17/01/2013 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Ionawr 2013

NNDM5147

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Rees (Aberafan)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Cefnogwyd gan:
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Keith Davies (Llanelli)
Elin Jones (Ceredigion)
Christine Chapman (Cwm Cynon)

NNDM5148

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)

Mae’r Cynulliad hwn yn credu bod defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn arfer barbaraidd a hynafol nad yw’n adlewyrchu Cymru fodern a thrugarog.

NNDM5149

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r awydd sy’n bodoli ymysg cefnogwyr pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt am gyflwyno mannau sefyll diogel yn yr Uwchgynghrair a Phencampwriaeth y Gynghrair Bêl-droed.

2. Yn cydnabod y rôl allweddol y gall Aelodau Cynulliad a chlybiau pêl-droed Cymru sy'n cystadlu ym Mhyramid Lloegr ei chyflawni yn lobïo Llywodraeth y DU ac awdurdodau pêl-droed i dderbyn yr achos dros gyflwyno mannau sefyll diogel fel trefniant prawf, cyfyngedig.

3. Yn nodi’r rôl gadarnhaol y gallai mannau sefyll mewn gemau pêl-droed ei chwarae yn lleihau prisiau tocynnau’n sylweddol, gwella mynediad at bêl-droed ar lefel uchel i bobl o gymunedau difreintiedig, gwella’r awyrgylch a rhoi rhagor o ddewis i’r gwylwyr.

4. Yn cydnabod bod mannau sefyll diogel yn rhywbeth gweithredol, poblogaidd, sydd wedi hen ennill ei blwyf mewn gemau pêl-droed ar lefel uchel yn yr Almaen; a hefyd mewn gemau rygbi’r undeb, rygbi’r gynghrair, digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau cyhoeddus eraill ledled y DU.

Cefnogwyd gan:
Mohammad Asghar

NNDM5150

Byron Davies (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai Cymru fel gwlad oedd y cyntaf i gydnabod poen cronig fel cyflwr ynddo’i hun yn 2008, gyda chyhoeddi’r Cyfarwyddebau Poen Cronig.

2. Yn croesawu’r cyfle i symud agenda poen cronig Cymru yn ei blaen drwy adnabod a rheoli poen yn gynt ac yn well.

3. Yn credu bod angen i Gymru weithredu cyfarwyddebau poen cronig 2008 yn llawn ac yn gyson ledled Cymru, er mwyn lleihau dioddefaint unigolion a lleihau’r baich economaidd-gymdeithasol a’r baich ar ofal iechyd, ac yn nodi:

a) yng Nghymru, yr amcangyfrifir bod 378,000 o bobl yn dioddef poen cronig, sef dros un o bob wyth unigolyn yng Nghymru, ac nad yw’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau ar gyfer poen cronig yn adlewyrchu’r angen;

b) bod rheoli poen cronig gan wasanaethau gofal sylfaenol yn dod â manteision economaidd sylweddol, a phetai gwasanaethau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru, gallai leihau dioddefaint unigolion ac arwain at hyd at £77 miliwn o arbedion cost;

c) bod llai na hanner (46%) o feddygon teulu’n hyderus eu bod yn gwybod beth i'w wneud os yw claf yn parhau i gwyno am boen ar ôl cael triniaeth gychwynnol, ac y bydd addysg a hyfforddiant sgiliau felly'n hollbwysig.  

4. Yn cydnabod bod rheoli poen yn flaenoriaeth ac y dylai lleddfu poen sy'n lleihau trallod ac anabledd fod yn hawl dynol sylfaenol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi a gwthio’r argymhellion yng Nghyfarwyddebau Poen Cronig 2008, a dangos ymrwymiad i wella’r gwaith o adnabod a rheoli poen yn gynnar yn gyson ledled Cymru.

Gellir gweld y Cyfarwyddebau Poen Cronig drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/strategies/pain/?skip=1&lang=cy

NNDM5151

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.

NNDM5152

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.