17/09/2014 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 11/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2014

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 17 Medi 2014

 
  

Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Medi 2014

 
 

Dadl Fer

NDM5564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Gohebiaeth ar bapur: hawl y defnyddiwr i ddewis

 

NDM5563 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i gyfleoedd ariannu’r UE ar gyfer 2014-2020, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2014.
 

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 10 Medi 2014.

 
 

NDM5565 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis i aros yn y DU ar 18 Medi 2014.
 
 

NDM5562 Elin Jones AC (Ceredigion)

 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 

1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na'r cyflog byw.2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu cyflog byw yng Nghymru drwy:

 
a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru;
 

b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r cyflog byw; a

c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau bod yr isafswm cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Medi 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5565

1. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod dyfodol yr Alban yn fater i bobl yr Alban.

2. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o wasanaethu'r cysylltiadau cryf rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn yw drwy ysbryd o gydweithredu a chydraddoldeb.

3. Yn nodi y byddai ymwreiddio'r Fformiwla Barnett, fel yr addawyd gan bleidiau'r DU yn yr ymgyrch 'Na' ar gyfer y refferendwm ar 18 Medi 2014, yn niweidiol i Gymru.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Medi 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5562

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu 2 c) a rhoi yn ei le:

Sefydlu adolygiad annibynnol i ymgynghori ar sut i bennu cyflog byw teg, gan weithio gyda rhanddeiliaid fel y Sefydliad Cyflog Byw, heb niweidio cyfleoedd cyflogaeth ac er mwyn gwella camau gorfodi.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r ffaith y bydd 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru yn derbyn toriad treth o £800 o fis Ebrill 2015 ymlaen diolch i benderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500, ac y bydd hyn yn cynorthwyo'r gweithwyr hynny yng Nghymru sy'n cael eu talu llai na'r cyflog byw.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai'r trothwy treth incwm gael ei godi i £12,500, i sicrhau na fydd  gweithwyr sy'n cael eu talu'r cyflog isafswm yn gorfod talu treth incwm o gwbl.

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymhellach fod 98.4% o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau micro neu fach, a bod angen sicrhau bod unrhyw bolisi cyflog byw yn ddichonadwy yn ogystal â sicrhau bod ein busnesau bach yn goroesi.

 

NDM5565

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu  confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.

 

Mae Rhan 1 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf

 

Mae Rhan 2 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf