15/11/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 08/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cynigion a gwelliannau i'w Trafod ar 15 Tachwedd 2016

 

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Tachwedd 2016

 
NDM6135 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2016.

 
NDM6136 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2015-16.

'Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2015-16'

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Tachwedd 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6136
 
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac yn benodol y rhai sy'n berthnasol i:

a) gwella profiadau plant o ofal iechyd meddwl;

b) cyflwyno trefn weithredu genedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol fel mater o flaenoriaeth; ac 

c) cryfhau'r gofynion cofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref.
 
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn galw drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Gomisiynydd Plant Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Gomisiynydd Plant Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Gomisiynydd Plant Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.