Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 14 Hydref 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Hydref 2014
NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'.
Cewch weld copi o'r adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:
NDM5596 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Addysg Uwch (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
NDM5597 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Uwch (Cymru)
Gosodwyd Bil Addysg Uwch (Cymru)a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 19 Mai 2014;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil Addysg Uwch (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 3 Hydref 2014.
NDM5598 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2014.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Hydref 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5595
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014 sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith bod gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5595
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod parhau i fod yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r rôl sylfaenol y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.