Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 13 Mai 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2014
NDM5492 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy’n ymwneud â mesurau sy’n effeithio ar fusnesau: cyffredinol, trafnidiaeth, yr amgylchedd, addysg a hyfforddiant, mesurau i leihau’r baich ar awdurdodau cyhoeddus a deddfwriaeth nad yw o ddefnydd ymarferol mwyach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Mae copi o'r Bil Dadreoleiddio i'w weld yma:
Dogfennau'r Bil – Y Bil Dadreoleiddio [Ty’r Cyffredin] 2013-14 – Senedd y DU