mai 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3931
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder oherwydd methiant strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth y Cynulliad hyd yn hyn ac yn nodi bod yn rhaid i strategaeth camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol adlewyrchu’n benodol brofiadau ymarferol defnyddwyr gwasanaeth, cyngor ymarferol arbenigwyr sy’n gweithio yn y sector a chanfyddiadau ymarferol adroddiadau annibynnol.
2. William Graham (South Wales East)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y gefnogaeth ariannol a roddwyd gan Lywodraeth flaenorol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gosod peiriant nodwyddau yng Ngogledd Cymru.
NDM3932
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cyfeiriad y Prif Arolygydd at yr effaith fuddiol a gaiff gwelliannau yn ansawdd adeiladau ysgolion ar forâl staff a pherfformiad disgyblion ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno rhaglen yn ddiymdroi ar gyfer mynd i’r afael â’r ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer adeiladau ysgolion Cymru, yr amcangyfrifir iddo fod yn £640m.